• Llawn Amser
  • Lefel 2

UAL Diploma in Creative Media Production & Technology (Media & Photography) Level 2

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Celf, Cyfryngau, Dylunio a Ffotograffiaeth
Dyddiad Cychwyn
1 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Lefel
2

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad i amrywiaeth o sgiliau sy'n ofynnol gan y diwydiannau creadigol, a bydd modd i chi loywi eich sgiliau creadigol ar gyfer y llwybr creadigol o'ch dewis o fewn meysydd y cyfryngau a ffotograffiaeth.

... Rydych chi’n greadigol

... Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa yn niwydiannau'r cyfryngau neu ffotograffiaeth

... Rydych chi’n weithiwr caled ac yn gallu cymell eich hun

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd eisiau gweithio mewn swydd greadigol sy'n ymwneud â thechnoleg a symud ymlaen i gwrs Lefel 3 mewn maes pwnc perthnasol (e.e. y cyfryngau creadigol, dylunio gemau, celf a dylunio aneu ffotograffiaeth).

Byddwch yn adeiladu eich dealltwriaeth a galluoedd ymarferol mewn amrywiaeth o brosesau a meddalwedd a byddwch yn cwblhau ystod o aseiniadau ymarferol. Byddwch yn gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm ar gyfer aseiniadau ymarferol.

Bydd gennych fynediad at y feddalwedd Adobe Creative Cloud a'r cyfrifiaduron Apple Mac diweddaraf, ynghyd â chyfleusterau cyfredol rhagorol.

Byddwch yn astudio cyfanswm o 8 uned:

  • Uned 1: Cyflwyniad i ddulliau a sgiliau yn y cyfryngau creadigol

  • Uned 2: Cyflwyniad i ddulliau cynhyrchu yn y cyfryngau creadigol

  • Uned 3: Deall y gynulleidfa wrth gynhyrchu ym maes y cyfryngau cymdeithasol

  • Uned 4: Ymchwil cyd-destunol ar gyfer cynhyrchu ym maes y cyfryngau creadigol

  • Uned 5: Archwilio cynhyrchu a thechnoleg sain

  • Uned 6: Archwilio cynhyrchu a thechnoleg weledol

  • Uned 7: Archwilio cynhyrchu a thechnoleg yn y cyfryngau rhyngweithiol

  • Uned 8: Prosiect personol a chyflwyniad ar gynhyrchu yn y cyfryngau creadigol

Nid oes angen sefyll arholiadau, ond caiff pob aseiniad ei gymedroli dair gwaith y flwyddyn.

Cewch eich asesu drwy waith ymchwil a dadansoddi, gwaith ysgrifenedig, dylunio creadigol, defnydd o dechnoleg, datrys problemau, a gwerthuso. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn ennill:

  • Cymhwyster UAL Lefel 2 mewn Cynhyrchu a Thechnoleg y Cyfryngau (Y Cyfryngau a Ffotograffiaeth)
  • Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg

I gofrestru, bydd angen o leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnaso.

Dylech allu datblygu syniadau creadigol a bod yn barod i archwilio ystod eang o brosesau technolegol. Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, y gallu i gymell eich hun a brwdfrydedd tuag at y pwnc. Mae disgwyl i chi barhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Ystod o Ddiplomâu Estynedig Lefel 3 Creadigol megis BTEC Lefel 3 mewn Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol, UAL Lefel 3 mewn Ffotograffiaeth.

Byddai cwblhau Diploma Estynedig Lefel 3 yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i addysg uwch a chyrsiau prifysgol.

Bydd angen o leiaf 4 TGAU Gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith 1af.

NEU

Gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd Gradd D neu Saesneg/Cymraeg Iaith 1af Gradd D neu uwch.

Yn Crosskeys, bydd modd i chi astudio yn ein cyfleusterau o'r radd flaenaf sy'n cynnwys:

  • Ystafell sgrin werdd ar gyfer recordio golygfeydd ar gyfer ffilm a theledu

  • Ystafelloedd sain ar gyfer recordio cerddoriaeth, effeithiau sain a throsleisio

  • Gofod celf pwrpasol ar gyfer lluniadu a chreu cynnyrch

  • Stiwdio ffotograffiaeth broffesiynol

  • Cyfleusterau ystafell dywyll

  • Y defnydd o gamerâu ac offer eraill drwy gydol eich cwrs

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFBD0064AA
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy