
Cerbydau Modur
Gyda dros 38 miliwn o gerbydau yn y DU, mae’r sector modurol yn faes gwaith sy’n symud yn gyflym.
Rydym yn dibynnu ar ein ceir i fynd â ni o A i B, ond rydym hefyd yn dibynnu ar dechnegwyr cerbydau i drwsio pethau pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le. Felly gallai cwrs cerbydau modur yng Ngholeg Gwent fod yn ddechrau taith gyffrous i chi. Byddwch yn ennill gwybodaeth dechnegol ac yn datblygu sgiliau mecanyddol i weithio ar geir go iawn, gan gynnwys cerbydau trydan, hybrid, petrol, diesel, a hyd yn oed car rasio Coleg Gwent!
P’un ai ceir clasurol, beiciau modur neu Formula 1 sy’n eich cyffroi, mae llawer o opsiynau o safbwynt gyrfaoedd lle cewch weithio gyda cherbydau modur, gan gynnwys:
Trwy ein cyrsiau cerbydau modur lefel 1, 2, a 3, byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol yn ein gweithdai cerbydau, gan ddefnyddio offer sy’n cwrdd â safon y diwydiant, ynghyd â fflyd o gerbydau trydan sy’n cynnwys Tesla a VW Golf newydd sbon. Mae gennym un o’r unig fythod chwistrellu paent arbenigol yng Nghymru, ynghyd â gweithdai peirianneg ac atgyweirio cyrff ceir. Felly, o fewn un o’r prif ddarparwyr hyfforddiant modurol a chanddo ganolfan Achredu Technegwyr Modurol (ATA) yn Ne Cymru, byddwch yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth arbenigol y mae eu hangen arnoch i fod yn rhan o ddyfodol y diwydiant.
Ar ôl cwblhau eich cwrs cerbydau modur neu chwaraeon moduro yng Ngholeg Gwent, gallwch gamu i mewn i fyd gwaith gyda hyder, neu arbenigo trwy fanteisio ar ragor o hyfforddiant. Felly dewch i ymuno â ni i sbarduno eich gyrfa yn y diwydiant cerbydau modur!
BTEC Gwobr mewn Peirianneg Chwaraeon Modur Lefel 3
Parth Dysgu Blaenau Gwent |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
BTEC Gwobr mewn Peirianneg Chwaraeon Modur Lefel 3
Campws Dinas Casnewydd |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
City & Guilds Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Modur Ysgafn Lefel 2
Campws Dinas Casnewydd |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
City & Guilds Diploma mewn Trwsio Difrod Damweiniau Modur (Corff a Phaent) Lefel 1
Campws Dinas Casnewydd |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
City & Guilds Trwsio Difrod Damweiniau Modur (Egwyddorion Paent) Lefel 2
Campws Dinas Casnewydd |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
City & Guilds Diploma mewn Egwyddorion Gosod Cerbydau Modur Lefel 2
Campws Dinas Casnewydd |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
City & Guilds Diploma mewn Egwyddorion Gosod Cerbydau Modur Lefel 2
Campws Crosskeys |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
City & Guilds Diploma mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Modur Lefel Mynediad 3
Campws Dinas Casnewydd |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
City & Guilds Diploma mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Modur Lefel Mynediad 3
Campws Crosskeys |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
City & Guilds City & Guilds Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Modur Ysgafn Lefel 3
Campws Dinas Casnewydd |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
City & Guilds Diploma mewn Cynnal a Chadw Cerbydau Modur Lefel 1
Campws Dinas Casnewydd |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
City & Guilds Diploma mewn Cynnal a Chadw Cerbydau Modur Lefel 1
Campws Crosskeys |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
IMI Diploma mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 2
Campws Crosskeys |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
IMI Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 3
Campws Crosskeys |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
IMI Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Beiciau Modur Lefel 2
Campws Crosskeys |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
IMI Diploma mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau (Beiciau Modur) Lefel 3
Campws Crosskeys |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
IMI Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn (Diploma Estynedig) Lefel 2
Campws Crosskeys |
Llawn Amser | Gweld y cwrs |
Dydw i erioed wedi gweithio ar geir o’r blaen, felly roeddwn i’n nerfus yn dod i’r coleg. Ond byddwn yn argymell Coleg Gwent i unrhyw un sydd eisiau gwneud peirianneg fodurol gan fy mod wedi dysgu cymaint mewn blwyddyn. Mae’r cyfleusterau yma o’r un safon ag y byddech chi’n ei gael yn y rhan fwyaf o garejys, gyda llawer o geir i ymarfer arnynt.
Courtney Williams
Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau, Lefel 3
Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr