YMCA Diploma mewn Hyfforddiant Personol (Ymarferydd) - Noswaith Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden
Lefel
3
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
AM DDIM
Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024
Dydd Mawrth a Dydd Iau
Amser Dechrau
16:00
Amser Gorffen
20:30
Hyd
34 wythnos
Yn gryno
Mae'r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sydd â chymhwyster Lefel 2 mewn Hyfforddiant Campfa neu gyfwerth sy’n dymuno symud ymlaen i yrfa fel Hyfforddwr Personol proffesiynol ar sail gyflogedig neu hunangyflogedig.
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gymeradwyo gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer rheoli chwaraeon a gweithgaredd corfforol (CIMSPA).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... Unrhyw un sydd â chymhwyster Hyfforddwr Campfa Lefel 2 dilys
... Y rhai sydd eisiau’r wybodaeth i ddilyn gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd
Cynnwys y cwrs
Mae'r cwrs hwn yn mynd i'r afael ag ystod o wybodaeth a sgiliau ychwanegol i'ch helpu i symud ymlaen fel hyfforddwr personol cyflogedig neu hunangyflogedig. Mae'r cynnwys yn adlewyrchu'r gallu sydd ei angen i ddod yn hyfforddwr personol diogel ac effeithiol.
Nod y cymhwyster yw cydnabod y sgiliau, gwybodaeth a gallu mae unigolyn eu hangen i weithio fel hyfforddwr personol heb oruchwyliaeth. Mae hyn yn cynnwys gallu cynnig hyfforddiant un-i-un, asesiad sylfaenol, cyngor maethol a rhaglennu blaengar sy'n neilltuol i anghenion unigol y cleient.
Bydd y cwrs hwn yn cynnwys:
- Anatomeg a ffisioleg gynhwysol
- Hyrwyddo llesiant drwy gymhelliant a rhyngweithio cleientiaid
- Dylunio rhaglen ymarfer corff pwrpasol
- Cyfarwyddo rhaglen ymarfer corff wedi’i theilwra a thechnegau cyfathrebu
- Maeth i gefnogi gweithgaredd corfforol
- Craffter busnes ar gyfer ymarfer hyfforddiant personol
Cynhelir asesiadau drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys:
Papur theori aml ddewis, llyfryn gwaith asesu, portffolio arddangosfa hyfforddiant personol (5 elfen) a chwblhau log dysgwr.
Gofynion Mynediad
Mae angen ichi fod â chymhwyster hyfforddwr ffitrwydd Lefel 2 cymwys er mwyn ymgymryd â'r cwrs hwn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ôl ei gwblhau, gallwch ddefnyddio'r cymhwyster hwn fel llwyfan i symud ymlaen i gyrsiau eraill yn y sectorau iechyd a ffitrwydd neu hamdden egnïol.
Gall dysgwyr ddewis cymwysterau pellach ar yr un lefel, er enghraifft:
- Diploma Lefel 3 mewn Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff
- Diploma Lefel 3 mewn Cynyddu Cyfranogiad mewn Chwaraeon a Hamdden Egnïol mewn Lleoliadau Cymunedol
- Diploma Lefel 3 mewn Therapi Tylino Chwaraeon
- Diploma Lefel 3 mewn Dysgu Pilates
- Diploma Lefel 3 mewn Addysgu Ioga
- Cymwysterau arbennig lefel 3 yn ymwneud â phoblogaethau.
- Prentisiaeth mewn Hyfforddiant Personol
Gall dysgwyr hefyd ddewis symud ymlaen i gymwysterau lifer uwch, er enghraifft:
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Sicrhau Ansawdd Mewnol
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Deall Sicrhau Ansawdd Mewnol
- Tystysgrif Lefel 4 mewn Cyflwyno Gweithgarwch Corfforol i Unigolion â Chyflyrau Iechyd Meddwl
- Tystysgrif Lefel 4 mewn Arwain y Sicrwydd Ansawdd Mewnol
- Tystysgrif Lefel 4 mewn Rhaglennu Gweithgarwch Corfforol ar gyfer Unigolion â Phoen Cefn Isel
- Tystysgrif Lefel 4 mewn Therapi Tylino Chwaraeon
- Tystysgrif Lefel 4 mewn Rheoli Pwysau ar gyfer Unigolion â Gordewdra, Diabetes Mellitus a/neu Syndrom Metabolaidd
- Cymwysterau Lefel 4 Chwaraeon a Chyflyru
UPDI0337AB
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr