Yn gryno
Bydd y cwrs hwn yn eich darparu gydag ystod o gyfleoedd dilyniant, gan gynnwys dysgu pellach yn y coleg ar un o'n cyrsiau ar y lefel nesaf, prentisiaeth neu gyflogaeth.
... Ydych yn greadigol
.... Ydych yn ansicr ynglyn â'r hyn yr ydych eisiau ei wneud
... Ydych eisiau roi cynnig ar nifer o feysydd gwahanol i benderfynu ble mae eich angerdd
Cynlluniwyd ein cwrs Lefel 1 Celf i gyflwyno’r maes astudio sydd fwyaf diddorol i chi, ac i'ch helpu wrth ddatblygu sgiliau dysgu ehangach.
Byddwch yn cael y cyfle i roi cynnig ar fwy nag un maes galwedigaethol a chael blas ar fywyd coleg. Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol, trosglwyddadwy ac yn cyflawni tasgau sy'n canolbwyntio ar arddangos yr hyn y gallwch ei wneud a'r hyn rydych wedi ei ddysgu.
Rhaid i ddysgwyr gwblhau pob uned graidd a chwe uned sector.
Dewisir yr unedau i ddangos datblygiad a chynnydd dysgwyr orau.
Mae'r unedau craidd y byddwch yn eu dilyn yn cynnwys:
- Bod yn drefnus
- Creu cynllun datblygu
- Gweithio gydag eraill
- Ymchwilio i bwnc
Gall unedau Celf a'r Cyfryngau Creadigol gynnwys:
- Creu Delwedd
- Creu Gwrthrych Celf 3D
- Defnyddio Camera i Gyflwyno Delwedd
- Dylunio Cynnyrch
- Cynllunio a Marchnata Arddangosiad
- Creu Bwrdd Hwyliau
- Creu Arteffact gan Ddefnyddio Clai
- Creu Print
Cewch eich asesu trwy gwblhau aseiniadau, tasgau ac asesiadau ymarferol. Ar ôl gorffen, byddwch wedi ennill:
- Diploma BTEC Lefel 1 mewn Astudiaethau Galwedigaethol
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg Mathemateg a Saesneg (os nad oes gennych Radd C neu uwch ar lefel TGAU)
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol. Fodd bynnag, mae diddordeb mewn dysgu am y gwahanol feysydd galwedigaethol yn angenrheidiol.
Bydd angen i chi fod yn llawn cymhelliant, yn weithgar ac yn barod i roi cynnig ar bethau newydd ym maes galwedigaethol celf a'r cyfryngau creadigol. Bydd disgwyl i chi ymarfer sgiliau a thechnegau mewn amgylcheddau gwaith realistig o fewn y coleg a fydd yn eich caniatáu i feithrin eich sgiliau cyflogadwyedd. Mae presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yn ofyniad gorfodol ar y cwrs hwn.
Gallech barhau â'ch astudiaethau ar Lefel 2 mewn maes galwedigaethol o'ch dewis neu gael swydd yn eich maes o ddewis
Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol. Fodd bynnag, mae diddordeb mewn dysgu am gelf a chyfryngau creadigol yn ofynnol.
Bydd disgwyl i chi brynu rhai deunyddiau i gefnogi eich dysgu, megis llyfr braslunio. Gall costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.