En
Three adult learners

Wythnos Oedolion sy'n Dysgu 2020 - Cwrdd â'r Dysgwyr


25 Mehefin 2020

Dewch i gwrdd â Helen, Holly, Kim a Margaret-Anne, pedwar oedolyn ysbrydoledig sy’n dysgu ac yn astudio ein cyrsiau busnes. Dengys yr oedolion hyn sy’n dysgu nad oes rhaid i’r broses o ddychwelyd i’r coleg fod yn rhy heriol…

 

Helen LloydAstudiodd Helen Lloyd, 61 oed, gwrs Gweinyddu Busnes Lefel 3 drwy raglen ddysgu seiliedig ar waith.

Gall fod yn anodd dod o hyd i amser ar gyfer astudio pan rydych yn gweithio’n llawn amser ac mae gennych deulu. Ond daeth Helen o hyd i gwrs gyda ni a oedd yn berthnasol i’w rôl bresennol, a oedd hefyd yn hyblyg ac y gellid ei reoli ochr yn ochr â’i bywyd prysur drwy waith ac astudio gartref.

Mae’n egluro “Rwyf wedi cael llawer o gefnogaeth ac anogaeth gan fy nhiwtor ac mae’n wych gan ei fod yn gweithio o amgylch gwaith a bywyd teuluol. Rwyf wedi meithrin gwybodaeth a hyder newydd i fod o gymorth yn fy rôl bresennol.”

Yn ogystal â chefnogaeth ragorol gan ei thiwtoriaid, mae Helen yn egluro bod “cyngor bob amser ar gael yn y coleg” fel y gall oedolion sy’n dysgu gael yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn cwblhau eu cwrs.

 

Astudiodd Holly Davies, 30 oed, BTEC Diploma Estynedig Busnes Lefel 3, ar gampws Canol y Ddinas.

Roedd Holly eisiau ennill y cymwysterau perthnasol roedd eu hangen arni er mwyn astudio’r gyfraith yn y brifysgol. Dywedodd “Fy nod yn y tymor hir yw cael gwaith o fewn sector y gyfraith ac fe wnaeth Coleg Gwent fy helpu i gyflawni hyn drwy roi’r hyder i mi i wella fy nghymwysterau Saesneg a Mathemateg.”

Cyn mynd i’r coleg, aeth Holly i’r afael â’r her o ganfod faint o gymorth ychwanegol y byddai ei angen a sut y gallai gyflawni’r sgiliau cyflogadwyedd angenrheidiol er mwyn symud ymlaen. Esboniodd “Y peth gorau yw’r cyfleoedd rwyf wedi’u cael, y ffrindiau rwyf wedi’u gwneud, y gefnogaeth gan fy holl diwtoriaid, a’r ffaith bod y Coleg wedi darparu’r holl offer a oedd yn angenrheidiol er mwyn i mi gwblhau fy astudiaethau. Fy nghyngor i fyfyrwyr yw ymchwilio’n drylwyr i’r pynciau yr ydych yn dymuno eu hastudio, a mynychu’r holl ddigwyddiadau agored er mwyn trafod pa ddewisiadau sydd ar gael a sut y gall tiwtoriaid eich cynorthwyo gyda’r gefnogaeth berthnasol yr hoffech ei derbyn drwy gydol eich astudiaethau.”

 

Kim KehoeAstudiodd Kim Kehoe, 27 oed, gwrs Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Busnes ar Gampws Pont-y-pŵl.

Ar ôl gadael yr ysgol uwchradd gyda chanlyniadau siomedig, ni sylweddolodd Kim faint ei photensial tan iddi weithio yn Dŵr Cymru Welsh Water, ac mae nifer o adrannau sydd o ddiddordeb iddi er mwyn camu ymlaen. Eglurodd Kim “Dewisais astudio Busnes gan y byddai o gymorth gyda fy llwybr gyrfaol a’r broses o wella fy hun, ond byddai hefyd yn rhoi mwy o ddealltwriaeth i mi o bob adran sydd o ddiddordeb i mi er mwyn bod o gymorth i mi wneud y penderfyniad cywir. Trefnodd ein hathrawon i bobl o gefndiroedd gyrfaol gwahanol drafod eu rôl a’u cyfrifoldebau swydd gyda ni. Roedd hyn yn wych oherwydd roedd o gymorth i mi feddwl mwy am fy nyfodol a pha lwybr gyrfaol yr hoffwn ei ddilyn.”

Cyn coleg, ystyriodd Kim fynd i’r Brifysgol, ond nid oedd yn meddwl bod ei chymwysterau’n ddigon da. Pan wthiodd ei hun o’r diwedd i ddarganfod mwy yn Coleg Gwent, mynychodd gyfweliad hamddenol a chyfeillgar er mwyn trafod ei chymwysterau a’i phrofiad gwaith. Dywedodd “Roedd pawb yn gymwynasgar ac yn groesawgar iawn, ac ar ôl y cyfweliad hwnnw a gweld y campws, penderfynais fy mod eisiau astudio yn Coleg Gwent a dim un lleoliad arall.”

Mae cwrs Kim yn rhan-amser, dau ddiwrnod yr wythnos, ond roedd gweithio drwy ei hastudiaethau yn golygu bod rhaid iddi newid ei horiau ar gyfer mynychu’r coleg. Dywedodd “Roedd yr athrawon yn wych ac yn deall bob amser, ac roedd hynny’n gwneud i mi deimlo dan lai o bwysau wrth deithio yn ôl ac ymlaen rhwng coleg a gwaith. Ar ôl llawer o gefnogaeth gan athrawon a gweithio gyda myfyrwyr eraill, enillais farc uchel ac roedd yn deimlad gwych! Felly peidiwch â phoeni os nad ydych yn deall rhywbeth ar unwaith. Trafodwch hyn gyda myfyrwyr eraill, a gofynnwch unrhyw gwestiynau sydd gennych.”

 

Margaret-Anne MackenzieAstudiodd Margaret-Anne Mackenzie, 25 oed, BTEC Diploma Estynedig Busnes Lefel 3, ar gampws Dinas Casnewydd..

Gyda chynlluniau i sefydlu ei busnes ei hun, penderfynodd Margaret-Anne ddod o hyd i gwrs addas ar gyfer rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau y byddai eu hangen arni i fod yn llwyddiannus. Eglurodd, “Rwyf wedi bod yn astudio yn Coleg Gwent ers nifer o flynyddoedd bellach ac maent yn gwneud i chi deimlo’n gartrefol. Rwyf wedi hoffi popeth am fy nghwrs ac mae’r cwrs wedi fy helpu i ddeall pethau’n well. Fy nod yn y tymor hir yw cyflawni’r yrfa rwyf yn awyddus i’w chael, ac mae gennyf y cymwysterau perthnasol i wneud hyn bellach.”

I Margaret-Anne, y peth gorau am y coleg yw gwneud ffrindiau newydd a chreu atgofion gyda’i chyd-fyfyrwyr. Mae hi wedi mwynhau gwneud yr holl waith a’r aseiniadau, ond hefyd wedi helpu myfyrwyr eraill i gwblhau eu cymwysterau hefyd.

Nid yw hi fyth yn rhy hwyr i ddysgu pethau newydd neu ennill sgil newydd. Rydym yn falch bod gennym gymuned lewyrchus o oedolion sy’n dysgu yn ein coleg yn astudio’n llawn amser, rhan-amser ac ar-lein, gan fod o gymorth iddynt gyflawni eu hamcanion a’u dyheadau. Ymunwch â nhw drwy ymgeisio heddiw ar gyfer cyrsiau sy’n cychwyn fis Medi!