En

Adeiladu

Adeiladwch eich gyrfa ym maes adeiladu

Os ydych chi’n ddysgwr ymarferol sy’n dyheu am yrfa ym maes crefftau – boed hynny’n osod brics, gwaith saer, plymio, trydanol, plastro, paentio ac addurno, neu dirfesur, cynllunio a dylunio – gallwch wneud hyn yn yrfa i chi ar gyfer y dyfodol gyda’n cyrsiau adeiladu!

Mae disgwyl i’r diwydiant adeiladu yng Nghymru dyfu’n gynt na gweddill y DU! O’r cartrefi rydym yn byw ynddynt i’r ffyrdd rydym yn teithio arnynt, mae nifer o swyddi ar gael ar bob lefel – felly beth am fod yn rhan ohono?

Mae gan ein campysau yr holl gyfleusterau sydd eu hangen arnoch i baratoi ar gyfer gweithio ar safle adeiladu, gyda gweithdai arbenigol â chyfarpar llawn, baeau plymio, offer safon diwydiant, ystafelloedd TG gyda meddalwedd dylunio CAD a Chanolfan Brofi Nwy ACS – fel y gallwch ennill profiad ymarferol a pherffeithio’r sgiliau i ddod yn grefftwr llwyddiannus.

Ochr yn ochr â’ch hyfforddiant ymarferol, byddwch hefyd yn dysgu’r ddamcaniaeth y tu ôl i’r ymarfer gan ein tiwtoriaid arbenigol. Byddwch yn gallu cynllunio’n effeithiol, defnyddio eich sgiliau creadigol a defnyddio mathemateg sylfaenol fel cyfeintiau, mesuriadau a chostau. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio TG mewn busnes ac yn datblygu eich sgiliau cyfathrebu er mwyn cyfrannu at sefydliad a bodloni anghenion eich cwsmeriaid.

Yn draddodiadol mae crefftwr medrus yn cymhwyso i Lefel 3 neu ymhellach ac yn cwblhau prentisiaeth yn gweithio yn y grefft o’i ddewis, gan ennill profiad yn y swydd wrth astudio yn y coleg. Gall llawer o gystadleuaeth fod ar gyfer lleoliadau prentisiaeth yn y crefftau, felly gall cwrs adeiladu llawn amser roi’r sylfaen berffaith i chi ennill prentisiaeth neu fynd yn uniongyrchol i fyd gwaith.  Gall y cyfle yn y coleg fod mewn crefft unigol neu ystod o grefftau cysylltiedig.

Ein cyrsiau llawn amser Ein cyrsiau rhan amser

Mae dysgwyr yn ymuno â chyrsiau gosod brics am amrywiaeth o resymau. P’un a yw i ennill cymwysterau i weithio yn y diwydiant neu i ddysgu digon o sgiliau i gynnal a gwella eu priodweddau eu hunain.

Gall gosodwyr brics ddysgu’r sgiliau i gynhyrchu nodweddion diddorol ac addurniadol. Gall y swydd ei hun fod yn gorfforol feichus ac mae’r angen am gyflymder a chywirdeb yn angenrheidiol pan fyddwch yn brofiadol. Gellir defnyddio’r sgiliau a ddysgir drwy osod brics mewn amrywiaeth o leoliadau, yn cynnwys adeiladu adeiladau newydd, ailwampio neu arbed arian i chi eich hun ar welliannau yn y cartref. Mae gan nifer o osodwyr brics y sgiliau i osod teils waliau a lloriau, gosod brics/slabiau palmant, adfer waliau a lefelu lloriau.

Bydd cwrs gwaith coed yn Coleg Gwent yn addysgu’r sgiliau gwaith coed a saernïaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y sector. Mae’r ddwy brif rôl yn cynnwys gweithio fel gweithiwr coed neu saer coed. Mae gosodwr coed ar safle yn gweithio ar safleoedd adeiladu yn gosod eitemau coed yn cynnwys distiau to, trimiau gorffen drysau a cheginau, tra bod saer coed yn creu’r pethau mae gosodwr coed yn eu gosod. Mae gwaith coed mainc yn cynnwys creu grisiau, cabinetau a ffenestri, ond gall hefyd gynnwys eitemau dodrefn. Byddwch yn dysgu cyfuniad o’r sgiliau hyn ar gwrs yn Coleg Gwent, fel y gallwch symud ymlaen i ddod yn osodwr coed neu’n saer coed gan ddefnyddio eich sgiliau yn y diwydiant. Mae’r gallu i ddefnyddio offer llawr ac offer pŵer yn hanfodol ac mae’r cyfleoedd yn eang iawn.

A ydych yn greadigol ac a oes gennych lygad craff am fanylder? Mae cwrs paentio ac addurno yn agor amrywiaeth o gyfleoedd creadigol ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Mae gweithio fel peintiwr ac addurnwr yn eich galluogi i orffen y gwaith sydd wedi’i adeiladu a sicrhau bod yr adeilad terfynol yn ddeniadol i’r llygad.

Mae paentio ac addurno yn gofyn am sylw craff i fanylder a dyhead i blesio’r cwsmer, gan y byddwch yn perffeithio’r cyffyrddiadau olaf yn fewnol ac yn allanol o gartrefi i bontydd i longau! Mae swyddi o fewn y maes yn amrywio, gallech weithio gyda chymdeithasau tai, cwmnïau cynnal a chadw, cwmnïau paentio ac addurno preifat neu gallech hyd yn oed gychwyn eich busnes eich hun! Mae’r cymwysterau hyn yn rhoi amrywiaeth o gyfleoedd i chi ddangos eich greddf a’ch talent.

Mae sgiliau plastro’n ategu pob crefft arall ac yn cynnwys cymysgu a defnyddio deunyddiau plastro, a defnyddio offer a thechnegau plastro. Mae plastrwr yn rhan hanfodol o dîm adeiladu a bydd yn meddu ar wybodaeth drylwyr am iechyd a diogelwch ac arferion gweithio effeithlon wrth symud a chario adnoddau, paratoi arwynebau cefndir, rhoi’r got blastr derfynol, plastro solet mewnol a rendro allanol, gosod leinin sych, lefelu a gosod byrddau plastr. Does dim modd gorffen gwaith heb blastrwr da!

Nid yn unig y mae sgiliau plymio yn hanfodol mewn bywyd bob dydd, ond gallant hefyd ddarparu gyrfa wych. Mae plymio da yn hanfodol ar gyfer iechyd cyhoeddus gan fod plymwyr yn ymdrin â dŵr yfed glân, glanweithdra a systemau nwy a gwresogi. Bydd ein cyrsiau plymio yn eich cyflwyno i’r diwydiant plymio ac yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau sylfaenol a’ch paratoi ar gyfer hyfforddiant pellach a all arwain at weithio ym maes gwasanaethu a gosod nwy fel peiriannydd nwy. Nid oes angen unrhyw brofiad plymio arnoch i ymuno â’r cwrs Sylfaen mewn Plymio – sydd ar gyfer rhywun sydd â diddordebau yn y diwydiant plymio – a gallwch symud ymlaen i ddiploma neu gwrs lefel 3 mewn plymio a gwresogi hefyd.

Gan sicrhau trydan ar gyfer ein cartrefi, swyddfeydd a’n ffermydd hyd yn oed, mae trydanwyr yn gweithio gyda gosod ceblau, goleuadau a switshis gan ddefnyddio cyflenwad pŵer. Gyda chwrs trydanwr, byddwch yn ymwybodol o’r safonau diogelwch diweddaraf, ac yn cynnig gwasanaeth dibynadwy i gwsmeriaid.

Mae amrywiaeth eang mewn gyrfa fel trydanwr ac mae’n amrywio o osod systemau mewn adeiladau newydd i gynnal a chadw rhai sydd eisoes yn bodoli. Mae ein cyrsiau gosodiadau trydanol llawn amser yn darparu’r cam cyntaf tuag at statws trydanwr cymwys. Mae ein cyrsiau trydanol yn cyfuno astudiaethau ar gyfer y Tystysgrifau Technegol City & Guilds gyda sylfaen mewn egwyddorion trydanol a diogelwch trydanol, gan eich paratoi tuag at eich gyrfa yn y dyfodol.

Mae dilyn gyrfa mewn tirfesur, cynllunio neu ddylunio’n gofyn am lwyr ddeall y diwydiant. Os ydych yn weithiwr cydwybodol sydd eisiau gwybod sut a pham y caiff adeiladau eu cynllunio a’u hadeiladu, bydd cwrs technegol yn gweddu i’r dim ichi. Bydd dilyn cyrsiau technegol yn rhoi’r sgiliau y mae arnoch eu hangen yn y gyrfaoedd hyn. Byddwch hefyd yn ymgymryd â pheth gwaith crefft wrth ddilyn y cyrsiau hyn.

Ystyried gyrfa ym myd adeiladu ond ddim yn gwybod ym mha grefft? Beth am roi cynnig ar amrywiaeth o wahanol dasgau adeiladu drwy ein cwrs aml sgiliau? Gyda’r cymhwyster sgiliau adeiladu sylfaenol hwn, gallwch gael blas ar ystod o wahanol grefftau i ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n ei fwynhau fwyaf ac i roi sylfaen wych i chi ar gyfer gweithio yn y diwydiant adeiladu.

Mae cymwysterau sgiliau adeiladu yn addas ar gyfer unigolion o unrhyw oed sydd eisiau cyflwyniad i’r diwydiant adeiladu, neu ar gyfer dysgwyr sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am swyddi adeiladu fel plymio, paentio ac addurno, gwaith coed a phlastro. Nid oes angen unrhyw brofiad arnoch – yr unig beth sydd ei angen yw awydd i roi cynnig arni o ddifrif a gweld ai adeiladu yw’r yrfa gywir i chi.

Fel rhan o’n cyrsiau aml sgiliau, byddwn yn eich cefnogi gyda gwella’r sgiliau sydd eu hangen yn y diwydiant adeiladu fel llythrennedd, rhifedd a TG. Gall cwblhau’r cwrs hwn arwain at astudio llawn amser pellach a phrentisiaeth (os gellir dod o hyd i gyflogaeth addas).

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

27 cwrs ar gael

Fy hoff ran o’r cwrs yw’r gwaith ymarferol gan gynnwys dysgu sut i ddefnyddio llifiau llaw ac offer pwerus. Mae’r cyfleusterau’n wych, ac mae gan y coleg bopeth sydd ei angen arnom. Mae’n ein paratoi ar gyfer y gweithle. Mae wedi rhoi sylfaen dda i mi mewn gwaith coed ar gyfer fy nyfodol.

Jamie Harris
Gwaith Saer, Lefel 2

Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr