City and Guilds Diploma mewn Astudiaethau Tir - Gofal Anifeiliaid Lefel 1

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Gofal Anifeiliaid, Ceffylau ac Astudiaethau Tir
Lefel
1
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Brynbuga
Dyddiad Cychwyn
01 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Mae gofyn am 4 Gradd 2 (Gradd E) mewn TGAU neu'n gyfwerth, a rhaid i chi feddu ar ddiddordeb brwd mewn ystod eang o anifeiliaid bychain.
Yn gryno
Cynlluniwyd ein cwrs lefel 1 fel cyflwyniad i’r maes astudiaeth sydd o ddiddordeb i chi ac i'ch helpu i ddatblygu sgiliau dysgu ehangach.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Sydd â diddordeb brwd mewn anifeiliaid
... Sydd am ddatblygu sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy
Beth fyddaf yn ei wneud?
Ystod o sesiynau damcaniaethol ac ymarferol sydd yn canolbwyntio ar y diwydiant gofal anifeiliaid, gan ddatblygu sgiliau bywyd trosglwyddadwy a hyder.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi feithrin eich gwybodaeth, eich sgiliau ymarferol a'ch gallu i weithio fel rhan o dîm gydag ystod o rywogaethau o gasgliad anifeiliaid y coleg. Byddwch yn ennill ystod o gyfleoedd dilyniant, gan gynnwys addysg bellach yn y coleg ar un o'n cyrsiau lefel nesaf, prentisiaeth neu gyflogaeth!
Byddwch yn ennill cyfle i weithio gydag anifeiliaid y coleg a chael cipolwg ar fywyd yn y coleg. Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy a chwblhau tasgau gyda’r nod o arddangos yr hyn y gallwch ei wneud a’r hyn rydych wedi'i ddysgu.
Ceir asesiadau amlddewis allanol yn ogystal â phrosiectau a asesir a thasgau ymarferol.
Gallai'r unedau o astudiaeth gynnwys:
- Diwydiannau Tir
- Iechyd Anifeiliaid
- Anifeiliaid yn y Gwyllt
- Iechyd a Diogelwch
- Bwydo
- Sgiliau Ystadau
- Gwarchod Natur
- Sgiliau Ymarferol
Fe'ch asesir drwy asesiadau allanol, aseiniadau, tasgau ac asesiadau ymarferol a byddwch yn ennill:
- Diploma City & Guilds mewn Astudiaethau Tir - Gofal Anifeiliaid Lefel 1
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg (os nad ydych wedi cyflawni gradd C neu'n uwch ar lefel TGAU)
- Cymwysterau perthnasol eraill i ddatblygu eich set sgiliau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Bydd rhaid i chi fod yn llawn cymhelliant, yn weithiwr caled ac yn barod i roi cynnig ar bethau newydd. Bydd disgwyl i chi ymarfer sgiliau a thechnegau mewn amgylcheddau gwaith realistig yn y coleg a fydd yn caniatáu i chi ddatblygu eich sgiliau cyflogadwyedd. Mae presenoldeb a phrydlondeb ym mhob sesiwn yn ofyniad hanfodol o'r cwrs hwn.
Beth sy'n digwydd nesaf?
- Gallech barhau â'ch astudiaethau ar lefel 2 mewn maes galwedigaethol o'ch dewis
- Gallech symud ymlaen i brentisiaeth
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd rhaid i chi wedi cael brechiad tetanws diweddar cyn dechrau ar y cwrs hwn er mwyn gweithio gyda'r anifeiliaid.
Hefyd, at ddibenion Iechyd a Diogelwch, bydd rhaid i chi brynu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) cyn gweithio gyda'r anifeiliaid. Mae’r rhain yn cynnwys:
- cot labordy
- sgidiau glaw â chap dur
- oferôls glas tywyll
- bag i gludo eich PPE ynddo
Cost fras yr offer yw £40 a gellir prynu'r eitemau hyn cyn dechrau ar eich cwrs.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
UFBD0047AC
Campws Brynbuga
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 01 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr