En

Celf, y Cyfryngau, Dylunio a Ffotograffiaeth

Os ydych yn greadigol, mae gennym y cwrs i chi!

Gydag amrywiaeth o gyrsiau celf a dylunio, cyrsiau ffotograffiaeth, dylunio gemau a chyrsiau animeiddio, amrywiaeth enfawr o gyrsiau cyfryngau, a llawer mwy, gallwch chi fireinio eich sgiliau artistig yma! Mae hyd ein cyrsiau yn amrywio o 1-3 blynedd, gydag opsiynau llawn amser a rhan amser ar gael i bobl lefel sgiliau. Mae yna gyfoeth o gyfleoedd ar gael mewn pynciau creadigol. P’un a ydych wedi gosod eich bryd ar ddod yn Ddylunydd Gemau, Ffotograffydd neu weithio mewn Ffasiwn, mae tiwtoriaid Coleg Gwent sydd â phrofiad mewn diwydiant yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.

Mae ein cyrsiau celf a dylunio yn cynnig blas i chi o ddisgyblaethau sy’n gysylltiedig â chelf fel y gallwch benderfynu pa faes yr hoffech chi arbenigo ynddo yn y dyfodol. Gallwch astudio Celf a Dylunio ar bedwar o’n pum campws ar draws De Cymru. Mae ein holl gyfleusterau wedi’u cyfarparu’n broffesiynol ar gyfer cyrsiau celf a dylunio, lle rydym yn annog arbrofi i feithrin eich sgiliau a’ch hyder ar draws ystod eang o bynciau.

Byddwch yn creu portffolio ac yn archwilio llwybrau gyrfa posibl gyda’r gallu i arbenigo mewn meysydd fel celfyddyd gain, dylunio graffeg, ffotograffiaeth, dylunio mewnol, gemau cyfrifiadurol, ffasiwn a thecstilau. Mae yna fwy o wybodaeth am ein cyrsiau celf a dylunio yn y taflenni isod neu gallwch fod yn rhan o’n digwyddiad agored nesaf. Gwnewch gais nawr, mae’r lleoedd yn llenwi’n gyflym!

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau cyfryngau digidol, cyfryngau creadigol, dylunio gemau, cyrsiau e-chwaraeon a mwy! Mae ein cyrsiau cyfryngau yn ymdrin â disgyblaethau megis ffilm, teledu, radio, animeiddio a dylunio gwefannau.  Mae ein tiwtoriaid cyfeillgar yn parhau i weithio yn eu meysydd arbenigol eu hunain, a bydd yr ethos proffesiynol hwn a’r profiad galwedigaethol yn gwneud gwahaniaeth mawr wrth i chi astudio o fewn y diwydiannau creadigol.

Mae gyrfaoedd yn y cyfryngau yn aml yn brysur ac yn gystadleuol iawn. Mae’r diwydiant yn newid bob amser ac mae’n cwmpasu ystod eang o yrfaoedd mewn hysbysebu, marchnata, dylunio, ffilm, llenyddiaeth, cerddoriaeth, ffasiwn, y celfyddydau, ffotograffiaeth, cyhoeddi, cynhyrchu radio, cynhyrchu teledu, dylunio apiau, dylunio gwe, effeithiau arbennig a mwy! Cymerwch olwg ar ein taflenni cwrs isod i gael gwybod mwy am ein cyrsiau a gwnewch gais nawr i ddechrau eich taith yn y cyfryngau creadigol.

Os ydych yn greadigol a gyda llygaid am y llun perffaith, bydd ein cyrsiau ffotograffiaeth yn berffaith ar eich cyfer chi! Gall eich gyrfa fel ffotograffydd fod mor arbenigol neu amrywiol ag y mynnwch. Stiwdio, llawrydd, dogfennu, artistig, chwaraeon, bwyd, pensaernïaeth, marchnata neu ffasiwn – dyma rai o’r arbenigeddau y gallwch greu gyrfa ynddynt.  Ar ein cyrsiau ffotograffiaeth, byddwch yn cael eich addysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant, bydd gennych fynediad i stiwdios ffotograffiaeth o’r radd flaenaf, a chewch gyfleoedd gwych i fynd allan trwy gyfuniad o weithdai, ymweliadau ag orielau, arddangosfeydd a theithiau maes.

Gyda’n cyrsiau colur theatraidd ac i’r cyfryngau, gallwch fynd i fyd cyffrous colur effeithiau arbennig a cholur ffilm, theatr a theledu. Fel artist colur, byddwch chi’n coluro ac yn steilio gwallt unrhyw un sy’n ymddangos o flaen camera neu gynulleidfa fyw. Gallech weithio mewn ffilm, ar y teledu, yn y theatr, mewn cyngherddau, sesiynau ffotograffiaeth neu sioeau ffasiwn.

O steil naturiol ar gyfer y teledu, i ddefnyddio wigiau a gwallt gosod ar gyfer dramâu cyfnod neu ddefnyddio prosthetigau ar gyfer cynyrchiadau arswyd – nid yw bywyd artist colur byth yn ddiflas. Mae’r posibiliadau’n ddi-ben-draw! Cewch gyfleoedd gwych am brofiad gwaith mewn theatrau, ffasiwn, sesiynau tynnu lluniau, y byd ffilmiau a digwyddiadau. Dysgwch fwy am ein cyrsiau colur theatraidd ac i’r cyfryngau yn y taflenni cwrs isod a gwnewch gais i sicrhau eich lle!

Arddangosiadau ac arddangosfeydd myfyrwyr

Pob blwyddyn mae’r campysau yn cynnal arddangosfeydd diwedd blwyddyn, sy’n gyfle gwych i ffrindiau, teulu a’r cyhoedd i weld gwaith y myfyrwyr.

Mae gan y Coleg gysylltiadau â Phrifysgol Cymru, Casnewydd a Phrifysgol Morgannwg, sy’n rhoi profiad ehangach a chyfleoedd dilyniant cadarn i fyfyrwyr.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

AIM Diploma mewn Sgiliau ar gyfer Gweithio yn y Diwydiannau Creadigol a Dylunio (Celf a Dylunio, Crefft, Cerddoriaeth, Perfformio a Digwyddiadau, y Cyfryngau a Ffotograffiaeth a Chyflogadwyedd) Lefel 2

Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad cychwyn: 03 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

BA (Anrh) – Darlunio ar gyfer Diwydiant (Atodol)

Campws Crosskeys
Dyddiad cychwyn: 17 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

Gradd Atodol BA – Ffotograffiaeth

Campws Crosskeys
Dyddiad cychwyn: 19 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

Baglor yn y Celfyddydau - Cynhyrchu Sain ac Ysgrifennu Caneuon

Campws Crosskeys
Dyddiad cychwyn: 17 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

BTEC Diploma Cenedlaethol mewn Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol Lefel 3

Campws Crosskeys
Dyddiad cychwyn: 03 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

BTEC Diploma Cenedlaethol mewn Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol Lefel 3

Parth Dysgu Torfaen
Dyddiad cychwyn: 03 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

BTEC Diploma Lefel 1 mewn Astudiaethau Galwedigaethol - Celf a'r Cyfryngau Creadigol Lefel 1

Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad cychwyn: 02 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

BTEC Diploma Lefel 1 mewn Astudiaethau Galwedigaethol - Celf a'r Cyfryngau Creadigol Lefel 1

Campws Crosskeys
Dyddiad cychwyn: 03 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

BTEC Diploma Lefel 1 mewn Astudiaethau Galwedigaethol - Celf a'r Cyfryngau Creadigol Lefel 1

Parth Dysgu Torfaen
Dyddiad cychwyn: 03 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

BTEC Diploma Cenedlaethol mewn Ymarfer Celf a Dylunio Lefel 3

Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad cychwyn: 03 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

BTEC Diploma Cenedlaethol mewn Ymarfer Celf a Dylunio Lefel 3

Parth Dysgu Torfaen
Dyddiad cychwyn: 03 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

Gradd Sylfaen Artist-Ddylunydd Gwneuthurwr

Campws Crosskeys
Dyddiad cychwyn: 19 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio - Gemau

Campws Crosskeys
Dyddiad cychwyn: 17 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

Gradd Sylfaen mewn Darlunio

Campws Crosskeys
Dyddiad cychwyn: 20 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

Gradd Sylfaen mewn Cynhyrchu'r Cyfryngau

Campws Crosskeys
Dyddiad cychwyn: 17 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth

Campws Crosskeys
Dyddiad cychwyn: 17 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

HND mewn Colur Arbenigol

Campws Crosskeys
Dyddiad cychwyn: 13 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

OCR Diploma Technegol Caergrawnt mewn Celf a Dylunio Lefel 2

Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad cychwyn: 02 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

OCR Diploma Technegol Caergrawnt mewn Celf a Dylunio Lefel 2

Parth Dysgu Torfaen
Dyddiad cychwyn: 03 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

OCR Diploma Technegol Caergrawnt yn y Cyfryngau Lefel 2

Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad cychwyn: 03 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

OCR Diploma Technegol Caergrawnt yn y Cyfryngau Lefel 2

Campws Crosskeys
Dyddiad cychwyn: 03 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

OCR Diploma Technegol Caergrawnt yn y Cyfryngau Lefel 2

Parth Dysgu Torfaen
Dyddiad cychwyn: 03 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

UAL Diploma mewn Celf a Dylunio Lefel 2

Campws Crosskeys
Dyddiad cychwyn: 03 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

UAL Diploma mewn Celf a Dylunio Lefel 3

Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad cychwyn: 02 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

UAL Diploma mewn Celf a Dylunio Lefel 3

Campws Crosskeys
Dyddiad cychwyn: 03 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

UAL Diploma mewn Dylunio Digidol a Thechnoleg Lefel 3

Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad cychwyn: 04 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

UAL Diploma mewn Esports (Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol) Lefel 3

Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad cychwyn: 03 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

UAL Diploma mewn Dylunio Gemau Lefel 3

Campws Crosskeys
Dyddiad cychwyn: 04 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

UAL Diploma mewn Ffotograffiaeth Lefel 3

Campws Crosskeys
Dyddiad cychwyn: 03 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

VTCT Diploma mewn Effeithiau Arbennig Theatrig, Gwallt a Cholur y Cyfryngau Lefel 3

Campws Crosskeys
Dyddiad cychwyn: 04 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

VTCT Celfyddyd Trin Gwallt a Cholur y Cyfryngau Lefel 2

Campws Crosskeys
Dyddiad cychwyn: 03 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

CBAC Diploma mewn Astudiaethau Sylfaenol (Celf a Dylunio) Lefel 3/4

Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad cychwyn: 02 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

Rydw i wir yn mwynhau’r rhyddid i archwilio gwahanol gyfryngau a deunyddiau amrywiol ar fy nghwrs. Rydym yn gweithio ar ystod eang o bethau, o frandio i waith gwydr. Mae’r tiwtoriaid yn rhoi cymorth un-i-un yn ystod eich gwersi, a gallwch fod yn greadigol iawn mewn llawer o wahanol ffyrdd.

Koby Davies
Celf a Dylunio, Lefel 3

Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau