
Amaethyddiaeth a Gofal Anifeiliaid
Beth am sicrhau bod gennych yr offer angenrheidiol er mwyn i’ch angerdd dros yr awyr agored a chreaduriaid bach a mawr allu datblygu. Yn ein campws gwledig ym Mrynbuga, nid yn unig fe gewch y sgiliau a’r cymwysterau yr ydych eu hangen, ond hefyd cewch y profiad pwysig hwnnw y mae cynifer o gyflogwyr yn chwilio amdano. Cewch faeddu eich dwylo. Cewch gymwysterau. Cewch droedio llwybr at yrfa eich breuddwydion.
Er bod y diwydiant hwn yn enfawr, fe allwn ni roi ichi’r sgiliau i hogi eich angerdd ac agor y drws at yrfa eich breuddwydion yn gweithio gydag anifeiliaid. O filfeddygfeydd i salonau trin anifeiliaid. O gwmnïau bwydydd anifeiliaid i sŵau. Os ydych wrth eich bodd gydag anifeiliaid, dilynwch gwrs mewn rheoli a gofalu am anifeiliaid gyda ni heddiw.
Dyma ddiwydiant hanfodol a dynamig. Bydd eich cwrs ymarferol yn eich tywys allan o’r ystafell ddosbarth ac i amgylcheddau gweithio go iawn. Golyga hyn y bydd eich profiad yn cynyddu bob dydd. Pa un a ydych eisiau gweithio yn y meysydd ffermio a rheoli tir, rheoli mentrau bach neu waith contractio fferm, gall cwrs mewn amaethyddiaeth fod yn llwyfan perffaith ichi ddatblygu arno.
Mae astudio ceffylau a rheoli ceffylau yn llawer mwy nag yr ymddengys ar yr wyneb. Mae’n werthfawrogiad gwirioneddol o’r rhywogaeth a’r hyn y mae angen ichi ei wneud i ofalu am yr anifeiliaid, eu gwarchod a’u rheoli. O reoli buarthau, marchogaeth cystadleuol, achub anifeiliaid neu waith bridio, dyma eich cyfle i gymryd yr awenau a charlamu at yrfa’n gweithio gyda cheffylau.
Dim ond un blaned a gawn ni, felly mae gwarchod a rheoli ein cefn gwlad yn hollbwysig i’w pharhad yn yr hirdymor. Mae dewisiadau gyrfa posibl yn cynnwys gweithio i Goed Cadw neu’r Comisiwn Coedwigaeth, rheoli mentrau bach, neu weithio fel contractwr tir. Caru’r awyr agored?
Ein cyrsiau llawn amser Ein cyrsiau rhan amser
BSc (Anrh) - Ychwanegiad Ceffylau
Campws Brynbuga |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
Gradd Atodol BSc (Anrh) - Iechyd a Lles Anifeiliaid
Campws Brynbuga |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
Gradd Atodol BSc (Anrh) - Nyrsio Milfeddygol
Campws Brynbuga |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
BTEC Diploma BTEC mewn Astudiaethau Tir - Gofal Anifeiliaid Lefel 1
Campws Brynbuga |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
BTEC Diploma Sylfaen Genedlaethol mewn Rheoli Anifeiliaid Lefel 3
Campws Brynbuga |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
BTEC Diploma 90 Credyd mewn Rheoli Ceffylau Lefel 3
Campws Brynbuga |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
City & Guilds Diploma City & Guilds mewn Gofal Anifeiliaid Lefel 2
Campws Brynbuga |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
City & Guilds Gofal Ceffylau Lefel 2
Campws Brynbuga |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
City & Guilds Diploma City & Guilds mewn Gofal Ceffylau Seiliedig ar Waith Lefel 1
Campws Brynbuga |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
Gradd Sylfaen mewn Iechyd a Lles Anifeiliaid
Campws Brynbuga |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Ceffylau
Campws Brynbuga |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
Gradd Sylfaen mewn Nyrsio Milfeddygol
Campws Brynbuga |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
Dewisais ddilyn cwrs am ofal anifeiliaid gan fy mod yn gobeithio ail gydio yn nhraddodiad ffermio fy nheulu. Mae’r cyfleusterau yma’n rhagorol ac yn well na dim arall rydw i wedi’i weld. Mae yma fferm weithiol, canolfan farchogaeth ac uned gofal anifeiliaid. Rydyn ni’n gwneud tasgau o gwmpas y fferm, rheoli’r stad, gyrru tractorau, defnyddio peiriannau, a gwneud gwaith ffensio a choedwigaeth. Mae wedi gwella fy ngwybodaeth yn y sector yn fawr.
Kiahren Pettican
Gofal Anifeiliaid
Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr