Bydd gweithio yn y diwydiant chwaraeon a ffitrwydd egnïol yn eich cadw ar flaenau eich traed. Gan hybu iechyd a lles, dod â chymunedau’n nes at ei gilydd, a darparu digwyddiadau difyr, mae chwaraeon a ffitrwydd wrth wraidd ein cymdeithas fodern.
Gallwch ddilyn trywydd eich arwyr ym myd chwaraeon gyda chymhwyster mewn chwaraeon a ffitrwydd. Ewch i’r afael â’r amryw swyddi sydd ar gael mewn canolfannau hamdden, clybiau iechyd, ac ym maes gweithgareddau awyr agored ac arenâu chwaraeon proffesiynol.
Mae ein cyrsiau chwaraeon a ffitrwydd yn eich paratoi ar gyfer bob math o broffesiynau cyffrous gan gynnwys:
- Hyfforddwr ffitrwydd/campfa
- Hyfforddwr chwaraeon
- Chwaraeon proffesiynol
- Digwyddiadau chwaraeon
- Hyfforddwr personol
- Hyfforddwr gweithgareddau awyr agored
- Rheoli llesiant ac ymarfer corff
- Gwyddoniaeth a seicoleg chwaraeon
- Tylino, adfer a therapi chwaraeon
- Rheoli ym maes hamdden
Gyda’r sylw ar agweddau ymarferol, bydd ein cyrsiau chwaraeon a ffitrwydd ar lefelau 1, 2, 3, a 4 yn eich paratoi i lwyddo. Cewch eich annog i gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon ym mob campws, gan gynnwys rygbi, pêl-droed, pêl-rwyd, pêl-fasged, hoci a mwy. Byddwch hyd yn oed yn cael defnyddio canolfannau hamdden lleol, campfeydd, parciau trampolinio, canolfannau dringo o dan do ynghyd â BikePark Wales ar gyfer gweithgareddau ymarferol, ynghyd â chyfleoedd i gofrestru ar gyfer pencampwriaethau AoC (Cymdeithas y Colegau).
Mae Campws Crosskeys yn gartref i Academi Dreigiau Iau Casnewydd Gwent lle bydd chwaraewyr yn ennill cymwysterau ochr yn ochr â’u hyfforddiant rygbi, ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o gynghreiriau a thwrnameintiau. Cynigir Academi Dreigiau’r Merched ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent, ar y cyd â Champws Crosskeys, ond ym Mharth Dysgu Torfaen cynigir chwaraeon mewn partneriaeth â Stadiwm Cwmbrân.
Bydd cwblhau ein cyrsiau chwaraeon a ffitrwydd yn llwyddiannus yn rhoi mantais gystadleuol i chi o safbwynt eich gyrfa at y dyfodol. Trwy ennill profiad ymarferol, sgiliau gwerthfawr, ynghyd â gwybodaeth i ategu hynny, gallwch fwrw ymlaen â rôl ym maes chwaraeon a ffitrwydd yn syth. Ond os ydych eisiau parhau i ddatblygu eich set o sgiliau, mae gennym amrywiaeth o gyrsiau rhan amser a graddau sylfaen mewn Rheoli Llesiant ac Ymarfer Corff, Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon, neu Gyflyru, Adfer a Thylino. Felly, gallwch wireddu eich dyheadau trwy ddilyn cwrs yng Ngholeg Gwent!
5 cwrs ar gael
BTEC Diploma Cyntaf mewn Chwaraeon Lefel 2
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden
BTEC Diploma Sylfaen Genedlaethol mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon Lefel 3
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden
BTEC Diploma Astudiaethau Galwedigaethol - Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 1
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden
BTEC Diploma Sylfaen Cenedlaethol mewn Chwaraeon Lefel 3
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden
Gradd Sylfaen Cyflyru, Adfer a Thylino Chwaraeon
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden
Ar ddydd Llun a dydd Gwener rydyn ni’n mynd i Stadiwm Cwmbrân i brofi ochr ymarferol y cwrs. Rydym yn defnyddio’r Astroturf ar gyfer pêl-droed, trac ar gyfer gatiau cyflymder, ac offer yn y gampfa a’r pwll nofio. Rwyf hefyd yn mwynhau gwersi anatomeg a ffisioleg gan ddysgu sut mae’r esgyrn a’r cyhyrau’n gweithio.
Darnia Coleman
BTEC Chwaraeon, Lefel 3
Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr