Yn gryno
Bydd y cwrs blwyddyn o hyd newydd ac arloesol hwn, a gymeradwywyd gan Brifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL), yn eich helpu i ddarganfod eich prif ddiddordebau ym maes celf a dylunio a datblygu rhai o’r sgiliau hanfodol sy’n sail i ddisgyblaethau creadigol. Bydd yn eich annog i gyfathrebu'n weledol, i feddwl yn gysyniadol ac i ddatblygu technegau datrys problemau ac ymarferol.
...ydych eisiau archwilio meysydd gwahanol o fewn celf a dylunio
...ydych eisiau ymestyn eich gallu i feddwl yn gysyniadol ac i gyfathrebu'n weledol
...ydych eisiau gyrfa yn y diwydiannau creadigol, fel ffasiwn, celf gain, dylunio neu ffotograffiaeth
Bydd y cwrs yn cwmpasu arbenigeddau creadigol gyda phrosiectau cyffrous a gynlluniwyd i adlewyrchu profiad yn y diwydiant. Bydd gennych fynediad at weithdai a stiwdios celf a dylunio proffesiynol a byddwch yn dysgu trwy arbrofi, gan ddefnyddio ystod eang o brosesau 2D, 3D a digidol.
Bydd prosiectau yn eich helpu i ennill dealltwriaeth gyd-destunol o gelf a dylunio, gan eich cefnogi i greu a mynegi eich taith bersonol a dehongliadau. Bydd gan eich tiwtoriaid sgiliau, gwybodaeth a phrofiad helaeth o ymarfer diwydiannol ac addysg o fewn y celfyddydau creadigol, a thrwy gydol y flwyddyn byddwch yn cael eich annog i ddatblygu cysylltiadau a diddordebau personol.
Yn Nhymor 3, byddwch yn ymgymryd a phrosiect personol i nodi maes diddordeb mwy arbenigol megis paentio a lluniadu, ffasiwn a thecstilau, dylunio 3D, ffotograffiaeth a dylunio digidol. Byddwch yn cael eich asesu yn ol eich gwaith cwrs, gan gyflawni gradd Lefel 3 mewn Celf a Dylunio yn y pen draw, yn ogystal a chymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau, eich gweithgareddau sgiliau a'ch Saesneg a Mathemateg.
Ar ôl cwblhau’r diploma blwyddyn o hyd hwn, gallwch symud ymlaen i’r ail flwyddyn lle byddwch yn gallu canolbwyntio ar arbenigedd o’ch dewis, yn ogystal â gweithio ar draws cyfryngau a gweithdai i’ch helpu i ddewis eich gyrfa greadigol. Ar ôl cwblhau blwyddyn dau, byddwch yn gallu symud ymlaen i Addysg Uwch, gan gynnwys ein hystod o gyrsiau ar lefel Gradd Sylfaen, Diploma Cenedlaethol Uwch. Gallwn hefyd eich arwain trwy broses ymgeisio UCAS i wneud cais am ystod eang o raglenni gradd yn y celfyddydau creadigol.
Bydd angen o leiaf 5 TGAU Gradd C (neu’n uwch) arnoch, gan gynnwys Celf/Pwnc Creadigol a naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU sy’n cynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf Gradd C (neu’n uwch).