En

Agored Cymru Dychwelyd i Ddysgu – Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Mae pob darpar fyfyriwr yn cael ei gyfweld a'i asesu cyn cael cynnig lle. Mae lefel sylfaenol o fathemateg (Mynediad 3 o leiaf) a Saesneg (Lefel 1 o leiaf) yn ofynnol ar gyfer y cwrs hwn.

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i'ch helpu chi i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i'n cwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu unrhyw gyrsiau lefel 3 eraill.

Mae wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr sydd, o bosib, wedi bod allan o addysg lawn amser am 2 flynedd o leiaf, er mwyn eich helpu i loywi a dysgu'r sgiliau astudio hanfodol sydd eu hangen arnoch i lwyddo.

Dyma'r cwrs i chi os...

.....Ydych yn chwilio am gyflogaeth a byddech yn hoffi datblygu set sgiliau fwy amrywiol

.....Ydych wedi bod allan o addysg am 2 flynedd o leiaf ac rydych yn awyddus i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch

.....Ydych yn benderfynol o wneud yn dda ac eisiau gwella eich sgiliau.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Nod y cwrs yw gwella eich sgiliau rhifedd a llythrennedd drwy gynnig Lefel 1 Mathemateg a Lefel 2 Saesneg. Byddwch hefyd yn cael cyflwyniad i Fioleg, Gwyddoniaeth Gyffredinol, Cymdeithaseg, Seicoleg a'r Dyniaethau, a byddwch yn dysgu sgiliau ymchwil gwerthfawr, a fydd yn hanfodol ar gyrsiau Lefel 3 eraill.

Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o aseiniadau, gan gynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig a byddwch yn ennill:

    • Astudiaeth Bellach neu Sgiliau Lefel 2
    • Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau
    • Gweithgareddau Sgiliau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Mae agwedd benderfynol at lwyddo, angerdd am ddysgu a diddordeb brwd i wella eich sgiliau rhifedd a llythrennedd yn angenrheidiol ar gyfer y cwrs hwn. Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y pwnc â'r gallu i gymell eich hun.

Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwch yn gallu symud ymlaen i gyflogaeth neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae yna brawf coleg sy’n rhaid i bob ymgeisydd ei basio fel rhan o’r gofynion mynediad.

Ble alla i astudio Agored Cymru Dychwelyd i Ddysgu – Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach Lefel 2?

NFDI0348AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr