En
Police walking through street

Gwobr efydd o fri i ddysgwr Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai yng Ngwobrau BTEC


1 Gorffennaf 2020

Llongyfarchiadau i Georgia Kenvin, 20 oed, dysgwr Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai yn ein Parth Dysgu Blaenau Gwent, sydd wedi derbyn gwobr efydd o fri yng Ngwobrau BTEC Pearson 2020.

Georgina KenvinMae Georgia wedi cael ei chydnabod gan ei hathrawon a’i chyfoedion am lwyddo yn ei huchelgais gyrfaol o ymuno â’r heddlu, drwy ddangos ei hangerdd, dycnwch a pharodrwydd i ddysgu yn ystod ei hamser ar y cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai. Drwy gydol y cwrs, mae hi wedi cael ei chyflwyno i safbwyntiau newydd ac wedi datblygu ei hunanhyder drwy gymryd rhan yng Ngwobr Dug Caeredin, ac yn dilyn ei llwyddiant yn Coleg Gwent, mae Georgia bellach yn edrych ymlaen at ddechrau ei phrentisiaeth heddlu.

Fel un o’r colegau sy’n perfformio orau ledled Cymru o ran pynciau galwedigaethol, rydym yn gwybod y gall y cymwysterau hyn roi cychwyn gwych i’ch gyrfa. Mae ein cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai wedi rhoi sgiliau academaidd, ymarferol a throsglwyddadwy angenrheidiol i Georgia, gan osod y sylfeini ar gyfer ei llwyddiant. Gan gydweithio’n agos gyda chyflogwyr lleol, rydym yn arfogi miloedd o ddysgwyr fel Georgia â’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol y mae cyflogwyr eu hangen, gan gefnogi dilyniant a dyheadau gyrfaol mewn galwedigaethau sy’n amrywio o osod brics a mecaneg cerbydau, i iechyd a gofal cymdeithasol.

Dangosodd canlyniadau pôl gan Pearson fod dwy ran o dair o fusnesau canolig eu maint wedi cyflogi graddedigion BTEC yn y pum mlynedd diwethaf, a bod bron i chwarter y dysgwyr sy’n mynd i’r Brifysgol yn gwneud hynny gyda BTEC. Felly, rydym yn deall bod nifer o gyflogwyr a phobl ifanc eisiau cadw eu holl opsiynau ar agor ac ennill cyfuniad o sgiliau academaidd, ymarferol a throsglwyddadwy gwerthfawr y gall cymwysterau gweledigaethol fel ein cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai eu cynnig. Wedi’u cynllunio i’ch gwneud yn fwy cyflogadwy, mae ein cymwysterau galwedigaethol yn agored i’r rhai sy’n gadael ysgol ac oedolion sy’n dysgu fel ei gilydd ac rydym yn derbyn ceisiadau nawr.

Gwobrau BTEC Pearson 2020

Roedd Gwobrau BTEC Pearson 2020 yn cynnwys 17 o gategorïau a chyflwynwyd gwobrau gan enillydd dwy fedal aur Olympaidd, sef Max Whitlock, yn ogystal ag actores a chyn-fyfyriwr BTEC Drama, Kellie Shirley. Bu’r panel arbenigol o feirniaid sy’n cynnwys uwch dîm arwain Pearson, newyddiadurwyr ac arbenigwyr allanol, yn ystyried yr enwebeion yn ofalus cyn penderfynu ar yr enillwyr.

Roedd yr enwebiadau hyn o safon eithriadol o uchel ac roedd pob un o’r dysgwyr wedi cael canlyniadau gwych yn ystod eu hastudiaethau BTEC. Cyflwynwyd y gwobrau yn ystod seremoni ar-lein ddydd Iau 25 Mehefin, ac rydym wrth ein bodd bod un o’n dysgwyr anhygoel, Georgia, wedi cael cydnabyddiaeth am ei chyflawniadau eithriadol drwy wobr efydd.

Rydym yn hynod falch o bopeth y mae Georgia wedi’i gyflawni yma yn Coleg Gwent, ac mae gweld faint mae hi’n elwa o’i gwaith caled a’i haelioni wrth gynnig cymorth i’w chyfoedion yn hynod ysbrydoledig. Edrychwn ymlaen at weld llwyddiant Georgia yn ei gyrfa newydd yn y gwasanaeth heddlu!

Dewch o hyd i’ch galwedigaeth a gwnewch gais heddiw ar gyfer mis Medi.