Yn gryno
Mae’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol sy’n cael eu magu trwy’r cwrs hwn yn ddymunol mewn amrywiaeth o ddiwydiannau amaethyddol
... Ydych chi’n dymuno uwchraddio eich Gradd Sylfaen i Radd Anrhydedd lawn mewn Iechyd a Lles Anifeiliaid
... Ydych chi’n dymuno anelu at swydd raddedig yn eich maes dewisol
... Ydych chi’n awyddus i gyfuno eich astudio gyda phrofiad ymarfero
Bydd cwblhau’r Radd Atodol BSc (Anrh) Iechyd a Lles Anifeiliaid blwyddyn o hyd hon yn eich galluogi i gystadlu am swyddi graddedig wedi eu lleoli mewn diwydiannau iechyd a lles anifeiliaid fel y RSPCA, y Sector Milffeddygol, Asiantaeth yr Amgylchedd, Llywodraeth Leol, Safonau Masnach, yr Heddlu, y Lluoedd Arfog a Dysgu. Bydd ein Gradd Iechyd a Lles Anifeiliaid yn eich cyflwyno i welliannau mewn ymarfer lles.
Bydd y cwrs 120 credyd yn cynnwys:
- Modiwl ymchwil dan arweiniad prifysgol
- Swoleg Fertebraidd
- Moeseg a lles anifeiliaid
- Gwelliannau mewn iechyd ac ymddygiad anifeiliaid
- Maeth clinigol datblygedig.
Mae’r darlithwyr yn cynnwys Bethan Lewis, Kate Beavan RVN, Rhiannon Stundon RVN, Michelle Cooper, Jess Ingleson a Clare Clift RVN.
Bydd asesu yn amrywiol ac yn barhaol trwy gydol blwyddyn y cwrs i gynnwys trafodaeth a beirniadaethau grwp, prosiectau ymchwil, gwaith portffolio, cyflwyniadau, asesu ac adroddiadau ymarferol.
Ar gwblhau, byddwch yn ennill BSc (Anrh) Iechyd a Lles Anifeiliaid.
Mae’r Radd Atodol BSc (Anrh) Iechyd a Lles Anifeiliaid yn gwrs mynediad Blwyddyn 3 yn unig. Mae angen llwyddo yn y Radd Sylfaen mewn Iechyd a Lles Anifeiliaid yng Ngholeg Gwent, neu un o Golegau Partner Prifysgol De Cymru. Bydd ymgeiswyr gyda Graddau Sylfaen mewn meysydd pwnc tebyg yn cael eu hystyried fesul achos.
Mae’r amserlen arferol ar gyfer y cwrs hwn yn rhedeg dros un/dau ddiwrnod yr wythnos a disgwylir i fyfyrwyr fynychu pob sesiwn. Bydd disgwyl i fyfyrwyr gwblhau o leiaf 20 awr yr wythnos o astudio ac ymchwilio annibynnol. Bydd rhai sesiynau dysgu yn cael eu cynnal ar Gampws Glyntâf, Prifysgol De Cymru, Pontypridd, er y bydd y mwyafrif yn cael eu darparu ar Gampws Brynbuga Coleg Gwent.
Swydd raddedig wedi ei lleoli mewn diwydiant amaethyddol, fel y RSPCA, y Sector Milfeddygol, Asiantaeth yr Amgylchedd, Llywodraeth Leol, Safonau Masnach, yr Heddlu, y Lluoedd Arfog a Dysgu.
Pe byddech yn dymuno parhau â’ch Addysg Uwch, gallech symud ymlaen i Radd Meistr berthynol.
The BSc (Hons) Animal Health & Welfare (Top Up) Degree is Year 3 (final year top up) entry only. A pass in the Foundation Degree in Animal Health & Welfare at Coleg Gwent, or one of the University Of South Wales Partner Colleges is required. Applicants with Foundation Degrees in similar subject areas will be considered on an individual basis.
Byddwch yn cael eich dysgu trwy ddarlithiau, tiwtorialau a gwaith ymarferol. Gall rhywfaint o’r cyflwyno gael ei ddarparu gan siaradwyr gwadd. Mae astudio hunangyfeiriedig yn chwarae rhan ym mhob modiwl ac mae’n cael ei gefnogi gan amgylchedd dysgu rhithiol y Brifysgol. Mae cyfran yr astudio hunangyfeiriedig yn dibynnu ar y modiwl a gall amrywio o 50% i 80%. Mae’r cwrs hwn yn cael ei gyflwyno ar y cyd gan Goleg Gwent, ar ein Campws ym Mrynbuga a Phrifysgol De Cymru, yn Nhrefforest a bydd cyflwyno gwersi yn cael ei rannu rhwng Brynbuga a Threfforest. Gofynnwch am fanylion pan fyddwch yn ymweld ag un o’n digwyddiadau agored.