Addysgu ac addysg

Dewch i ddarganfod ein cyrsiau addysg a chymorthyddion addysgu
A fyddech chi’n hoffi gweithio gyda phlant neu bobl ifanc i’w helpu i gyrraedd eu llawn potensial? Ydych chi’n awyddus i ddod yn athro neu’n gymhorthydd addysgu sy’n gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol?
Y tu mewn neu’r tu allan i’r ystafell ddosbarth, gall dilyn gyrfa yn y byd addysg yn cynorthwyo eraill i ddysgu fod yn werth chweil. Fe welwch fod llawer o gyfleoedd ar gael ar gyfer gweithio fel cymhorthydd addysgu, cymhorthydd cymorth a dysgu, neu athro, a gall eich hyfforddiant fel athro ddechrau yn Coleg Gwent!
P’un a ydych yn dewis gweithio â phlant, pobl ifanc neu oedolion; yn y maes cymorth dysgu, gofal blynyddoedd cynnar, neu’n helpu unigolion ag anableddau; mae ein cyrsiau addysg, cyrsiau cymorthyddion addysgu a chyrsiau addysgu fel PgCE/PcET qualifications yn eich galluogi i ddechrau eich gyrfa ym myd addysg, gan eich rhoi ar leoliad gwaith er mwyn datblygu’ch profiad ar hyd y ffordd.
Ydych chi’n chwilio am gwrs hyblyg, rhad ac am ddim sy’n gweithio o amgylch eich ymrwymiadau presennol? Nid yw pob un o’n cyrsiau yn rhai llawn amser. Mae rhai o’n cyrsiau yn gyrsiau Rhan Amser Uwch, sydd am ddim ac wedi’u hariannu’n llawn, sydd ond yn gofyn am bresenoldeb rhan amser, sy’n golygu y gallwch astudio o amgylch ymrwymiadau gwaith a theulu.
CACHE Tystysgrif mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 2
Campws Dinas Casnewydd |
Rhan Amser Estynedig Dysgu rhan amser am 12 awr yr wythnos (weithiau mwy) gydag argaeledd grantiau.
|
Gweld y cwrs |
CACHE Diploma Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 3
Campws Dinas Casnewydd |
Rhan Amser Estynedig Dysgu rhan amser am 12 awr yr wythnos (weithiau mwy) gydag argaeledd grantiau.
|
Gweld y cwrs |
Gadael fy swydd oedd y penderfyniad mwyaf i mi ei wneud erioed. Bu i siarad â fy nhiwtor roi’r hyder i mi i roi’r gorau i fy ngwaith mewn manwerthu a dod i’r coleg yn llawn amser.
Ewch amdani, mwynhewch a manteisiwch ar y cwrs, byddwch yn magu mwy o hyder. Er bod Sgiliau am Astudiaeth Bellach yn flwyddyn ychwanegol mae’n hynod fuddiol ar gyfer y cwrs mynediad y flwyddyn ddilynol.
Julie Morphet,
Sgiliau ar gyfer Astudiaeth Bellach, Campws Dinas Casnewydd
Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr
Yn meddwl bod y pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Gwnewch gais nawr!Pam rydym yn berffaith i chi
Darganfod mwy