En

Gradd Sylfaen mewn Iechyd a Lles Anifeiliaid

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
12 Medi 2024

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Fel arfer, byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

Yn ogystal â: Llwyddo mewn 5 pwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth).

Noder os nad ydych yn bodloni'r meini prawf gradd, efallai y rhoddir ystyriaeth i oed a phrofiad.

Yn gryno

Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau ymarferol, gwybodaeth arbenigol a phrofiad gwaith i’ch helpu i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa yn y diwydiant Rheoli Anifeiliaid.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych chi’n gweithio’n barod yn y diwydiant ac yn dymuno cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa
... Neu rydych chi ond yn dechrau eich bywyd proffesiynol
... Oes eisiau cymysgedd o astudio academaidd, dysgu yn seiliedig ar waith a datblygu sgiliau arnoch chi

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn astudio llawer o agweddau ar ofal a lles anifeiliaid, o anatomeg, ffisioleg ac ymddygiad anifeiliaid i feddyginiaeth filfeddygol a maeth anifeiliaid. Bydd eich holl wybodaeth yn cael ei roi ar waith yn y modiwl lleoliad gwaith, lle byddwch yn cynhyrchu portffolio o waith proffesiynol i arddangos y profiad rydych chi wedi ei fagu.

Mae’r cwrs yn ymarferol iawn, felly rydych chi’n cael llawer o brofiad uniongyrchol i ategu ac atgyfnerthu eich darlithoedd ystafell ddosbarth. Mae arbenigwyr o faes gofal anifeiliaid yn cyflwyno darlithoedd gwadd, a byddwch yn cymryd rhan mewn ymweliadau addysgol, fforymau trafod a gwaith grwp.

Mae’r modiwlau yn cynnwys:

Blwyddyn 1

  • Anatomeg a Ffisioleg
  • Hanfodion Ymddygiad Anifeiliaid
  • Maeth Anifeiliaid
  • Hwsmonaeth Anifeiliaid
  • Sgiliau Astudio Astudiaethau’r Tir
  • Egwyddorion Gwyddor Milfeddygol 1

Blwyddyn 2

  • Bridio a Geneteg
  • Portffolio Lleoliad Gwaith
  • Sgiliau Prosiect Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Bioleg Gadwriaethol
  • Lles Anifeiliaid
  • Egwyddorion Gwyddor Milfeddygol 2

Bydd asesu yn amrywiol a pharhaol trwy gydol y cwrs dwy flynedd i gynnwys trafodaeth grwp a beirniadaethau, prosiectau ymchwil, portffolios gwaith, cyflwyniadau, adroddiadau ac arholiadau.

Byddwch yn ennill Gradd Sylfaen sy’n cyfateb i’r ddwy flynedd gyntaf o astudio ar raglen radd (Lefel 4 a Lefel 5). Dyfernir hon gan Brifysgol De Cymru, y brifysgol sy’n achredu.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Fel arfer, byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

Yn ogystal â: Llwyddo mewn 5 pwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth).

Mae'r amserlen arferol ar gyfer y cwrs hwn yn rhedeg dros ddau ddiwrnod llawn yr wythnos, a disgwylir i fyfyrwyr fynd i bob sesiwn. Bydd disgwyl i fyfyrwyr gwblhau o leiaf 20 awr o astudiaeth ac ymchwil annibynnol yr wythnos. Yn ychwanegol at hyn ceir modiwl lleoliad gwaith, lle bydd gofyn i'r myfyriwr ganfod eu lleoliad(au) eu hunain i gwblhau'r 200 awr ofynnol; bydd arweiniad gan diwtor ar gael os oes ei angen.

Noder os nad ydych yn bodloni'r meini prawf gradd, efallai y rhoddir ystyriaeth i oed a phrofiad.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl y cwrs hwn bydd gennych y swm cywir o wybodaeth arbenigol a sgiliau ymarferol i weithio ar y tir. Os ydych chi’n dymuno gwneud rhagor o astudio academaidd, gallech ddewis i uwchraddio’r Radd Sylfaen hon i BSc llawn (Anrh) mewn Iechyd a lles Anifeiliaid, wrth gwblhau'r cwrs uwchraddio ychwanegol am flwyddyn. Fel arall, gallwch drosglwyddo i gwrs gradd mewn pwnc cysylltiedig sy’n cael ei gynnig gan brifysgolion eraill yn amodol arnoch yn bodloni eu gofynion mynediad penodol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angenPPE (Cyfarpar Diogelu Personol) ar gyfer agweddau ymarferol y rhaglen. Bydd hyn yn cynnwys cot labordy wen, cit dyraniad ac esgidiau baw bodiau traed dur. Bydd angen i chi brynu’r cyfarpar hwn ar ddechrau’r rhaglen.

Argymhellir chwistrelliad tetanws cyfredol cyn dechrau’r cwrs.

 

 

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Gradd Sylfaen mewn Iechyd a Lles Anifeiliaid?

UFDG0030AB
Campws Brynbuga
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 12 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr