En
3D printed visors and fast track training

#ColegYnParhau - Sut Y Gwnaeth Ein Cymuned Wahaniaeth Yn Ystod Y Cyfyngiadau Symud


22 Mai 2020

Rydym yn hynod falch o’n myfyrwyr a staff ysbrydoledig, sydd wedi bod yn gwneud eu gorau glas i gynnig help llaw i’r gymuned leol yn ystod y cyfyngiadau symud yn sgil y Coronafeirws. Felly, beth am roi sylw i rai o’r pethau gwych sydd wedi bod yn mynd ymlaen…

Addysgu a Dysgu Rhithiol

I barhau â’r dysgu, cyflwynom addysgu a dysgu rhithiol gan ddefnyddio’r holl dechnoleg ar gael i ni, ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae’r coleg wedi parhau, wrth gadw ein myfyrwyr a staff yn ddiogel. Ond ni fyddem wedi gallu gwneud hyn heb eich cefnogaeth chi!

Cyfrannu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) Hanfodol

Gyda chyflenwadau o gyfarpar diogelu personol (PPE) yn isel mewn ysbytai, daeth ein staff ymroddedig ynghyd i gasglu cyflenwadau oedd eisoes yn bodoli yn y Coleg i’w cyfrannu i’r bwrdd iechyd lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Cafwyd cyfraniadau gan yr adrannau Gwyddoniaeth, Gwallt a Harddwch, Peirianneg a Cherbydau Modur ac roeddent yn cynnwys:

  • 28,700 o fenig tafladwy
  • 1,300 o ffedogau tafladwy
  • 92 o fasgiau tafladwy
  • 159 o gogls diogelwch
  • 42 o gysgodion wyneb llawn
  • 130 o sbectols diogelwch
  • 7 litr o hylif diheintio dwylo
  • 1,400 o hancesi gwlyb gwrth-facteria

Cyfrannu Brwshys a Chribau Gwallt

Nid yw nifer o gleifion ysbytai a thrigolion cartrefi gofal yn cael gweld eu teulu na’u ffrindiau, ac efallai nad oes ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt. Felly, ar y cyd â’n partneriaid yn Goldwell UK, cyfrannom frwshys a chribau gwallt i Ysbyty Brenhinol Gwent a chartrefi gofal lleol. Diolch i’n partneriaid yn Goldwell am ein helpu i helpu ein cymuned!

Argraffu 3D Cyflenwadau Hanfodol

Bu i’r Darlithydd Dylunio a Thechnoleg David Watkins, ddatblygu, profi a defnyddio ein hargraffwyr 3D o’r radd flaenaf ar Gampws Dinas Casnewydd i gynhyrchu dyblygiadau o’r rhannau sy’n ofynnol ar gyfer y peiriannau a ddefnyddir i brofi am COVID-19. Cynorthwyodd John Williams, Darlithydd yn yr Ysgol Peirianneg, Celf a’r Cyfryngau i argraffu hefyd, a llwyddodd y ddau i gynyddu’r capasiti profi yng Nghymru 10%.

Bu i Daniel Lockett, Arweinydd Cwrs Peirianneg gydlynu ymdrechion argraffu 3D staff o Barth Dysgu Blaenau Gwent hefyd. Camodd y criw i’r adwy gan ddefnyddio argraffwyr 3D soffistigedig yn yr adran Beirianneg i gynhyrchu amddiffynwyr wyneb i ymgyrch Big Print 3D Crowd UK, gan gynhyrchu cannoedd o unedau i Ysbyty Llandochau, Ysbyty Neville Hall a mwy.

Hairbrushes, scrubs and face visor

Hyfforddiant Gloywi Carlam i Staff Rheng Flaen

I helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, agorom ein Campws Brynbuga fel cyfleuster hyfforddi. Bu i ddau o’n staff addysgu a Nyrsys Cofrestredig – Helen Curtis o Gampws Pont-y-pŵl a John Whitcher o Barth Dysgu Blaenau Gwent – ddarparu hyfforddiant gloywi sgiliau clinigol carlam mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, gan helpu i symud mwy o staff y GIG i’r rheng flaen.

Myfyrwyr a Staff yn Gwirfoddoli

Da iawn i’n holl fyfyrwyr a staff sydd wedi gwirfoddoli eu hamser i helpu’r gymuned leol. Dangosodd 40 o fyfyrwyr ddiddordeb mewn gwirfoddoli i weithio mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol ac roedd eu gwaith gwirfoddol yn amrywio o ddanfon presgripsiynau, i ofalu am yr oedrannus yn uniongyrchol.

Digwyddiadau Agored Rhithiol

Er bod ein campysau ar gau yn sgil cyfyngiadau’r llywodraeth, rydym yn parhau i dderbyn ceisiadau newydd ar gyfer mis Medi 2020. Ond deallwn fod edrych o amgylch ein campysau a chwrdd â thiwtoriaid yn rhan bwysig o’ch proses benderfynu. I’ch helpu i wneud hyn, rydym yn datblygu digwyddiadau agored rhithiol yn hytrach, fel y gallwch archwilio bywyd yn y coleg o ddiogelwch a chysur eich cartref!

Creadigrwydd gan ein Myfyrwyr a Staff

  • Da iawn i fyfyrwraig Cefnogi Addysgu a Dysgu Lefel 2 Lisa Jones, sydd wedi bod yn brysur yn gwnïo 20 set o ddillad diogelu personol i weithwyr rheng flaen yn Ysbyty Brenhinol Gwent!
  • Llongyfarchiadau i Nerissa Vaughan, un o’n myfyrwyr eChwaraeon arloesol, am ddefnyddio ei sgiliau i drefnu digwyddiad chwarae gemau yn llwyddiannus – Teamfight Tactics – i godi ymwybyddiaeth ar gyfer elusen iechyd meddwl leol PAPYRUS yn ystod y cyfyngiadau symud!
  • Mae Hyfforddwr Academi Bêl-droed Coleg Gwent, Jack David, wedi bod yn codi arian i’r GIG drwy wisgo crys, cit neu dop hyfforddi pêl-droed lliw gwahanol, ddydd a nos am 30 diwrnod!
  • Rydym yn falch iawn fod dau o gyn-fyfyrwyr chwaraeon Coleg Gwent a Worldskills UK wedi bod yn arwain sesiynau ffitrwydd ac ioga i golegau’r DU gydag AOCSport. Mae’r amserlen o sesiynau wythnosol rhad ac am ddim wedi bod yn cael myfyrwyr y wlad ar eu traed yn ystod y cyfyngiadau symud.

Roeddem bob amser yn gwybod fod gan ein staff a dysgwyr yn Coleg Gwent y gallu i ragori… ond nid ydym erioed wedi teimlo mor falch o’r caredigrwydd a’r ymroddiad a ddangoswyd gyda’r #ColegYnParhau er gwaetha’r cyfyngiadau symud.

Dewch yn rhan o’n cymuned ysbrydoledig – ymgeisiwch nawr ar gyfer mis Medi!