En
Coleg Gwent Torfaen Learning Zone and St Davids Hospice Care buildings

Cyflwyno ein Helusen y Flwyddyn - Gofal Hosbis Dewi Sant


10 Chwefror 2021

Yn dilyn un o’r blynyddoedd mwyaf heriol mewn cof, gyda COVID yn effeithio ar bob un ohonom mewn rhyw ffordd, rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod ni wedi penderfynu cefnogi Elusen y Flwyddyn – Gofal Hosbis Dewi Sant. Mae elusennau fel Gofal Hosbis Dewi Sant wedi cael eu heffeithio’n ddifrifol gan goronafeirws, ond drwy gydol y pandemig, maent wedi parhau i ddarparu eu gwasanaethau a chefnogaeth allweddol i deuluoedd sydd ei angen fwyaf, ac rydym eisiau eu helpu nhw i barhau â hyn.

Pam Gofal Hosbis Dewi Sant?

I sicrhau bod eu gwasanaethau am ddim ar gael i gleifion a’u teuluoedd pan maent ei angen fwyaf, mae Gofal Hosbis Dewi Sant angen codi £9 miliwn o bunnoedd bob blwyddyn, gyda dim ond canran fechan yn cael ei chynnig gan lywodraeth leol a’r GIG. Felly, rydym eisiau eu helpu nhw i gyflawni’r nod hwn yn 2021.

St Davids Hospice Care exterior

Mae nifer o resymau pam ein bod ni wedi dewis Gofal Hosbis Dewi Sant fel ein Helusen y Flwyddyn ar gyfer 2021:

  1. Fel coleg, rydym yn cynnig ystod o gyrsiau Iechyd a Gofal, ac rydym yn falch o addysgu darparwyr gofal iechyd y dyfodol, all fynd ymlaen i weithio mewn hosbis fel Dewi Sant
  2. Rydym yn teimlo’n gryf am godi proffil gofal hosbis ymhlith ein cenedlaethau ieuengach o ddysgwyr, na wyddant, o bosib, am y gwasanaethau gwych mae hosbisau’n eu darparu
  3. Rydym eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’n cymuned mewn ffordd go iawn a chyffyrddadwy, drwy gefnogi elusen leol, sy’n gwasanaethu ein cymuned a thyfu i fodloni anghenion pobl leol
  4. Fel sefydliad sy’n ganolog i’n cymunedau, rydym yn gobeithio gosod esiampl drwy ymdrin â’n Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol o ddifrif, a gwneud gwahaniaeth lle fo’n bosib
  5. Mae wedi bod yn 12 mis heriol i bob elusen, ond rydym yn cydnabod fod hosbisau gofal lliniarol wedi parhau â’u gwaith yn ddistaw yn y cefndir er gwaethaf y pandemig, ac wedi brwydro yn erbyn mwy o heriau na’r arfer
  6. Roedd yn rhaid canslo digwyddiadau codi arian hanfodol yr hosbis, a’u gohirio, oherwydd cyfyngiadau COVID, ac mae rheolau coronafeirws wedi newid y ffordd y gallant weithio, gan fod yr hosbis wedi gorfod cau dros dro.

Drwy gefnogi Gofal Hosbis Dewi Sant fel ein Helusen y Flwyddyn, byddwn yn annog ein staff a dysgwyr i gymryd rhan mewn digwyddiadau elusennol drwy gydol y flwyddyn, helpu i godi arian ar gyfer yr hosbis, yn ogystal â noddi rhai digwyddiadau allweddol yng nghalendr Gofal Hosbis Dewi Sant.

Gwnewch gyfraniad nawr

Dyddiadau i’ch dyddiadur

Eleni, byddwn yn cefnogi Gofal Hosbis Dewi Sant gyda rhai digwyddiadau cyffrous – mae llawer i ddod yn ystod 2021!

Big Welsh Brew

Big Welsh Brew banner image
Ar ddydd Llun 1 Mawrth 2021, byddwn yn dod at ein gilydd ac yn rhoi’r tegell ymlaen i gael sgwrs dros baned, a’r cyfan i gefnogi achos da. Gall y Big Welsh Brew fod mor fawr neu fach ag y dymunwch, felly pa un ai eich bod yn ymgynnull ar gyfer te prynhawn, G&T am 3, neu wydriad o win am 9, bydd cyfarfod rhithiol yn dod â chi’n agosach at eich anwyliaid yn ystod y cyfnod clo, wrth gefnogi’r hosbis hefyd.

Kolor Dash Cwmbrân

Cwmbran Kolor Dash event banner
Ar 9 Gorffennaf 2021 (yn amodol ar sefyllfa COVID), bydd y Kolor Dash poblogaidd yn dod i Gwmbrân am y tro cyntaf, a bydd yn fwy lliwgar nag erioed. Mae Kolor Dash Cwmbrân yn ras, taith gerdded neu ras ysgafn gylchol 5k yn llawn hwyl o amgylch North a South Fields, gyda’r ychwanegiad o baent powdr, lliw llachar, ewyn, dŵr, a gliter (bioddiraddiadwy) a stondinau cerddoriaeth ar hyd y ffordd! Mae’n addo i fod yn ddigwyddiad llawn hwyl, cofiadwy a blêr, a gall unrhyw un o unrhyw oed ei fwynhau.

Ac mae mwy i ddod … cadwch lygad ar  Daith Feicio Dalmataidd Casnewydd i’r teulu cyfan, a Tour De Gwent sydd ar y gweill, yn ogystal â Llyfr Coginio’r Enwogion i’ch cadw chi’n brysur yn y gegin yn ystod y cyfnod clo.

Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Gofal Hosbis Dewi Sant fel ein Helusen y Flwyddyn yn 2021, a’u cefnogi nhw i ddarparu eu gwasanaethau hanfodol yn ein cymuned. O hoffech chi enwebu Elusen y Flwyddyn i’w hystyried ar gyfer 2022, anfonwch eich awgrymiad atom ni, yn ogystal â rhesymau pam yr hoffech chi enwebu eich elusen drwy e-bostio.

Ynghylch Gofal Hosbis Dewi Sant

Mae Gofal Hosbis Dewi Sant yn darparu gofal lliniarol, unigryw ac am ddim i gleifion a’u teuluoedd, sy’n dioddef o salwch sy’n bygwth eu bywydau, a’u cefnogi nhw yn ystod y cyfnod mwyaf heriol o’u bywydau. Ar gychwyn eu gwaith roedd Hosbis Dewi Sant yn gofalu am chwe chlaf, nawr, mae’r elusen wedi tyfu i fod y darparwr gofal hosbis yn y cartref mwyaf yn y DU, gan ofalu am fwy na 3,200 o gleifion a theuluoedd bob blwyddyn. Maent yn darparu gofal 24 awr a gofal ar alwad gartref, yn eu hosbis dydd, ac yn yr ysbyty, ac mae ar gael i gleifion yng Nghasnewydd, Caerffili, Sir Fynwy, Torfaen a De a Chanolbarth Powys. Maent hefyd yn darparu cyngor, cymorth teuluol, cymorth gyda phrofedigaeth, therapïau cyflenwol, gwasanaethau caplaniaeth, ac adnoddau addysgiadol hefyd.

Cyfrannwch nawr

Dysgwch fwy am Hosbis Dewi Sant yn www.stdavidshospicecare.org.