En
Kate Beavan with Rooster

Y Darlithydd Kate Beavan yn derbyn MBE am ei gwasanaeth i amaethyddiaeth


18 Ionawr 2021

Rydym yn hynod falch o gyhoeddi fod un o’n darlithwyr, Kate Beavan, wedi cael yr anrhydedd o dderbyn MBE am ei gwasanaethau i amaethyddiaeth! Mae Kate wedi treulio ei bywyd yn gweithio gydag anifeiliaid a chadwraeth mewn amrywiaeth o swyddi, ac mae hi wedi gweithio yng nghampws Brynbuga Coleg Gwent ers 25 mlynedd. Mae ganddi ddiddordeb brwd mewn addysg, ac mae hi’n mwynhau trosglwyddo ei chyfoeth o wybodaeth i fyfyrwyr sy’n rhannu’r un diddordebau, a bellach mae Kate yn arwain ein gradd sylfaen mewn Iechyd a Llesiant Anifeiliaid boblogaidd.

Yn Coleg Gwent, mae ein tiwtoriaid yn arbenigwyr yn eu meysydd ac yn meddu ar gyfoeth o wybodaeth a phrofiad yn eu meysydd pwnc. Cafodd ei magu yng nghefn gwlad, a’i hysbrydoli gan ei thad – gwir wladwr ac awdur, a drosglwyddodd ei gariad a dealltwriaeth am gefn gwlad i Kate. Roedd hefyd yn ddarlithydd ysbrydoledig mewn ysgrifennu creadigol, ac roedd ganddo lyfr nodiadau a beiro yn ei boced bob amser, ac roedd yn swyno pawb â’i ffraethineb cyflym a dealltwriaeth am gymeriadau gwlad a bywyd gwledig. Mae sawl stori a gafodd ei hadrodd dros beint yn y dafarn wedi cael eu trafod yn ei erthyglau, caneuon a llyfrau, gan ysbrydoli cariad Kate at amaethyddiaeth, bywyd gwledig ac addysgu.

Kate Beavan in a field

Gyfochr â’i gwaith yn y coleg, mae Kate hefyd yn ffermwr ac yn hyrwyddo merched mewn ffermio, wrth gyfrannu at y gymuned leol. Roedd hi’n Gadeirydd Sirol ar gyfer NFU, ac mae’n gwirfoddoli gyda’r Royal Agricultural Benevolent Institution, a Thîm Welsh Marine Life Rescue. Yn ogystal, mae Kate wedi cymryd awenau rôl arall fel Swyddog Prosiect ar gyfer prosiect uchelgeisiol sy’n cael ei arwain gan ffermwyr, yn plannu 1 miliwn o goed yn Ne Ddwyrain Cymru, felly mae bywyd wastad yn brysur ac yn llawn bwrlwm! Os nad oedd hynny’n ddigon i’w chadw’n brysur, sefydlodd Kate’s Country School, lle mae’n rhedeg cyrsiau ar hwsmonaeth anifeiliaid a sgiliau gwledig, yn cynnwys cneifio defaid, hwsmonaeth defaid, wyna a gwneud seidr. Mae Kate yn credu fod y cysylltiad rhwng bwyd a chefn gwlad yn cael ei gamddeall yn aml. Mae cynhyrchu bwyd a’r amgylchedd yn mynd law yn llaw, ac mae ffermwyr Cymru’n gweithio’n galed i gynnal y cydbwysedd hwn wrth gynhyrchu bwyd fforddiadwy, diogel o ansawdd a chynnal y cefn gwlad hyfryd rydym yn byw ynddo. Felly, mae hi’n mwynhau plethu hyn yn ei haddysgu, a dod â myfyrwyr i’r fferm i weld ar yr olwg gyntaf sut mae’r amgylchedd a bwyd yn gweithio fel un. Mae dysgwyr sy’n astudio’r radd sylfaen mewn Iechyd Anifeiliaid, Llesiant a Gwyddorau Milfeddygol yn elwa o angerdd Kate am rannu ei gwybodaeth ac arferion amaethyddol mewn sefyllfaoedd go iawn.

Gyda chariad at fywyd a’r gymuned wledig, mae’r gweithgareddau hyn wedi bwydo i arfer addysgu Kate, ac wedi ei harwain at gael ei chydnabod yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd. Gellir dyfarnu gwobr MBE (Aelod o’r Ymerodraeth Brydeinig) ar gyfer bob math o lwyddiannau gwahanol, ond yn aml, caiff ei dyfarnu i gydnabod llwyddiannau cymunedol neu wasanaeth “ymarferol” lleol, sydd wedi bod yn esiampl i eraill – ac mae hyn yn rhywbeth mae hi wedi ei gyflawni dro ar ôl tro gyda’n dysgwyr. Wrth fyfyrio ar ei anrhydedd, dywedodd Kate: “Roedd yn sioc enfawr, ac rwyf dal yn ceisio credu’r peth a dweud y gwir. Derbyniais yr e-bost cyntaf yn gynnar fis Rhagfyr, ond roeddwn yn meddwl mai sbam ydoedd, ac roeddwn am ei ddileu! Yna, cefais lythyr hyfryd a daeth y cyfan yn real. Hyd heddiw, nid wyf yn teimlo fy mod yn ei haeddu, ond mae’r adborth wedi bod yn wych, ac yn well na dim, mae wedi gwneud i ni wenu.”

Nawr, mae Kate yn edrych ymlaen at daith i Lundain ar gyfer y seremoni wobrwyo, pan fydd yn ddiogel i wneud hynny, ac yn y cyfamser, mae’n parhau i seinio’r utgyrn dros amaethyddiaeth a’r bobl arbennig sy’n gweithio yn y diwydiant drwy ei gwaith haddysgu, ffermio a gwirfoddoli. Ar ran y Coleg, hoffwn estyn llongyfarchiadau enfawr i Kate ar ei llwyddiant arbennig. Os hoffech chi ddilyn ôl troed Kate, ac elwa o’i harbenigedd a gwybodaeth yn y sector, edrychwch ar y cwrs gofal anifeiliaid ac amaethyddiaeth sydd ar gael yn Coleg Gwent, yma.