En

Coleg Gwent yn arwain y ffordd fel coleg Aur CyberFirst!


22 Medi 2020

Llwyddiant i ni – mae Coleg Gwent wedi cael cydnabyddiaeth coleg Aur CyberFirst! Ar ôl sawl mis o waith caled gyda’n partneriaid diwydiannol allweddol – Thales, Fujitsu ac Admiral – ac yn dilyn lansiad cyffrous ein Cymhwyster Seiberddiogelwch sydd wedi’i ddylunio ar y cyd a dan arweiniad diwydiant, rydym wrth ein bodd o gael cydnabyddiaeth gan y cynllun Ysgol/Coleg CyberFirst!

CyberFirst College Gold Award logo

Dros y pedair blynedd ddiwethaf (2016-19), buddsoddwyd dros £1.1 biliwn yn y sector seiberddiogelwch yn y DU, gan gynnwys £25 miliwn yng Nghymru. Felly, mewn byd lle mae Seiberddiogelwch yn ddiwydiant sy’n tyfu’n gyflym, rydym yn falch o fod yn goleg sy’n dangos gwir arweinyddiaeth mewn addysg ac allgymorth Seiberddiogelwch. Rydym wedi cymryd arnom y genhadaeth i gyflenwi’r hyfforddiant a’r gweithlu i helpu’r diwydiannau hyn i lwyddo, a’ch cyfarparu chi â’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer swyddi’r dyfodol.

Rydym yn canolbwyntio ar gefnogi anghenion yr economi leol gan mai Seiberddiogelwch yw un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn ne Cymru, ac mae nifer o’n partneriaid angen gweithlu hynod fedrus sy’n gallu perfformio i safonau proffesiynol yn yr amgylchedd hwn sy’n dechnolegol gymhleth. Er mwyn diwallu’r angen hwn, rydym yn buddsoddi mewn Labordy Cyfrifiaduron Seiberddiogelwch newydd sbon o’r radd flaenaf i gynnig amgylchedd gwych i chi ddatblygu a meithrin eich sgiliau, ochr yn ochr â lansiad ein rhaglen Seiberddiogelwch yn gynharach eleni. Felly gallwch nawr ennill y sgiliau, profiad ac arbenigedd am yrfa yn y maes seiberddiogelwch drwy ymgymryd â chwrs yn Coleg Gwent!

Anrhydedd yw cael ein cyflwyno â’r statws Dyfarniad Aur fel Coleg CyberFirst! Mae’n rhoi cydnabyddiaeth Diwydiant y Ganolfan Genedlaethol Seiberddiogelwch i’n cyrsiau ac yn rhoi mynediad i chi at gyfleoedd lleol a chenedlaethol i ymgysylltu â diwydiant a phrifysgolion lleol i ennill gwybodaeth, sgiliau a phrofiad arbenigol yn ystod eich astudiaethau.

Mae ein Pennaeth Ysgol, Kathryn Moffat, yn hynod falch o gyflawniadau’r tîm a weithiodd yn ddygn i gyflawni statws Aur i Coleg Gwent. Mae’r berthynas gyda’n partneriaid diwydiant, Prifysgol De Cymru a’n hysgolion lleol, wedi bod yn amhrisiadwy o ran cyflawni’r dyfarniad a dylunio’r ddarpariaeth Coleg Cyber Cymru a fydd yn bodloni gofynion cyflogwyr a’ch cyfarparu chi gyda’r sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant hwn sy’n datblygu ar garlam.

Cyber College Cymru Logos

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu carfan newydd o ddysgwyr drwy ein drysau i astudio Seiberddiogelwch y mis Medi hwn, ac nid yw’n rhy hwyr i chi ymuno â nhw! Yn chwilfrydig ynghylch gyrfa mewn seiberddiogelwch? Archwiliwch ein cwrs cyffrous a gwnewch gais nawr.

Os ydych yn gyflogwr sy’n awyddus i weithio gyda ni i sicrhau dyfodol eich sgiliau a lleihau’r bwlch sgiliau, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.