Dyma le i chi ddechrau o’r newyd
P’un a ydych chi am fynd i’r brifysgol, ennill eich swydd ddelfrydol neu deimlo’n fwy hyderus ym mywyd bob dydd, gall sgiliau mathemateg a Saesneg cryf eich tywys yn bell.
Os na wnaethoch ennill Gradd C neu’n uwch mewn TGAU Mathemateg neu Saesneg, peidiwch â phoeni. Yn Coleg Gwent, byddwn yn eich helpu i wella eich sgiliau ac ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch, ochr yn ochr â’ch prif gwrs.
Pam mae hyn yn bwysig
Gall gwella eich mathemateg a Saesneg eich helpu drwy:
- Ddyrchafu eich rhagolygon swydd
- Cyfleu cyfleoedd newydd ar gyfer eich gyrfa ac astudiaethau
- Meithrin eich hyder
- O bosib, ennill mwy yn y pen draw
Yr hyn y byddwch yn ei astudio
Gan ddibynnu ar eich canlyniadau yn y gorffennol, cewch eich gosod ar y lefel sy’n addas i chi. Gallai hon gynnwys:
- Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
- Lefel 3 Dysgu Uwch
- Ailsefyll TGAU Saesneg Iaith neu Fathemateg
- Sgiliau Hanfodol Cymru: Cymhwyso Rhif a/neu Gyfathrebu
Yr hyn a edrychwn arno
Byddwn yn edrych ar eich canlyniadau TGAU ac asesiadau cychwynnol i bennu’r llwybr sydd mwyaf addas i chi.
Dyma ganllaw sydyn:
Gradd C neu’n uwch? Byddwch yn dilyn Sgiliau Uwch neu Dysgu Uwch
Gradd D? Byddwch yn ailsefyll eich TGAU neu’n dilyn Sgiliau Hanfodol
Gradd E neu’n is? Byddwch yn meithrin eich sgiliau drwy Sgiliau Hanfodol ar Lefel 1 neu Lefel Mynediad
Saesneg fel ail iaith? Byddwch yn sefyll asesiad i ddod o hyd i’r lefel sydd mwyaf addas i chi
Addysg gartref neu’n 19+ oed? Bydd angen i chi sefyll arholiad mynediad cyn dechrau dilyn cwrs TGAU

Dyma pam fod Mathemateg a Saesneg mor bwysig
Mathemateg | Saesneg | |
---|---|---|
Cyfrifeg a Busnes | I wneud yn siŵr nad ydych yn gwario mwy na’ch cyllideb | I gyfathrebu’n effeithiol â staff a thrafod gyda chleientiaid |
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth | I fesur ffabrigau ym maes dylunio ffasiwn i sicrhau bod dillad yn ffitio | I gyflwyno eich gwaith yn llwyddiannus i gleientiaid |
Moduro | Darparu amcangyfrifon cost cywir ar gyfer atgyweiriadau neu wasanaethau cynnal a chadw | Cyfathrebu â chwsmeriaid i esbonio materion technegol ac opsiynau atgyweirio |
Arlwyo a Lletygarwch | I gyfrifo cynhwysion rysáit a gweithio allan pa mor hir y mae angen i chi ei goginio | I ddarparu gwasanaeth cwsmer rhagorol a chael archebion yn gywir |
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol | Rhoi fformiwlâu mewn taenlenni | Cofnodi data pwysig yn gywir |
Adeiladu | Defnyddio ffracsiynau i roi cymalau yn eu lle gyda’r un pellter rhyngddynt ar hyd wal stydiau | I ddarparu dyfynbrisiau cywir a phroffesiynol i ddarpar gleientiaid |
Peirianneg | Mesur deunyddiau ac onglau i sicrhau bod dyluniadau yn cael eu gwneud yn gywir | Deall rheoliadau iechyd a diogelwch i wneud yn siŵr bod mannau gweithio yn ddiogel |
Trin Gwallt a Therapi Harddwch | Gweithio allan y cymarebau cywir ar gyfer lliwio gwallt neu arlliwio aeliau | Cyfathrebu â chleientiaid a threfnu apwyntiadau |
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar | Gwneud yn siŵr eich bod yn sicrhau’r gymhareb gywir ar gyfer y nifer o blant neu gleifion i ofalwyr, gan helpu pawb i gadw’n ddiogel | Rheoli cofnodion cleifion neu gleientiaid |
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau | Sicrhau nad ydych yn tanfwydo neu’n gorfwydo anifeiliaid | Deall gwybodaeth am driniaethau i anifeiliaid |
Cerddoriaeth, Drama a Dawns | I gyfrifo amseroedd llwyfan | Dysgu sgriptiau ar gyfer clyweliadau |
Gwasanaethau Cyhoeddus | Cyfrifo cyflymder cerbydau sy’n rhan o ddamweiniau trwy ddefnyddio marciau sgidio, pellteroedd a mesuriadau eraill | Llunio adroddiadau gan roi manylion am ddigwyddiadau ac ymchwiliadau |
Science | I ddadansoddi data yn gywir | I gadw cofnodion cywir o brosiectau ac i ysgrifennu adroddiadau |
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden | Cyfrifo sgoriau a faint o bwyntiau sydd eu hangen arnoch i ennill | Cyfathrebu ag aelodau tîm a chytuno ar dactegau |
Teithio a Thwristiaeth | Cyfrifo cyfraddau cyfenwid arian i daro’r fargen orau | CYmchwilio i gyrchfannau i roi cyngor i gleientiaid |
Mae Mathemateg a Saesneg yn sail i gymaint o yrfaoedd gwahanol, felly p’un a ydych eisiau dod yn athro, newyddiadurwr, seicolegydd, neu hyd yn oed yn wyddonydd fforensig, mae llwyddo mewn Mathemateg a Saesneg yn hanfodol i chi achub y blaen. Mae nifer o gyflogwyr, gan gynnwys Prifysgol De Cymru, yn disgwyl i ymgeiswyr nad ydynt wedi astudio hyd at lefel gradd, gael Gradd C neu uwch yn eu TGAU.
Mae’r rhan fwyaf o brifysgolion yn gofyn am Radd C mewn TGAU Mathemateg a Saesneg, ac weithiau uwch ar gyfer cwrs penodol. Felly, bydd llwyddo yn y cymwysterau hyn yn eich galluogi i gael mynediad at ystod eang o gyrsiau prifysgol.
Efallai eich bod yn gweld Mathemateg a Saesneg yn heriol, neu efallai nad ydynt ymhlith eich hoff bynciau, ond maent mor bwysig o hyd i’ch dyfodol, felly daliwch ati! Gofynnwch am gymorth a pheidiwch â’i cholli hi oherwydd bydd y pynciau yn agor drysau i chi ar gyfer astudio a gyrfa yn y dyfodol.
Mae astudio Mathemateg a Saesneg yn rhoi ystod o sgiliau trosglwyddadwy i chi, megis sgiliau cyfathrebu a datrys problemau, sy’n ofynnol, nid yn unig yn y dosbarth neu’r gweithle, ond hefyd mewn nifer o agweddau eraill ar fywyd bob dydd. Mae cael sylfaen gadarn mewn Saesneg a Mathemateg yn agor y drysau i ystod o gyfleoedd gyrfa.
Ni waeth pa lwybr fyddwch yn ei ddewis – Prentisiaeth, cyflogaeth neu addysg bellach/uwch – mae gallu arddangos sgiliau Saesneg a Mathemateg gyda chymhwyster cydnabyddedig yn hynod bwysig ac yn eich helpu i fynd ymlaen mewn bywyd.
Mae Mathemateg a Saesneg yn hanfodol i’ch cael chi drwy fywyd, p’un a yw’n golygu ysgrifennu e-bost neu neges destun, neu reoli arian i gynnal cartref neu gyllideb yn y gwaith – rydym yn defnyddio’r arfau hanfodol hyn heb sylweddoli.
Efallai fod rhaid i chi astudio’n galed iawn i gyflawni’r graddau C hollbwysig hyn mewn Mathemateg a Saesneg, ond bydd werth yr holl ymdrech. Unwaith y bydd gennych y cymwysterau hyn, bydd gennych fwy o gyfleoedd yn y dyfodol.
Dw i’n gweld llawer o geisiadau am swyddi ac un peth dw i’n edrych arno yw a oes gan yr ymgeisydd radd TGAU mewn Mathemateg a Saesneg. Dylai pobl ifanc edrych ar addysg fel cyfle a fydd yn sicrhau bod mwy o ddrysau ar agor iddynt.
Byddwch yn cau drws drwy beidio â gwneud TGAU mewn Saesneg neu Fathemateg a bydd adeg yn eich bywyd pan fyddwch yn ymgeisio am swydd ac yn canfod y gall peidio â meddu ar y cymwysterau hyn eich dal yn ôl.
Dw i’n defnyddio Mathemateg a Saesneg bob dydd heb sylweddoli – ar y ffôn ac wrth ddelio â chwsmeriaid ac aelodau o’r cyhoedd. Ni ddylai pobl ifanc danseilio pwysigrwydd y pynciau hyn. Efallai nad ydych yn gweithio mewn amgylchedd swyddfa – efallai eich bod yn fecanydd neu’n trin gwallt – ond mae’r ddau yn gofyn am sgiliau rhyngweithio â phobl a chraffter busnes sy’n dibynnu ar y pynciau pwysig hyn.