En
Learner awards attendees and brochure

Dathlu ein Gwobrau Dysgwyr blynyddol gydag Ollie Ollerton


23 Mehefin 2023

Mae'r Digwyddiad Gwobrwyo Dysgwyr yn llwyfan i ddathlu llwyddiannau eithriadol dysgwyr Coleg Gwent

Ddoe, cynhaliwyd ein Digwyddiad Gobrwyo Dysgwyr flynyddol, sef digwyddiad i ddathlu ein dysgwyr ysbrydoledig a’u cyflawniadau dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Roedd y digwyddiad, a oedd yn canolbwyntio ar y thema llesiant, yn cydnabod ymrwymiad, ymroddiad a chyflawniadau eithriadol ein dysgwyr.

Learner Awards tables and balloons

Gwnaeth Ollie, seren SAS: Who Dares Wins ar Sianel 4 annerch y gynulleidfa gyda neges i ‘Wneud heddiw yn unig’ i ddathlu ymroddiad ein dysgwyr. Rhoddodd gipolwg ar ei stori bersonol i ddysgwyr ac fe’u hanogodd i gofleidio anghysur. Siaradodd hefyd am sut i weithredu strategaeth lwyddiant ddyddiol a rhoddodd awgrymiadau ar gyfer rheoli iechyd meddwl.

Mae’r Digwyddiad Gwobrwyo Dysgwyr yn llwyfan i ddathlu llwyddiannau eithriadol dysgwyr Coleg Gwent. Mae’r digwyddiad yn amlygu’r ymroddiad a’r gwaith caled y mae’r unigolion hynod hyn wedi’u dangos drwy eu hastudiaethau, eu gweithgareddau allgyrsiol, a’u cymunedau.

Dance students

I dderbyn gwobr, efallai y bydd dysgwr wedi goresgyn adfyd, wedi dangos agwedd gadarnhaol neu ddawn eithriadol, neu wedi troi methiant mewn i lwyddiant.

Cawsom dros 420 o enwebiadau eleni, sy’n dyst i’n dysgwyr anhygoel a’u gwytnwch a’u penderfyniad i lwyddo. Cafodd yr enwebiadau eu mireinio i 95 o enillwyr Gwobrau Cyflawniad Dysgwr ar draws y tair ysgol Coleg Gwent. Dewiswyd pum dysgwr hefyd ar gyfer gwobrau cydnabyddiaeth arbennig.

Dyfarnwyd Gwobrau Cyfarwyddwyr y Gyfadran i Mari Copner, Kristian Ofsteng ac Cariad Manuel am y cynnydd a wnaethant yn ystod eu hastudiaethau. Derbyniodd Demi Fellows Gwobr y Cadeirydd am oresgyn adfyd, ac enillodd Honey Hughes Wobr y Prifathro ar gyfer perfformiad rhagorol.

Coleg Gwent Learner Awards winners

Dywedodd yr Is-bennaeth Nikki Gamlin:

“Rydym mor falch o gyflawniadau ein dysgwyr eleni unwaith eto. Mae ein dysgwyr yn dal i brofi i ni eu hyblygrwydd a’u hymrwymiad tuag at gyflawni eu nodau. Rwyf hefyd am ddiolch i’r tîm dawnus a gweithgar sy’n cefnogi ein dysgwyr i gyflawni pethau aruthrol. Llongyfarchiadau i’n holl enillwyr ac enwebeion – rydych chi’n ein hysbrydoli bob dydd!”

Cynhaliwyd y Seremoni Wobrwyo Dysgwyr 2023 ar ddydd Iau 22 Mehefin yn ICC Cymru.

Enillwyr

Gwobrau Cyfarwyddwyr y Gyfadran – Mari Copner, Kristian Ofsteng, Cariad Manuel

Gwobr y Cadeirydd – Demi Fellows

Gwobr y Pennaeth – Honey Hughes

 

Cyfadran Astudiaethau Creadigol a Thechnegol

Gwobr Cyflawniad Peirianneg Awyrofod

Parth Dysgu Blaenau Gwent- Muza Adam

Gwobr Cyflawniad Peirianneg Drydanol

Crosskeys – Benjamin Joyce

Gwobr Cyflawniad Peirianneg

Casnewydd – Adam Bennett

Gwobr Cyflawniad Peirianneg Fecanyddol

Crosskeys – Jack Wilkins

Gwobr Cyflawniad Peirianneg Chwaraeon Modur

Parth Dysgu Blaenau Gwent- – Mark Taylor

Gwobr Cyflawniad Peirianneg Cerbydau Modur

Parth Dysgu Blaenau Gwent- – Zac Smith / Crosskeys – Abigail Allen / Casnewydd– Nicky Stinchcombe

Gwobr Cyflawniad Aml-sgiliau

Parth Dysgu Blaenau Gwent- – Deacon Parsons / Casnewydd – Shanice Aspell

Gwobr Cyflawniad Adeiladu

Parth Dysgu Blaenau Gwent- – Emma Hutchinson / Casnewydd – TJ Winmill

Gwobr Cyflawniad Gwasanaethau Adeiladu

Parth Dysgu Blaenau Gwent- – Joseph Bennett / Casnewydd – Adrian Bucik

Gwobr Cyflawniad Gwasanaethau Trydanol

Casnewydd – Charlie Watts

Gwobr Cyflawniad Dylunio Gemau

Crosskeys – Aaron Jones

Gwobr Cyflawniad E-chwaraeon

Parth Dysgu Blaenau Gwent– Miles Pearce

Gwobr Cyflawniad Celf a Dylunio

Parth Dysgu Blaenau Gwent –James Thompson / Crosskeys – Ace Simpson-Rogers / Casnewydd – Kristian Ofsteng / Parth Dysgu Torfaen– Rhiannon Jarman 

Gwobr Cyflawniad y Cyfryngau

Crosskeys – Bradley Turner / Casnewydd – Amber Ajaz

Gwobr Cyflawniad Cerddoriaeth

Parth Dysgu Blaenau Gwent– Ally Garcia / Crosskeys – Charlotte Francis

Gwobr Celfyddydau Perfformio

Crosskeys – Matthew Evans

Gwobr Cyflawniad Aml-sgiliau

  • Mathemateg – Daisy Wanjiru
  • Saesneg – Zoe Ann Shaw

 

Cyfadran Gofal ac Astudiaethau Cymunedol

Gwobr Cyflawniad Gofal Plant

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Olena Miroshychenko / Crosskeys – Olivia Rice / Casnewydd – Kateryna Harbar / Parth Dysgu Torfaen– Cariad Manuel

Gwobr Cyflawniad Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Libby Bishop / Crosskeys – Chloe Houghton / Casnewydd – Levi McKinley / Parth Dysgu Torfaen– Demi Fellowes

Gwobr Cyflawniad Sgiliau Byw’n Annibynnol

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Sophie Laing / Crosskeys – Nicole Lawless / Casnewydd – Logan McCarthy-Rowles / Parth Dysgu Torfaen – Courtney Bennett

Gwobr Cyflawniad Trin Gwallt

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Aleshia Lane / Crosskeys – Chantelle Gleed / Casnewydd – Lynette Yates

Gwobr Cyflawniad Harddwch

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Nooria Nazari / Crosskeys – Dylan Taylor / Casnewydd – Asiya Shehzad

Gwobr Cyflawniad Lletygarwch

Crosskeys – Clark Parry

Gwobr Cyflawniad Teithio a Thwristiaeth

Crosskeys – Eliza Thomas

Gwobr Cyflawniad ESOL

Casnewydd – Liudmyla Drobchenko

Gwobr Cyflawniad Gwyddoniaeth

Casnewydd – Vania Bandani / Parth Dysgu Torfaen – Tyler Morton

Gwobr Cyflawniad Mynediad

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Holly Davies / Crosskeys – Laura Treasure / Casnewydd – Abigail Patrick / Parth Dysgu Torfaen – Melanie McCann

 Gwobr Cyflawniad Aml-sgiliau

  • Mathemateg – Madison James
  • Saesneg – Gemma Lixton

Gwobr yr Iaith Gymraeg

Alyssa Gunter

 

Astudiaethau Menter ac Academaidd

Gwobr Cyflawniad Safon UG

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Mari Copner, Meng-ji Chen / Crosskeys – Jed Watkins, Janice Ambati / Parth Dysgu Torfaen – Leon Hopkins, Oliver Brunnock Cook

Gwobr Cyflawniad Safon Uwch

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Christina Williams, Millie Takel / Crosskeys – Honey Hughes / Parth Dysgu Torfaen – Julia Marszalek, Francesca Dare

Diploma Cenedlaethol mewn Gwyddoniaeth

Crosskeys – Ella Jones

Gwobr Cyflawniad Busnes

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Chloe Pope / Crosskeys – Ryan Warlow / Casnewydd – Thomas Brehony / Parth Dysgu Torfaen – Afshin Salehi-Reyhani

Gwobr Cyflawniad Cyfrifiadura

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Thomas Thompson / Crosskeys – Daniel Kinsey / Casnewydd – Jay Hale / Parth Dysgu Torfaen – Elliot Pope

Gwobr Cyflawniad Chwaraeon

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Daisy Shaw / Crosskeys – Shannon Jones / Parth Dysgu Torfaen – Dylan Bull

Gwobr Cyflawniad Gwasanaethau Cyhoeddus

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Imran Bashir / Crosskeys – Jamie Twigg / Parth Dysgu Torfaen – Jake Wicks

Gwobr Cyflawniad Iechyd a Ffitrwydd

Brynbuga  – Jamie Woods

Gwobr Cyflawniad Gofal Anifeiliaid

Brynbuga  – Molly Bath

Gwobr Cyflawniad Nyrsio Milfeddygol

Brynbuga – Jamie Price

Gwobr Cyflawniad Astudiaethau Ceffylau

Brynbuga  – Saskia Murphy

Gwobr Cyflawniad Mynediad

Parth Dysgu Blaenau Gwent – Kira Jeremiah / Casnewydd – Morgan Cook

Gwobr Cyflawniad Aml-sgiliau

  • Mathemateg – Abdallah Ahmed
  • Saesneg – Toby Forward

Gwobr yr Iaith Gymraeg

Imran Bashir

I ddysgu rhagor am Coleg Gwent, ewch i: www.coleggwent.ac.uk/cy