En
Volunteers' Week logo in Welsh

Wythnos Wirfoddolwyr - dathlu ein dysgwyr sy’n mynd un cam ymhellach ar gyfer elusen


4 Mehefin 2021

Mae’r wythnos hon yn nodi Wythnos Wirfoddolwyr 2021 (1-7 Mehefin) – cyfle i werthfawrogi’r gwaith caled a chyfraniad gwerthfawr gwirfoddolwyr ledled y wlad a’r cyfoeth mae gwirfoddoli’n ei gyflwyno i’n bywydau. Fel coleg, rydym yn annog dysgwyr a staff i wirfoddoli ar gyfer achosion da. Mae’r ethos hwn yn cael ei wireddu gan ein dysgwyr ysbrydoledig a’r prosiectau maent yn cymryd rhan ynddynt ochr yn ochr â’u hastudiaethau.

Podlediad Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Rydym yn gweithio’n agos gyda’n bwrdd iechyd lleol i lywio ein cwricwlwm a chyrsiau iechyd a gofal i fodloni anghenion y gymuned, yn ogystal â chydweithio ar gyfleoedd lleoliadau gwaith a gwirfoddol i helpu dysgwyr i adeiladu ar eu profiad a’u gwybodaeth. Yr Wythnos Wirfoddolwyr hon, cymerodd Marie Isaac-King, dysgwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3, ran mewn cyfweliad podlediad gyda Rheolwr Gofal sy’n Canolbwyntio ar Bobl a Phartneriaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUHB), Gino Parisi, a Chynghorydd Ymgysylltiad Cyflogwr Coleg Gwent ar gyfer y gyfadran Astudiaethau Gofal a Chymuned, Allison Werner, i drafod ei phrofiad o wirfoddoli yn yr ysbyty a dod yn ffrindiau gyda phobl hŷn.

Volunteering with ABUHB

Eglurodd Marie, “Dechreuais wirfoddoli gydag ABUHB yn ôl yn 2019, ac roeddwn i wrth fy modd. Mae nifer o bobl yn yr ysbyty’n teimlo mor unig, ac maent yn dweud wrthyf eu bod yn eistedd ar eu pen eu hunain trwy’r adeg heb unrhyw un i siarad â nhw. Nid oes gan rai ohonynt deulu’n dod i’w gweld am wythnosau, ac roedd hyn cyn y pandemig. Felly, drwy fynd i’r ysbyty, roeddwn i’n arfer meddwl ‘rwyf wir yn gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun’.

Rwyf yn bendant wedi magu hyder o’r profiad, gallaf siarad ag unrhyw un nawr. Rwyf wedi dysgu sut i oresgyn rhai rhwystrau wrth gyfathrebu hefyd – mae rhai pobl yn drwm iawn eu clyw ac rwyf wedi dysgu ffyrdd o oresgyn hyn. Rwyf wedi ennill nifer o sgiliau newydd wrth wirfoddoli. Rwyf wir eisiau dod yn nyrs yn yr ysbyty, nyrs yn yr ystafell argyfwng, gobeithio. Rwy’n teimlo bod gwirfoddoli wedi rhoi cymaint o brofiad defnyddiol i mi ar gyfer hyn. Byddaf 100% yn argymell gwirfoddoli.”

Gwrandewch ar y podlediad yma!

Elusen y Flwyddyn

Gydag elusennau’n cael trafferth oherwydd pandemig COVID, mae Coleg Gwent wedi addo codi £10,000 ar gyfer elusen leol – Gofal Hosbis Dewi Sant. Yn gynharach eleni, gwnaethom gymryd rhan yn y bore coffi’r Big Welsh Brew, ac aeth y gyfadran Astudiaethau Creadigol a Thechnegol i’r afael â’u her Lands’ End i John ‘O’Groats eu hunain fis diwethaf. Nawr, mae ein cyfadran Astudiaethau Academaidd a Menter am gael cystadleuaeth ac yn cynllunio her uchelgeisiol eu hunain – cadwch lygad allan!

Coleg Gwent Torfaen Learning Zone and St Davids Hospice Care buildings

Rydym hefyd yn edrych ymlaen at ddigwyddiadau’n cael eu noddi gan Coleg Gwent, fel y Daith Feicio Ddalmataidd ar 26 Mehefin – taith feicio hwyl ar gyfer y teulu sy’n dechrau ac yn gorffen yng Nghaerllion gyda gwisg ffansi ar y thema ddalmataidd. Ar 9 Gorffennaf, mae Kolor Dash Cwmbrân wedi’i gynllunio’n benodol ar ein cyfer ni fel ras hwyl 5k gydag enfys o liw, lle gall dysgwyr a staff wirfoddoli ar orsafoedd paent, gliter ac ewyn, neu hyd yn oed ddarparu sesiwn gynhesu ar y dechrau ac adloniant ar hyd y ffordd! Yna ar 12 Medi, mae Tour De Gwent yn dechrau, gan fynd heibio sawl un o’n campysau coleg, ar hyd chwe llwybr beicio sydd wedi’u dylunio’n ofalus, sy’n addas ar gyfer beicwyr o bob gallu. Felly, mae sawl ffordd y gallwch chi gymryd rhan a chefnogi’r achos arbennig hwn fel gwirfoddolwr neu gyfrannwr!

Menter Cash4Change

Mae ein prosiect Cash4Change sydd wedi ennill gwobrau’n galluogi dysgwyr i wneud cynigion ar gyfer cyllid i wneud newidiadau cadarnhaol drwy brosiectau sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd, yr amgylchedd, y gymuned leol, menter neu elusen. Ac er gwaethaf y cyfnod clo, mae gweithgareddau gwirfoddol elusennol wedi parhau gyda chymorth gan y prosiect:

  • Cymorth elusen – Aeth dysgwyr BTEC Busnes ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent ati i wirfoddoli ar gyfer Banc Bwyd lleol Blaenau Gwent, tra bod dysgwyr ym Mharth Dysgu Torfaen wedi dod o hyd i hwdis pris cost i’w gwerthu mewn siop fflach, gyda’r holl elw’n cael ei roi i Ofal Hosbis Dewi Sant. Ar Gampws Brynbuga, mae dysgwyr Gofal Anifeiliaid yn codi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer y prosiect Bullies Out, tra bod myfyrwyr Astudiaethau’r Tir wedi cefnogi Cancr y Pancreas drwy ddigwyddiadau codi arian rhithiol, teithiau cerdded nawdd, distawrwydd nawdd, a sesiynau sgwrsio, er cof am Joe – un o’r tiwtoriaid fferm a gollodd ei fywyd i’r salwch.
  • Menter e-chwaraeon – Mae dau ddysgwr o’n cwrs E-chwaraeon ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent yn dylunio ac yn creu steil o ddillad sy’n benodol ar gyfer e-chwaraeon fel eu prosiect mawr olaf, gan ddefnyddio’r cyfle i gefnogi elusen leol a chodi arian ac ymwybyddiaeth.
  • Groto Siôn Corn – Gyda chymorth tiwtoriaid, mae Tim, Dan, Emma, Rob a Bobby, dysgwyr Aml-sgiliau ar Gampws Dinas Casnewydd wedi helpu bwyty lleol, The Llanwern Bull, i gynhyrchu sled a cheirw ar gyfer eu groto Siôn Corn, i’w mwynhau gan y gymuned gyfan.

Cash4Change projects

  • Helpu pobl ddigartref – Dros y blynyddoedd blaenorol, mae’r adran Gwallt a Harddwch wedi helpu 34 person digartref yng Nghaerdydd. Eto eleni, maent yn bwriadu danfon pecynnau gofal i bobl ddigartref yng Nghasnewydd a Chaerdydd gyda help yr elusen H.O.P.E.
  • Achub yr amgylchedd – Ar Gampws Dinas Casnewydd, mae ein dysgwyr ILS wedi gwirfoddoli i godi sbwriel i lanhau’r ardal leol ochr yn ochr â Can Do ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent. Ar Gampws Crosskeys, maent yn defnyddio cyllid Cash4Change i brynu pren, offer ac adnoddau i wneud tai i ddraenogod, blychau adar, potiau plannu a drychau i’w gwerthu. Yn y cyfamser, ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent, mae dysgwyr yn cymryd rhan ym mhrosiect cynaliadwyedd ac amgylcheddol Cyfeillion y Ddaear, fel rhan o Ein Dyfodol Disglair, rhaglen a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i nifer o bobl ac mae achosion elusennol yn ein cymuned leol a gwirfoddoli yn bwysicach nag erioed. Felly, fel coleg, rydym yn chwarae ein rhan ac yn cefnogi dysgwyr a staff i wirfoddoli drwy gydol y flwyddyn. Rydym yn credu bod bywyd coleg yn golygu llawer mwy na’ch astudiaethau (er bod hynny’n bwysig hefyd!) Felly, dewiswch i astudio cwrs fis Medi yma yn un o golegau gorau Cymru – Gwnewch gais nawr i ennill mwy na chymhwyster yn Coleg Gwent.