En

Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol

Paratowch ar gyfer y byd digidol

Mae’r byd digidol yn datblygu’n gyflym ac mae cyflogwyr angen timau blaengar i ddatblygu meddalwedd a rheoli systemau a rhwydweithiau.  Byddwch ar flaen y gad; dewch i yrfa mewn cyfrifiadura neu uwchraddiwch eich sgiliau TG gyda’n cyrsiau cyfrifiadura a thechnoleg ddigidol.

Mae’r byd cyfan bellach yn ddibynnol ar gyfrifiaduron ac mae caledwedd a meddalwedd yn datblygu drwy’r amser. O ganlyniad, gall rhywun ag arbenigedd yn y maes ddefnyddio eu sgiliau a’u haddysg i weithio mewn unrhyw sector o’i ddewis fwy neu lai. Mae llawer o swyddi posib!

Mae ein cyrsiau cyfrifiadura a thechnoleg ddigidol yn cynnwys popeth i’ch sefydlu gyda’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa yn y diwydiant digidol. Byddwch yn archwilio popeth o ddiogelwch seiber i weithio mewn adrannau TG yn helpu gweithwyr gyda phroblemau meddalwedd a chaledwedd, i ddylunio gemau cyfrifiadurol a roboteg, a hyd yn oed animeiddiad digidol a deallusrwydd artiffisial (AI).

Fel Coleg Aur Cyber First, mae ein cyfleusterau yn cynnwys Hwb Seiber newydd sbon ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent ac ystod o ystafelloedd TG gyda chyfrifiaduron, systemau rhwydweithio cyfrifiadurol a roboteg blaenllaw.

Mae gennym gysylltiadau gwych gyda diwydiant drwy ein cyrsiau cyfrifiadura a TG a’n cwrs Technolegau Digidol Colegau Gyrfa, fel bod gan fyfyrwyr y cyfle i ennill profiad gwaith gwerthfawr gyda brandiau adnabyddus fel Admiral, Amazon Web Service, Fujistu, DVLA, Cisco, a Thales.

Gyda mwy nag 1.1 miliwn o swyddi yn y diwydiant, mae’r galw am arbenigwyr TG ym mhob diwydiant yn golygu y gallwch arbenigo mewn sector penodol a fydd yn eich galluogi i adeiladau gyrfa sy’n addas ar gyfer eich personoliaeth a’ch diddordebau.

Lle fydd hyn yn eich arwain?

Ein cyrsiau llawn amser Ein cyrsiau rhan amser

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

7 cwrs ar gael

Byddwn bendant yn argymell astudio Cyfrifiadureg yng Ngholeg Gwent. Maent yn arbennig am feithrin hyder drwy brosiectau gan gwmnïau megis Amazon. Mae cymaint o opsiynau o fewn y cwrs Cyfrifiadureg a chymaint o opsiynau gwahanol am lwybrau i’w dilyn fel gyrfa yn y dyfodol. Gallwch wneud amrywiaeth eang o bethau gyda Chyfrifiadureg.

Ben Turner
Cyfrifiadureg, Lefel 3

Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau