• Llawn Amser

Gradd Atodol BSc (Anrh) - Nyrsio Milfeddygol

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Gofal Anifeiliaid, Ceffylau ac Astudiaethau Tir
Dyddiad Cychwyn
10 Medi 2025
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Brynbuga

Yn gryno

Mae’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol a enillir trwy’r cwrs hwn yn ddymunol yn y Proffesiwn Milfeddygol ac amrywiaeth eang o ddiwydiannau amaethyddol.

... Ydych chi’n dymuno uwchraddio eich Gradd Sylfaen i Radd Anrhydedd lawn mewn Gwyddor Nyrsio Milfeddygol
... Ydych chi’n dymuno anelu at swydd raddedig yn eich maes dewisol
... Ydych chi’n awyddus i gyfuno eich astudio gyda phrofiad ymarfero

Bydd cwblhau’r radd atodol BSc (Anrh) mewn Gwyddor Nyrsio Milfeddygol blwyddyn o hyd hon yn eich galluogi i gystadlu am swyddi graddedig yn y Proffesiwn Nyrsio Milfeddygol a diwydiannau iechyd a lles Anifeiliaid eraill. Bydd ein BSc (Anrh) Nyrsio Milfeddygol yn datblygu eich gallu i ymgysylltu ag ymarfer seiliedig ar dystiolaeth, gan eich galluogi i wneud cyfraniadau blaengar at y Proffesiwn Nyrsio Milfeddygol.

Bydd y cwrs 120 credyd yn cynnwys:

  • Modiwl ymchwil dan arweiniad prifysgol
  • Swoleg Fertebraidd
  • Moeseg a lles anifeiliaid
  • Gwelliannau mewn iechyd ac ymddygiad anifeiliaid
  • Maeth clinigol datblygedig.

Bydd asesu yn amrywiol a pharhaol trwy gydol blwyddyn y cwrs, i gynnwys trafodaethau a beirniadaethau grwp, prosiectau ymchwil, gwaith portffolio, cyflwyniadau, asesu ac adroddiadau ymarferol.

Byddwch yn ennill BSc (Anrh) Nyrsio Milfeddygol.

Mae’r Radd Atodol BSc (Anrh) Nyrsio Milfeddygol yn gwrs mynediad Blwyddyn 3 yn unig. Mae angen llwyddo yn y Radd Sylfaen mewn Nyrsio Milfeddygol yng Ngholeg Gwent, neu mae angen un o’r RCVS achrededig FdSc Nyrsio Milfeddygol.

Mae’r amserlen arferol ar gyfer y cwrs hwn yn rhedeg dros un/dau ddiwrnod yr wythnos a bydd disgwyl i fyfyrwyr fynychu pob sesiwn. Bydd disgwyl i fyfyrwyr gwblhau o leiaf 20 awr yr wythnos o astudio ac ymchwil annibynnol. Bydd rhai sesiynau dysgu yn cael eu cynnal ar Gampws Glyntâf Prifysgol De Cymru, Pontypridd, er y bydd y mwyafrif yn cael eu cyflwyno ar gampws Brynbuga Coleg Gwent.

Bydd cwblhau’r radd atodol BSc (Anrh) Gwyddor Nyrsio Milfeddygol blwyddyn o hyd yn eich galluogi i gystadlu am swyddi graddedig yn y proffesiwn Nyrsio Milfeddygol a Diwydiannau iechyd a lles Anifeiliaid eraill. Pe byddech yn dymuno parhau â’ch Addysg uwch gallech symud ymlaen at Radd Meistr berthynol.

Mae’r Radd Atodol BSc (Anrh) Nyrsio Milfeddygol yn gwrs mynediad Blwyddyn 3 yn unig. Mae angen llwyddo yn y Radd Sylfaen mewn Nyrsio Milfeddygol yng Ngholeg Gwent, neu mae angen un o’r RCVS achrededig FdSc Nyrsio Milfeddygol.

Byddwch yn cael eich dysgu trwy ddarlithiau, tiwtorialau a gwaith ymarferol. Gall rhywfaint o’r cyflwyno gael ei ddarparu gan siaradwyr gwadd. Mae astudio hunangyfeiriedig yn chwarae rhan ym mhob modiwl ac mae’n cael ei gefnogi gan amgylchedd dysgu rhithiol y Brifysgol. Mae cyfran yr astudio hunangyfeiriedig yn dibynnu ar y modiwl a gall amrywio o 50% i 80%. Mae’r cwrs hwn yn cael ei gyflwyno ar y cyd gan Goleg Gwent, ar ein Campws ym Mrynbuga a Phrifysgol De Cymru, Trefforest a bydd cyflwyno gwersi yn cael ei rannu rhwng Brynbuga a Threfforest, gofynnwch am fanylion pan ymwelwch ag un o’n digwyddiadau agored.

Campws Brynbuga

Côd y Cwrs
UFDB0002AA
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy