En
Dysgwyr yn ennill 24 medal yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2021

Dysgwyr yn ennill 24 medal yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2021


28 Mai 2021

Rydym yn falch i gyhoeddi bod ein dysgwyr talentog ac ysbrydoledig wedi ennill cyfanswm ffantastig o 24 medal yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2021. Bob blwyddyn, mae dysgwyr o bob campws ac ystod eang o’n cyrsiau sy’n seiliedig ar sgiliau yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth genedlaethol i arddangos eu sgiliau. Ac nid oedd 2021 yn wahanol, er gwaethaf y ffaith bod dysgwyr galwedigaethol wedi wynebu blwyddyn na welwyd ei thebyg o’r blaen.

Unwaith eto, ymgymerodd ein dysgwyr gweithgar â’r her i feincnodi a gwella eu sgiliau trwy gystadlaethau ar draws sawl sector, ac rydym yn falch o ddathlu eu cyflawniadau a chasgliad o Fedalau Aur, Arian ac Efydd.

Cystadlodd dros 160 o ddysgwyr Coleg Gwent yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni ar draws amrywiaeth o gategorïau Adeiladu a Seilwaith; Peirianneg a Thechnoleg; Iechyd, Lletygarwch a Ffordd o Fyw; TG a Menter; a’r Cyfryngau a Chreadigol, gan dynnu sylw at Coleg Gwent fel arweinydd mewn addysg a safonau sgiliau. Rydym wrth ein bodd i weld ein dysgwyr ymroddedig yn ennill 24 medal Aur, Arian ac Efydd yn y digwyddiadau dathlu rhithwir a gynhaliwyd ar 13 a 27 Mai.

Cwrdd â’r enillwyr

Da iawn i’r holl ddysgwyr a gymerodd ran yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru ac a gynrychiolodd Coleg Gwent eleni, a llongyfarchiadau i’n henillwyr medalau:

Hyfforddwyr Personol

Technoleg Fodurol Cerbydau Ysgafn

  • Aur – Corey Hayward
  • Arian – Daniel White
  • Efydd – Samuel Phillips

Technoleg Ffasiwn

  • Arian – Henry Hoppe

Cynhyrchu Cyfryngau Digidol

  • Arian – James Vodden a Ben Roberts

Ymarferydd Therapi Harddwch (Corff)

  • Arian – Paulina Ziarko

Celf Gemau Digidol 3D

  • Arian – Natasha Colclough
  • Efydd – Ewan Kinsman

Technoleg Cerbydau Trwm

  • Arian – Tayler Jones

Sgiliau Cynhwysol: Gwasanaeth Bwyty

  • Arian – Hannah Culley
  • Efydd – William Dolphin

Sgiliau Cynhwysol: Arlwyo

  • Arian – Shekinah Francis

Cerddoriaeth Boblogaidd

  • Efydd – Laura ‘Jazmyn’ Huckbody, Corey Chidley, Ross Henley a Morgan Williams

Trin Gwallt

  • Efydd – Leah Browning

Atgyweirio Corff Cerbyd

  • Efydd – Bradley Watts

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

  • Efydd – Kayleigh Cake

Peirianneg Fecanyddol CAD

  • Efydd – Harry McLaren

Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru

Nod y gystadleuaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw codi proffil sgiliau yng Nghymru ac mae’n cyd-fynd ag anghenion economi Cymru, gyda Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rôl hanfodol y bydd colegau yn ei chwarae wrth adfer ar ôl y pandemig COVID. Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn rhan o’r weledigaeth ar gyfer dyfodol o ragoriaeth sgiliau yng Nghymru. Felly, bydd buddsoddi mewn sgiliau hanfodol yn galluogi Cymru i symud ymlaen i ddiwydiannau newydd sy’n dod i’r amlwg fel y sectorau digidol a gwyrdd, gan agor cyfleoedd ar gyfer gyrfaoedd a swyddi yn y meysydd hyn.

Mae ein tiwtoriaid profiadol yn arbenigwyr yn eu meysydd ac mae ganddynt brofiad personol o weithio yn eu diwydiannau. Felly, rydym yn rhoi profiad ymarferol wrth wraidd addysg a dysgu trwy gydol ein cyrsiau galwedigaethol. Rydym yn rhoi mynediad i ddysgwyr at gyfleusterau o safon diwydiant, cystadlaethau sgiliau, a chwricwlwm dan arweiniad cyflogwyr i sicrhau bod dysgwyr yn dysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer cyflogaeth ac i gael mantais gystadleuol yn y farchnad swyddi. Felly, os ydych chi’n chwilio am gwrs a fydd yn rhoi gwybodaeth a phrofiad ymarferol i chi i roi hwb i’ch gyrfa, mae gennym ni’r cwrs i chi. O arlwyo i fecaneg, a gwallt a harddwch i hyfforddi personol, gallwch Lwyddo gyda Coleg Gwent!

Dewch i ddarganfod ein hystod eang o gyrsiau a gwnewch gais nawr i ddechrau eich taith ym mis Medi.