En

HND Gwasanaethau Cyhoeddus ac Argyfwng

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Gwasanaethau Cyhoeddus

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
17 Medi 2024

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Fel arfer, byddai'n rhaid i chi fod ag o leiaf un o'r canlynol:

a: Llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth).

Sylwch, os nad ydych yn cwrdd â'r meini prawf gradd, yna efallai y gellir ystyried oedran a phrofiad.

Yn gryno

Bydd y cwrs yn rhoi sylfaen gadarn yn ymarferol ac academaidd i chi yn y ffordd caiff y gwasanaethau hyn eu trefnu, rheoli a gweithredu.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Rydych yn dyheu i weithio i’r gwasanaethau argyfwng
... Rydych yn gweithio’n dda o dan bwysau
... Rydych am gael sgiliau theori ac ymarferol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Rydym yn dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau brys, nid yn unig ar gyfer trychinebau mawr fel tsunamis a daeargrynfeydd, ond hefyd ar gyfer pryderon mwy lleol, fel ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymuned. Yn aml, mae'r gwasanaethau brys yn cydweithio â gwasanaethau cyhoeddus eraill i gynllunio ar gyfer argyfyngau, fel ymosodiad terfysgol neu geisio datrys problemau cymhleth ac anodd.

I sicrhau bod gennych ddealltwriaeth dda o sut mae gwasanaethau brys a chyhoeddus yn gweithredu, byddwch yn astudio sawl modiwl craidd lle byddwch yn ennill sgiliau ymarferol ac yn rhoi eich sgiliau arwain ar waith ar daith ym Mannau Brycheiniog neu rywle cyfagos.

I wneud eich dysgu yn berthnasol i'r gweithle, byddwch yn cael enghreifftiau go iawn o faterion perthnasol. Er enghraifft, mewn un modiwl bydd gennych y dasg o nodi sut i ysgogi a rheoli pobl yn y sector cyhoeddus. Mewn un arall, byddwch yn gweld sut y gall deddfwriaeth a newidiadau mewn cymdeithas effeithio ar y ffyrdd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu.

Byddwch yn dysgu trwy amrywiaeth o ddulliau, fel arfer cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai. Ar gamau diweddarach y cwrs, cewch gyfle i weithio ar brosiectau, naill ai'n unigol neu mewn grwpiau. Mae gweithgareddau allanol hefyd yn cael eu cynnwys yn y rhaglen, yn ogystal â siaradwyr gwadd a gwaith prosiect. Mae amrywiaeth o ddulliau asesu ac er bod y rhan fwyaf o fodiwlau wedi'u seilio ar waith cwrs, bydd yna rhai arholiadau. Mae gwaith cwrs yn cynnwys prosiectau bywyd go iawn, traethodau, gwaith grwp a chyflwyniadau.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gael eich derbyn ar y cwrs, bydd angen o leiaf tri TGAU Gradd C neu uwch arnoch gan gynnwys Mathemateg / Mathemateg Rhifedd ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth), yn ogystal â:

Sylwch, os nad ydych yn cwrdd â'r meini prawf gradd, yna efallai y gellir ystyried oedran a phrofiad

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae'r cwrs hwn yn gymhwyster gwerthfawr os ydych chi eisiau dilyn gyrfa yn yr heddlu, y gwasanaeth tân neu ambiwlans, y lluoedd arfog, gwasanaethau carchar a diogelwch, Tollau Tramor a Chartref EM, neu sefydliadau gwasanaeth cymunedol. Gallwch hefyd symud ymlaen i flwyddyn olaf y radd BA (Anrh) Gwasanaethau Cyhoeddus ym Mhrifysgol De Cymru

Gwybodaeth Ychwanegol

Cyflwynir y cwrs hwn dros ddau ddiwrnod, ac fe’i rhyddfreinir gan Brifysgol De Cymru (yn amodol ar ddilysiad).

Y cod UCAS yw: 534L

Bydd angen i chi hefyd brynu’r cit canlynol i ddilyn eich cwrs:

  • Esgidiau cerdded, £40, gofynnol
  • Dillad-gwrth ddwr, £40, gofynnol
  • Sach sy’n dal hyd at 10 litr, £10, gofynnol

 

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio HND Gwasanaethau Cyhoeddus ac Argyfwng?

CFHD0018AB
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 17 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr