En
Erin

Llwyddo i Raddio: stori Erin


9 Tachwedd 2022

Ydych chi wastad wedi breuddwydio am fynd i’r brifysgol a chael gradd? Gwireddwch hyn yn Coleg Gwent!

Mae prifysgol yn freuddwyd i lawer ohonom, ond nid yw ennill gradd o gwmpas ein bywydau prysur wastad yn hawdd gyda ffioedd dysgu uchel, llety drud, ymrwymiadau amser a chostau teithio. Ond dyna lle daw Coleg Gwent iddi a gwneud hyn yn bosibl i chi.

Gyda chyrsiau ar lefel prifysgol ar gael ar draws amryw o feysydd pynciol, mae llawer o fanteision i astudio cwrs addysg uwch yn Coleg Gwent:

  1. Gallwch astudio yn agos at eich cartref ar un o bum campws lleol yn Crosskeys, Cwmbran, Glynebwy neu Frynbuga.
  2. Gallwch arbed amser ac arian gyda chostau teithio a llety prifysgol llai.
  3. Mae ein ffioedd dysgu yn is ac yn fwy fforddiadwy na’r rhan fwyaf o brifysgolion.
  4. Mae amryw o opsiynau cymorth ariannol a chymorthdaliadau ar gael. Gallech fod yn gymwys i gael grant hyd at £6,885 y flwyddyn!
  5. Rydym mewn partneriaeth ag amryw o brifysgolion blaenllaw i ddod â chyrsiau addysg uwch o safon dda at stepen eich drws, a seremoni raddio ar ddiwedd eich gradd hefyd.
  6. Mae ein tiwtoriaid yn arbenigwyr â phrofiad yn eu meysydd dysgu.
  7. Mae’r dosbarthiadau yn llai ac yn agosach na lleoliad prifysgol, felly gallwch gael y cymorth a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi.
  8. Nid yw ein gofynion mynediad mor gaeth ar gyfer ein cyrsiau addysg uwch. Rydym yn edrych ar eich profiad gwaith a bywyd, yn ogystal â’ch cymwysterau blaenorol.

Felly, os ydych chi wastad wedi breuddwydio am fynd i’r brifysgol, efallai mai cwrs addysg uwch yn eich campws lleol yw’r ateb i chi. Mae gradd o fewn eich cyrraedd chi – gwnewch i hyn ddigwydd yn Coleg Gwent!

Archwiliwch ein cyrsiau Addysg Uwch

Gwireddwch eich breuddwyd

A hithau’n frwd ac wrth ei bodd yn gofalu am anifeiliaid, bu Erin yn astudio ein Gradd Sylfaen mewn Nyrsio Milfeddygol ar Gampws Brynbuga i wireddu ei breuddwyd o fod yn nyrs filfeddygol ers pan oedd hi’n blentyn. Cewch glywed am brofiad Erin o gwrs ar lefel prifysgol yn Coleg Gwent a sut yr aeth hi ati i wireddu ei breuddwyd:

“Coleg Gwent yw un o’r unig golegau lleol sy’n cynnig y Radd Sylfaen mewn Nyrsio Milfeddygol. Nid oes llawer o rai eraill yn cynnig y cwrs! Mae gwybod bod y tiwtoriaid yn nyrsys milfeddygol yn wych hefyd. Mae’n helpu gan eu bod nhw’n deall y rôl ac â phrofiad ohoni! Yn ystod fy nghwrs addysg uwch, rydw i’n wirioneddol wedi mwynhau dysgu arddulliau nyrsio a’r hyn y gallaf ei wneud a’i gyflawni. Roeddwn i wrth fy modd yn dysgu am yr wyddoniaeth y tu ôl i’r cwbl! Fy hoff ran yw anesthesia, gan ei fod yn rhan fawr o rôl y nyrs filfeddygol. Ond roeddwn i wrth fy modd efo’r cwbl i ddweud y gwir. Dyma oedd y penderfyniad iawn i mi, yn bendant.

Roeddwn i eisiau bod y nyrs filfeddygol orau y gallaf i, drwy ymestyn fy sgiliau drwy weithio mewn gwahanol bractisys a bod yn locwm. Rydw i bellach wedi dechrau fy musnes fy hun yn nyrs filfeddygol locwm, sy’n golygu fy mod i’n hunangyflogedig. Mae gen i asiant recriwtio a chyfrifydd, ac mi fyddai’n mynd o gwmpas practisys eraill ac yn gweithio pryd bynnag, a lle bynnag y mae angen. Os ydych chi eisiau astudio cwrs ar lefel prifysgol, neu fod yn nyrs filfeddygol, mae’n rhaid i chi wirioneddol fod eisiau. Nid yw’n hawdd, ond mae help wrth law!”

Dilynwch yn olion traed Erin – cyflawni gradd a LLWYDDO i gyrraedd eich nod efo Coleg Gwent.
Ymunwch â’n digwyddiad agored nesaf i edrych ar ein cyrsiau, cyfarfod â’n tiwtoriaid, trafod eich opsiynau ac edrych ar ein gwasanaethau cymorth, ac ymgeisio nawr!

Erin

Profwch ein hastudiaeth lefel prifysgol er mwyn llwyddo fel unigolyn graddedig!