Nid oes angen poeni am ddychwelyd i addysg. Dyma pam...
22 Mehefin 2020
Ar gyfer Wythnos Oedolion sy'n Dysgu 2020 (22-28 Mehefin), rydym yn rhoi blaenoriaeth i addysg oedolion, oherwydd bod astudio yn hwyrach mewn bywyd yn gallu agor nifer o ddrysau i chi.
Ein dysgwyr Hyfforddiant Personol yn arwain y ffordd i'ch cadw chi'n actif
14 Mai 2020
Wrth i aros gartref ddod yn 'normal newydd', mae llawer ohonom yn chwilio am ffyrdd i ymarfer corff a chadw'n heini yn ein cartrefi er mwyn rhoi hwb i'n llesiant corfforol a meddyliol. Mae ceisio cynnal ffordd o fyw actif ac iach yn ystod sefyllfa'r Coronafeirws yn bwysig tu hwnt, ond mae cymell eich hun i wneud ymarfer corff gartref yn anodd, hyd yn oed os ydych wedi hen arfer â mynd i'r gampfa neu ymuno â dosbarth ymarfer corff. Ond mae AOC Sport wedi datblygu ffordd arloesol i hwyluso'r broses i ni, ac mae ein cyn-fyfyrwyr Hyfforddiant Personol yn arwain y ffordd, gan gynnal sesiynau ymarfer corff wythnosol ar Facebook.
Coleg Gwent yn Ennill Aur yng Ngwobrau WorldSkills
2 Rhagfyr 2019
Mae myfyrwyr Coleg Gwent wedi ennill aur yn rowndiau terfynol cenedlaethol diweddar WorldSkills UK LIVE, gan guro eu cyfatebwyr o golegau ledled y DU yn y Seremoni Wobrwyo ddydd Sadwrn 23 Tachwedd.
Pam bod myfyrwyr wrth eu bodd yn dysgu yn Ngholeg Gwent!
3 Hydref 2019
Mae'n 'Wythnos Caru ein Colegau', felly rydym am eich cyflwyno i rai o'n dysgwyr, a rhannu eu llwyddiannau a'u taith drwy'r coleg hyd yn hyn gyda chi.
Rysáit ar gyfer llwyddiant dysgu
16 Medi 2019
Rydym yn falch iawn o fod yn lansio Academi Fforwm y Cogyddion gyntaf yng Nghymru gyda'n myfyrwyr Arlwyo a Lletygarwch yn cael cynnig mynediad heb ei ail i arbenigwyr coginio mwyaf ysbrydoledig y DU.
Dysgwyr Lefel A Coleg Gwent yn dathlu eu llwyddiant
15 Awst 2019
Heddiw, mae myfyrwyr a staff Coleg Gwent yn dathlu blwyddyn arall o ganlyniadau Lefel A rhagorol ar draw ei gampysau. Roedd cyfradd lwyddo'r coleg yn ffigwr gwych o 98.5%, sydd yn uwch chymharydd Cymru a'r DU am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Ar draws Coleg Gwent, rhyngddynt safodd 392 o fyfyrwyr bron i 1,000 o arholiadau Lefel A a llwyddodd 76% ohonynt i gael graddau A* - C.