En
Four adult learners

Wythnos Addysg Oedolion - Cwrdd â'r Dysgwyr


26 Mehefin 2020

Rydych eisoes wedi cwrdd â rhai o’n hoedolion sy’n ddysgwyr anhygoel sy’n astudio cyrsiau Hyfforddiant Personol a Busnes, ond mae dysgwyr hŷn yn ymuno â ni i astudio ystod eang o bynciau ar bob lefel, hyd yn oed lefel gradd! Felly, beth am gwrdd â Jodie, Lucinda, Julie, Teresa a Lois, i glywed am eu taith fel oedolion sy’n ddysgwyr…

 

Jodie RogersJodie Rogers, 35, Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach, campws Dinas Casnewydd

“Fe wnes i gais yn wreiddiol i wneud cwrs Mynediad, fodd bynnag, ar ôl cael gwybod nad oeddwn wedi cael lle ar y cwrs, roeddwn i’n reit siomedig. Ond nawr, rwyf mor falch fy mod wedi gwneud y cwrs Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach, gan ei fod wedi rhoi mewnwelediad i mi o’r hyn sydd ei angen arnaf yn ystod fy mhlwyddyn academaidd nesaf yn y coleg. O’r diwrnod cyntaf, roeddwn yn gwybod mai hwn oedd y cwrs iawn i fy helpu i ddod i arfer â bywyd addysg eto.

Roedd yn anodd, gan nad ydw i wedi gwneud unrhyw beth fel hyn ers i mi adael yr ysgol 18 mlynedd yn ôl, ond mae Glynis wedi bod yn yr athro gorau y gallwn i ofyn amdano. Mae hi wedi fy helpu i gynefino â dysgu oedolion o’r cychwyn cyntaf i ddiwedd y cwrs. Rwyf wedi dysgu cymaint yn yr hyn sy’n teimlo fel cyfnod byr o amser, ac mae’r coleg wedi fy nysgu i fod yn fwy hyderus gyda fy null dysgu.

Fy nghyngor i fyfyrwyr eraill sy’n mynd i’r coleg…ewch amdani ac mi allwch chi lwyddo. Ar fy niwrnod cyntaf, nid oeddwn yn meddwl y byddwn yn gallu gwneud y pethau allaf eu gwneud nawr. Mae gwneud cais i astudio yn y coleg wedi newid fy rhagolwg ar fywyd!”

 

Lucinda GatrellLucinda Gatrell, 48, Tystysgrif Ganolradd CIPD Lefel 5 – Rheoli Adnoddau Dynol, campws Crosskeys

“Ar ôl gweithio ym maes Adnoddau Dynol am ddeuddeng mlynedd heb unrhyw hyfforddiant ffurfiol, penderfynais astudio’r pwnc yn swyddogol a chyflawni’r cymhwyster perthnasol. Rwy’n credu y bydd hyn, ynghyd â’m profiad, yn bendant yn cefnogi fy natblygiad gyrfa yn y proffesiwn Adnoddau Dynol yn y dyfodol.

Roedd Coleg Gwent yn gallu cynnig cwrs undydd wythnosol ac astudio fel hyn oedd orau gen i. Roedd gennym dri gwahanol diwtor yn ystod y cwrs, ac roedd bob un yn garedig, cefnogol ac yn ein hannog. Gan nad oeddwn wedi gwneud unrhyw waith academaidd ers cymaint o flynyddoedd, roedd mynd i’r coleg yn gyflawniad ynddo’i hun gan nad oeddwn erioed wedi rhagweld mynd yn ôl i ddysgu. Cael cefnogaeth tiwtoriaid ar gael yn rhwydd oedd prif fantais astudio yn y coleg. Hefyd, gallu meithrin perthnasoedd ag unigolion o’r un anian yn y dosbarth, daethom ni i gyd gyda’n gilydd yn rhwydwaith gefnogol ac anogol.”

 

Julie Morphet, 50, Mynediad i Addysg Uwch – y Dyniaethau, Campws Dinas Casnewydd

“Ar ôl mwynhau gyrfa ym maes manwerthu am dros ddeng mlynedd ar hugain a chyflawni swydd rheolwr, roeddwn i angen her newydd ac roeddwn i eisiau mynd â fy hun trwy lwybr addysg. Felly, es i ddiwrnod agored a mwynheais awyrgylch y coleg a’r croeso gwych yn fawr. Cyn pen fawr o dro, roeddwn yn cofrestru ac roedd rhaid gwneud dau brawf bach a ddangosodd fod y cwrs Mynediad ychydig yn rhy fuan i mi. Awgrymwyd y byddai’n well i mi astudio’r cwrs Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach.

Fy aseiniaid cyntaf oedd datblygu cyflwyniad PowerPoint, doedd dim clem gen i beth oedd PowerPoint! Felly roedd y cwrs Sgiliau yn amhrisiadwy i mi fel myfyriwr hŷn heb fawr o wybodaeth am sgiliau cyfrifiadurol ac roedd angen i mi wella fy ngeirfa cyn mynd ymlaen i gwrs Mynediad.

Roeddwn i’n gwybod mai’r cwrs Mynediad i AU – Dyniaethau oedd y cam nesaf i mi ac mae wedi mwy na bodloni fy nisgwyliadau o astudio. Rwy’n edrych ymlaen at fynd i’r coleg bob dydd a’r ddwy flynedd ddiwethaf hyn yw rhai o flynyddoedd mwyaf cofiadwy fy mywyd. Mae’r profiad cyfan wedi newid fy mywyd – mae wedi fy helpu i dyfu mewn hyder, datblygu’n academaidd ac ymgymryd â fy mhynciau dewisol yn y dyniaethau, gan fy mharatoi ar gyfer fy nhaith nesaf i’r brifysgol. Rwyf wedi derbyn lle ar radd Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.”

 

Teresa HeronTeresa Heron, 58, Gradd Sylfaen mewn Iechyd a Lles Anifeiliaid – Lefel 6, Campws Brynbuga

“Rwy’n teimlo mai lles anifeiliaid a chadwraeth yw’r ffordd ymlaen i addysgu a helpu plant ysgolion cynradd i amsugno gwybodaeth hanfodol. Felly gwneud y cwrs hwn yw fy ffordd i ail-ddylunio fy hun. Rwyf eisiau cyflwyno gwybodaeth yn llawrydd i ddisgyblion cynradd, i wella gwybodaeth trwy ofal anifeiliaid sylfaenol. Rwyf hefyd eisiau helpu plant i ddeall pam fod angen i ni ofalu am ein hamgylchedd. Y bwriad yw gorffen fy ngradd, ac yna archwilio opsiynau ym maes addysg lawrydd.

Roeddwn yn teimlo y gallai fy oed fod yn rhwystr, ond cafodd hynny ei chwalu yn fuan ac roeddwn yn gyfforddus ac yn hapus yn y coleg. Roeddwn yn mwynhau clywed y darlithwyr yn rhannu eu profiadau ac roeddwn eisiau bod yn rhan o feysydd lles mor bwysig. Roedd y modiwlau yn ddiddorol ac yn glir, ac enillais wybodaeth ymarferol dda hefyd. Ni feddyliais erioed y gallwn gael y graddau a ddyfarnwyd i mi, hwn oedd y profiad gorau eto. Rwyf wedi cwrdd â ffrindiau newydd am oes, a gwn y gallaf gael gafael ar help a chyngor gan restr o ddarlithwyr o safon sydd bob amser yno i mi.”

 

Lois SimpsonLois Simpson, 20, HND Gwasanaethau Cyhoeddus ac Argyfwng, Campws Brynbuga

“Nid oeddwn wedi bwriadu dewis y cwrs HND Gwasanaethau Cyhoeddus ac Argyfwng. Yn yr ysgol, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn adolygu, astudio a chanolbwyntio yn ystod arholiadau, a chafodd hynny effaith enfawr ar fy hunan-barch. Ond, mi oedd yna un eithriad, gwasanaethau cyhoeddus. Hwn oedd yr un pwnc y gwnes ragori arno, gwnes yn well na fy ngraddau disgwyliedig, a rhoddodd hyder i mi mewn dysgu a rhoi angerdd i mi. Felly, ar ôl gorffen yr ysgol, penderfynais wneud cais i astudio Gwasanaethau Cyhoeddus ar Gampws Brynbuga Coleg Gwent.

Roedd hi’n anodd iawn yn y dechrau, ond fe wnes i ddyfalbarhau ac felly hefyd fy athrawon, gan roi’r holl gefnogaeth y gallwn i fod wedi dymuno amdani. Pan wnes i gais i ddechrau, ni welais fy hun yn mynd ymlaen i astudio ar lefel HND, ond rwyf nawr yn edrych ymlaen at gwblhau fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol! Fy nod tymor hir yw dod yn drinwr cŵn heddlu yn yr RAF, felly bydd y coleg yn bendant yn fy rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol ac yn darparu cymhwyster i mi a fydd, gobeithio, yn rhoi mantais i mi dros ymgeiswyr eraill.”

 

Ymunwch â’n cymuned o Oedolion sy’n Ddysgwyr

Rydym yn falch o fod â chymuned ffyniannus o oedolion sy’n ddysgwyr yn ein coleg yn astudio llawn amser, rhan amser ac ar-lein, ac yn newid eu bywyd trwy ddysgu. Ymunwch â nhw drwy wneud cais heddiw ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau fis Medi!