• Llawn Amser
  • Lefel 3

BTEC Diploma Cenedlaethol mewn Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol Lefel 3

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2025/26 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd 2025.

Maes Pwnc
Celf, Cyfryngau, Dylunio a Ffotograffiaeth
Dyddiad Cychwyn
2 Medi 2025
Dull Astudio
Llawn Amser
Lefel
3

Yn gryno

Byddwch yn dysgu i ddangos sut y gellir cyfleu syniadau, teimladau ac ystyron o fewn y gwahanol feysydd o’r Cyfryngau drwy astudio’r cwrs hwn.

...mae gennych allu mewn maes creadigol

...mae gennych ddawn greadigol wych

...rydych eisiau gyrfa yn defnyddio eich sgiliau celf a dylunio

...rydych yn hoffi gweithio mewn grwpiau a chydweithio

Mae’r Cyfryngau’n parhau i fod yn opsiwn dymunol i fyfyrwyr sy'n dymuno dilyn gyrfaoedd creadigol 'traddodiadol', o fewn ffilm, teledu, radio a newyddiaduriaeth. Fodd bynnag, mae'r rhyngrwyd wedi gweld ffrwydrad o rolau newydd cyffrous yn ymddangos.

Byddwch yn archwilio amrywiaeth o syniadau ac adnoddau perthnasol sy’n ymwneud â’r cyfryngau a ffilm a chreu ymatebion ymarferol iddynt, gan arddangos dealltwriaeth o wahanol arddulliau, genres a thraddodiadau. Bydd eich gwaith prosiect yn gysylltiedig â’ch gwefan, a bydd pwyslais ar ffilmio/golygu a chynhyrchu cyfryngau.

Mae tiwtoriaid yn gyfredol ac yn berthnasol wrth iddynt barhau i weithio yn eu meysydd arbenigol eu hunain, a'r ethos proffesiynol a'r profiad galwedigaethol hynny fydd yn gwneud yr holl wahaniaeth i'ch astudiaethau.

Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau mewn cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth gan ddefnyddio rhifau, cynllunio a gwaith tîm.

Ymhlith modiwlau Cyfryngau mae:

  • Ffilm Ddogfen
  • Ffilm wedi'i Sgriptio
  • Ffilm Arbrofol
  • Graffeg Gyfrifiadurol
  • Technegau Amlgyfryngol

Byddwch yn cael eich asesu drwy gwblhau gwaith cwrs.

Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn ennill:

  • Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol
  • Gweithgareddau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
  • Cymhwyster Bagloriaeth Cymru
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg

Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af

NEU

Cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU Gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, bydd cyfle i chi symud ymlaen at addysg uwch neu i weithio mewn diwydiannau megis Teledu a Ffilm, Ffotograffiaeth, Newyddiaduriaeth a Hysbysebu.

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af, neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af.

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFBE0036AA
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Parth Dysgu Torfaen

Côd y Cwrs
PFBE0036AA
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy