En
Diana Williams Gold in Personal Training in Skills Competition Wales

Cwrdd â'r dysgwr - Diana yn cael gwobr Aur ar gyfer Hyfforddiant Personol yng nghystadleuaeth Sgiliau Cymru


25 Mai 2021

Enw: Diana Williams
Cartref: Y Fenni
Cwrs: Hyfforddwr Personol YMCA Lefel 3
Campws: Campws Brynbuga

Ar ôl cael plant, rhoddodd Diana y gorau i’w swydd fel Ffisiotherapydd cymwys i’r GIG, wedi nifer o flynyddoedd, a mynd i weithio fel Cynorthwyydd Addysgu a Meithrinfa. Roedd hi’n colli helpu pobl i wella eu llesiant corfforol, a datblygodd ei diddordeb mewn iechyd a ffitrwydd. Penderfynodd Diana ddilyn cwrs Hyfforddiant Personol yn Coleg Gwent fel ffordd o ddychwelyd i’r maes hwn, ac mae hi wedi mynd o nerth i nerth.

Pam y dewisoch chi wneud y cwrs hwn yn Coleg Gwent?

“Dewisais Coleg Gwent am ei fod yn fanteisiol i mi – o’r cwrs, i’r pellter o’m cartref ac mae’n lle hyfryd. Roeddwn wrth fy modd â Champws Brynbuga ac roedd cynnwys y cwrs yn apelio’n fawr ataf. Roeddwn hefyd wedi clywed fod y cwrs yn un ag enw da, ac roeddwn yn adnabod eraill oedd wedi mwynhau astudio’r cwrs hwn yno. Roeddwn yn edrych ymlaen at gyfoethogi fy ngwybodaeth bresennol am anatomi a ffisioleg!

Yr unig beth yr oeddwn yn poeni amdano oedd bod yn hŷn na’r rhan fwyaf o fyfyrwyr, a bod yn llai ffit. Fodd bynnag, doedd hynny byth yn broblem, ac roedd ymdeimlad cryf o ‘mi allaf lwyddo’, oedd yn fy helpu. Os oedd gennyf broblem, roedd rhywun ar gael i’m helpu. Teimlais fod gennyf gefnogaeth ac anogaeth ar hyd y daith.

Beth ydych chi wedi ei fwynhau fwyaf am astudio eto?

“Rwyf wedi mwynhau bob agwedd ar y cwrs, hyd yn oed y gwaith ar-lein. Mae’r tiwtoriaid wedi bod yn wych ar hyd y daith, ac rwyf wedi cael cyd-fyfyrwyr arbennig a chefnogol. Mae’r cyfuniad o faeth ynghyd ag agwedd ymarfer corff ar Hyfforddiant Personol wedi gwneud i bopeth deimlo’n gyfannol, ac mae’r cydbwysedd rhwng yr ymarferol a’r damcaniaethol wedi bod yn berffaith.

Yn amlwg, gwnaethom fethu rhai agweddau oherwydd y cyfnod clo, ond roedd y tiwtoriaid yn greadigol iawn, a gwnaethant bopeth bosib i roi’r profiad gorau i ni o dan yr amgylchiadau. Rwyf wrth fy modd yn astudio yng Nghampws hyfryd Brynbuga, a chawsom dywydd braf ar gyfer bob un o’n sesiynau ffitrwydd cerdded. Wrth edrych yn ôl, rwy’n sylweddoli bod y cwrs yn eich paratoi chi’n dda ar gyfer y byd gwaith go iawn mewn Hyfforddiant Personol, ac rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfleoedd a gefais.

Mae astudio yn Coleg Gwent yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi newid fy mywyd, ac wedi rhoi cyfleoedd i mi herio fy hun a datblygu. Mae fy nhiwtoriaid, Cerys, Chris a Joel wedi bod yn arbennig, ac wedi ein cefnogi ni ar hyd y daith. Yn sgil COVID, ni chawsom gyfle i ddefnyddio’r holl gyfleusterau a manteisio ar bob cyfle fyddai ar gael fel arfer, ond mae’r bobl a’r lle wedi llwyddo i wneud yn iawn am hynny.”

Beth ydych chi’n fwyaf balch ohono, neu beth oedd eich cyflawniadau mwyaf yn y coleg?

“Un o’r pethau rwyf fwyaf balch ohono oedd ennill y fedal aur ar gyfer Hyfforddiant Personol yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2021. Yn fwy na hynny, rwy’n falch iawn o’r ffordd mae pawb ar fy nghwrs wedi cyflawni gymaint, yn aml o dan amgylchiadau heriol.”

Amanda Hartshorn Bronze winner, Diana Williams Gold winner, and Rhys Edmunds Silver winner in Personal Training in Skills Competition Wales

Amanda Hartshorn, Diana Williams, Rhys Edmunds

 

Beth yw eich nodau gyrfaol tymor hir, a sut mae’r coleg wedi eich paratoi chi ar gyfer hyn?

“Pan ddechreuais y cwrs, nid oeddwn yn meddwl y buaswn i’n Hyfforddwr Personol! Defnyddiais y cymhwyster yn bennaf fel y cam cyntaf at wneud hyfforddiant Adsefydliad Cardiaidd BACPR. Fodd bynnag, rwyf wedi dysgu cymaint o’r cwrs, ac rwyf wedi cael cymaint o anogaeth felly nawr byddaf yn dechrau gweithio fel Hyfforddwr Personol, a gweld i ble mae hynny’n fy arwain. Mae popeth yn mynd yn dda hyd yn hyn! Mae’r coleg wedi bod yn wych mewn sawl ffordd wahanol, ac mae rhywbeth a oedd mor bell o’m cyrraedd ar flaenau fy mysedd erbyn heddiw. Mae wedi rhoi hwb sylweddol i fy hyder.”

A oes gennych gyngor i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio’r cwrs hwn yn Coleg Gwent?

“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn ffitrwydd neu hyfforddiant personol i ddilyn y cwrs. Ni chewch diwtoriaid gwell nac adeilad mwy hardd i astudio ynddo – mae offer newydd yn y gampfa erbyn heddiw hefyd!

O fy mhrofiad fy hun, mae’r ddau gwrs YMCA rwyf i wedi’u dilyn wedi bod yn wych ac yn werth bob ceiniog. Bydd rhaid i chi weithio’n galed, a herio’ch hun, ond byddwch yn cael eich cefnogi a’ch annog ar hyd y daith, ac erbyn y diwedd, byddwch yn teimlo’n barod i ddechrau eich busnes Hyfforddiant Personol eich hun. Mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer datblygu yn ystod y cwrs, ac ar ei ôl, ac rwy’n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi gwneud fy mhrofiad yn un cadarnhaol.

Felly, ydw! Mi rydw i’n sicr yn argymell y cwrs hwn, ac rwy’n gobeithio eich bod chi wedi cael amser cystal â mi.”

Os ydych chi’n ystyried ail-fentro i fyd addysg ar ôl seibiant; ail-hyfforddi mewn maes newydd; neu lansio eich gyrfa mewn maes rydych yn angerddol drosto; gwnewch yr hyn a wnaeth Diana a dilynwch gwrs yn Coleg Gwent. O gyrsiau llawn amser, rhan amser, a chyrsiau lefel prifysgol. Mae rhywbeth ar gael i bawb. Cwblhewch gais heddiw a gwnewch rywbeth i chi eich hun!