Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn gosod sylfaen ar gyfer Gweithrediadau Ailorffen Cerbydau er mwyn rhoi cychwyn cadarn i chi yn y diwydiant.
... Ydych eisoes wedi cwblhau Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau
... Ydych eisiau cyfuniad o astudiaeth ymarferol a damcaniaethol
... Ydych yn dda am ddatrys problemau ac â diddordeb ysol mewn cerbydau
Mae’r cwrs hwn yn ddilyniant i’r cwrs amser llawn Atgyweirio Damweiniau (Egwyddorion Paent) Lefel 2 ac mae’n canolbwyntio ar 3 phrif uned:
- Paru lliw paent cerbyd
- Gweithrediadau ailorffen prif haen cerbyd
- Namau paent uwch
Cyflwynir y cwrs hwn trwy gyfuniad o’r canlynol:
- Arddangosiadau ymarferol
- Tasgau gweithio realistig
- Darlithoedd i ddatblygu gwybodaeth sylfaenol
- Gwaith aseiniad
Cewch eich asesu drwy asesiadau ymarferol ac asesiadau ar-lein, cwestiynau llafar a chwestiynau ysgrifenedig ac, ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch chi’n ennill:
- Cymhwyster Atgyweirio Damweiniau Lefel 3 (Egwyddorion Paent)
- Cymwysterau atodol perthnasol i ehangu eich set sgiliau a bodloni gofynion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cwblhau cymhwyster Atgyweirio Damweiniau (Egwyddorion Paent) Lefel 2
- 4 TGAU gradd D neu uwch, i gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth (neu Cymraeg fel iaith gyntaf)
Cyflogaeth yn y diwydiant modurol neu brentisiaeth mewn Atgyweirio Cyrff Cerbydau.
Bydd angen Cyfarpar Diogelu Personol arnoch chi megis esgidiau a throswisg, ar gost o oddeutu £40.00. Hefyd, bydd angen eich deunydd ysgrifennu eich hun arnoch chi.