Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys yr ystod lawn o weithdrefnau gosod cerbydau arferol. Mae'n darparu gwybodaeth a sgiliau hanfodol i osodwyr cerbydau sy'n gweithio ar gerbydau ym mhob math o garejys, delwriaethau a busnesau 'fast fit'.
...oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn mecanwaith cerbydau.
...ydych chi am gael cyfuniad o astudiaeth ddamcaniaethol ac ymarferol.
...ydych chi am gael cyflwyniad da i fecanwaith cerbydau modur cyn ymgymryd a'r rhaglen gynnal a chadw.
Bydd y cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi astudio agweddau damcaniaethol ac ymarferol ar rhai o'r pynciau canlynol:
- Archwilio, atgyweirio ac ailosod teiars cerbydau ysgafn a beiciau modur perfformiad uchel.
- Alinio olwynion blaen cerbydau ysgafn.
- Archwilio ac ailosod cydrannau gwacau, siocladdwyr, batris cerbydau a systemau brecio.
- Asesu a diogelu sefyllfaoedd ar ochr y ffordd.
Bydd dysgwyr yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth eang o iechyd a diogelwch yn y gweithle, gan gytuno ar anghenion cerbydau cwsmeriaid a sgiliau eraill sy'n gysylltiedig a gweithio mewn garej.
Fel rhan o'ch cwrs, byddwch hefyd yn cwblhau cymwysterau sy'n gysylltiedig a Saesneg a Mathemateg.
Byddwch yn cael eich asesu drwy brofion ar-lein, gwaith cwrs, aseiniadau, portffolios ac asesiad ymarferol. Ar ol cwblhau'r cwrs, byddwch yn ennill:
- Diploma City andGuilds Lefel 2 mewn Egwyddorion Gosod Cerbydau
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg Mathemateg a Saesneg (os nad oes gennych Radd C neu uwch ar lefel TGAU)
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
- Diploma Lefel 2 mewn Egwyddorion Cynnal a Thrwsio Cerbydau Ysgafn
- Symud ymlaen i brentisiaeth neu gyflogaeth addas.
- Cyflogaeth yn y diwydiant.
4 TGAU gradd A* - D gan gynnwys Mathemateg a Saesneg (neu Gymraeg iaith gyntaf)
neu
Ddiploma Lefel 1 addas, gan lwyddo i gwblhau'r sgiliau llythrennedd a rhifedd priodol.