En
Adult learners

Nid oes angen poeni am ddychwelyd i addysg. Dyma pam...


22 Mehefin 2020

Ar gyfer Wythnos Oedolion sy’n Dysgu 2020 (22-28 Mehefin), rydym yn rhoi blaenoriaeth i addysg oedolion, oherwydd bod astudio yn hwyrach mewn bywyd yn gallu agor nifer o ddrysau i chi.

Cymerwch ysbrydoliaeth o Wythnos Oedolion sy’n Dysgu, a datblygwch eich hun yn bersonol a phroffesiynol. Efallai eich bod eisiau gwella eich rhagolygon o gael swydd; dysgu sgil newydd; cwblhau cymhwyster; ailgynllunio eich gyrfa; cwrdd â phobl newydd; neu fwynhau dysgu mwy am eich diddordebau a hobïau. Beth bynnag sy’n eich cymell, mae buddsoddi eich amser mewn addysg yn werth chweil, beth bynnag yw eich oed!

Dysgu hyblyg sy’n addas i chi

Yma yn Coleg Gwent mae gennym gymdeithas arbennig o oedolion sy’n dysgu. Rydym yn deall bod dysgu yn broses gydol oes, ac rydym hefyd yn deall pa mor bwysig yw cadw cydbwysedd rhwng dysgu ac elfennau eraill o’ch bywyd. Dyna pam ein bod ni’n gwneud dysgu’n hyblyg, er mwyn i chi allu gweithio o gwmpas ymrwymiadau eraill megis eich teulu neu swydd.

Gyda dewis o gyrsiau llawn-amser a rhan-amser, gallwch wella eich sgiliau drwy waith, meithrin gwybodaeth gyda’r nos, neu gymryd rhan ar-lein o adref. A gan fod ein campysau wedi’u lleoli ar draws pum lleoliad, gallwn gynnig cyfleoedd addas i bawb yn ein cymunedau lleol.

Cyfrifon dysgu personol

Yn wir, dyma’r adeg orau i archwilio eich opsiynau yn Coleg Gwent, gan y bu i ni lansio amrywiaeth cyffrous o gyrsiau ar-lein yn ddiweddar, i’ch cadw chi’n brysur, yn ogystal â digwyddiadau agored ar-lein lle gallwch ddysgu mwy!

Rydym yn falch o helpu miloedd o bobl, fel chi, i gymryd y cam nesaf bob blwyddyn, a nawr rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyblyg am ddim mewn TGCh, Iechyd a Gofal, Adeiladu a Pheirianneg drwy Gyfrifon Dysgu Personol.

Os ydych yn oedolyn dros 19 mlwydd oed, mewn swydd yn ennill llai na £26,000 y flwyddyn ac eisiau cymryd y cam nesaf at yrfa wych, dyma’r ateb i chi. Ac ar hyn o bryd, os ydych yn weithiwr ffyrlo, gallech fod yn gymwys i wneud cais am Gyfrif Dysgu Personol, waeth beth yw eich cyflog!

Felly, os ydych wedi bod yn chwilio am rywbeth adeiladol i’w wneud yn ystod eich amser rhydd, neu wedi bod yn meddwl am newid gyrfa, beth am gyflawni rhywbeth gyda’n cyrsiau rhan-amser gwych? Ymgeisiwch nawr i ymuno â chymuned o oedolion sy’n astudio gyda ni, yn un o’r colegau sy’n perfformio orau yng Nghymru.

Cwrdd â’r oedolion arbennig sy’n dysgu â ni

Robin Hammett photoEnw: Robin Hammett
Oedran: 45
Cwrs: Diploma YMCA mewn Iechyd, Ffitrwydd a Dysgu Ymarfer Corff Lefel 2 a Hyfforddiant Personol (Ymarferydd) – Diploma YMCA Lefel 3
Astudio yn ystod y dydd, rhan-amser

“Roeddwn yn nerfus tu hwnt cyn cychwyn yn y coleg, gan fy mod wedi gadael yr ysgol ers 27 mlynedd. Ond mae’r cwrs yn wych – mae’n gwbl wahanol i’r ysgol. Mae pawb yn oedolyn sydd eisiau cyflawni rhywbeth. Roedd meddwl am fod yn fyfyriwr hŷn yn frawychus, ond o fewn ychydig ddiwrnodau roeddwn wedi gwneud llawer o ffrindiau – bydd rhai yn ffrindiau oes. Mae’r tiwtoriaid yn wych, ac yn gwneud popeth sydd ei angen i’ch helpu chi drwy’r cwrs. Cyn belled â’ch bod chi’n ymdrechu, byddant yn mynd y tu hwnt i’r gofyn i fod yn gefn i chi.”


Carys Gwillym photoEnw: Carys Gwillym
Oedran: 28
Cwrs: Tystysgrif Sylfaen CIPD mewn Ymarfer Adnoddau Dynol Lefel 3
Astudio yn ystod y dydd, rhan-amser

“Astudiais Dystysgrif CIPD mewn Ymarfer Adnoddau Dynol Lefel 3. Dewisais y pwnc hwn yn Coleg Gwent oherwydd roeddwn eisiau camu i mewn i’r sector hwn, ac roedd y rhan fwyaf o gwmnïau yn gofyn am ymgeiswyr cymwys CIPD. Fy uchelgais yw datblygu o fewn fy Ngyrfa AD, a chwblhau rhagor o gyrsiau CIPD, felly roeddwn hefyd eisiau gloywi ac ehangu fy ngwybodaeth. Mwynheais astudio pwnc yr oedd gennyf ddiddordeb ynddo, a byddwn yn eich cynghori i sicrhau eich bod yn treulio amser yn ymchwilio i unrhyw bynciau rydych am eu hastudio, a gwneud y penderfyniad sydd orau i chi.”


Pamela BrewerEnw: Pamela Brewer
Oedran: 59
Cwrs: Gwaith Crosio i Ddechreuwyr
Astudio yn ystod y dydd, rhan-amser

“Roeddwn eisiau dysgu sut i grosio yn gywir, ac roedd cwrs i ddechreuwyr Coleg Gwent yn berffaith. Parhaodd fy niddordeb drwy ddatblygu gyda gwaith pwytho sylfaenol, a chael dewis y canlyniad, ac roedd cynhyrchu amrywiaeth eang o eitemau gorffenedig i’w gwisgo, defnyddio, a’u rhoi i eraill (megis y GIG) yn werth chweil. Cefnogwyd pob prosiect gan y tiwtor, Carrie, yn ogystal â fy nghyd-fyfyrwyr mewn amgylchedd hamddenol, ac roedd hyn yn ddelfrydol i mi, dysgwr ‘hobi’ hŷn. Nawr, rwy’n gallu darllen ac efelychu patrymau hawdd, ac rwy’n rhoi cynnig ar waith mwy cymhleth, ac yn gymdeithasol, rwy’n cadw mewn cysylltiad â chrefftwyr o’r un anian.”


Kieron ColeEnw: Kieron Cole
Oedran: 22
Cwrs: BSc (Anrh) Nyrsio Milfeddygol Atodol
Addysg uwch, astudio llawn amser

“Y pethau gorau am astudio yn Coleg Gwent yn ystod y 6 mlynedd diwethaf yw’r athrawon, cefnogaeth, ffrindiau a chyfleoedd. Ni fyddwn wedi dod cyn belled â hyn, ac ni fyddwn mewn swydd rwy’n ei charu heb Gampws Brynbuga. Credaf na fyddwn mor hyderus ag ydw i nawr. Fy her fwyaf, cyn cychwyn yn y coleg, oedd nerfau a gorbryder. Cychwynnais yn Coleg Gwent ar fy mhen fy hun ac nid oeddwn yn adnabod neb ar fy nghwrs. Yn ogystal, nid oeddwn y person mwyaf hyderus, ac roeddwn yn eithaf swil. Wrth i fy hunanhyder gynyddu’n raddol yn y coleg, roeddwn yn fwy hyderus i fynd ar brofiad gwaith, ac rwy’n credu bod hynny wedi helpu fy sgiliau cyflogadwyedd.”