En

E-Ddysgu

Os ydych yn brin o amser, neu os yw teithio i'r campws yn anodd, gallai E-Ddysgu fod yn berffaith i chi!

Mae Coleg Gwent wedi mynd i bartneriaeth ag arbenigwr E-ddysgu blaenllaw i ddarparu ystod eang o gyrsiau cyfrifiadurol, fel y gallwch astudio ar unrhyw adeg, yn unrhyw le.

Yn amrywio o gymwysterau proffesiynol a datblygu sgiliau i hobïau a diddordebau personol, mae’n sicr y bydd yna gwrs i chi – ac fel myfyriwr yng Ngholeg Gwent, gallwch fanteisio ar ba bynnag gyrsiau sy’n iawn i chi.

Mae’r holl ddeunyddiau cwrs ar gael ar-lein, mae amrywiaeth eang o dechnoleg ddigidol yn eu gwneud yn ddiddorol, yn effeithiol, yn hygyrch ac yn fforddiadwy.

Dyma ychydig o fanteision E-ddysgu:

  • Gallwch ddysgu lle bynnag a phryd bynnag y dymunwch – chi biau’r dewis
  • Bydd eich deunyddiau hyfforddi yn gwbl gyfredol
  • Gallwch ddilyn eich cynnydd, a lawrlwytho tystysgrifau ar ddiwedd y cwrs
  • Bydd eich hyfforddiant yn fwy cyson
  • Bydd eich costau teithio yn is
  • Byddwch yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd, gyda llai o bapur a theithio

Mae Coleg Gwent wedi uno ag e-Careers i gynnig ystod eang o gyrsiau i chi.

Mae e-Careers yn sefydliad hyfforddiant proffesiynol sy’n cynnig cyrsiau achrededig drwy eDdysgu neu drwy Ddosbarthiadau Rhithiol.

Noder, bydd y tîm yn e-Careers yn rheoli’r ddarpariaeth a’r gwaith gweinyddol sy’n ymwneud â’ch cwrs, nad yw’n cael ei gynnwys o fewn darpariaeth Coleg Gwent.

Am ragor o wybodaeth ynghylch e-Careers, ewch i www.e-careers.com

Beth am bori drwy ein cyrsiau E-ddysgu nawr? Bydd yna’n sicr rhywbeth at eich dant!

Business student looking at computer with orange,dark blue triangles

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau