En

UAL Diploma mewn Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol (Esports) Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
Byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch. Dylai'r rhain gynnwys Celf/pwnc creadigol/TGCh a naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg. Fel arall, rydym yn derbyn gradd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU mewn naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar yr ochr amlgyfrwng a busnes o e-chwaraeon Byddwch yn dysgu mewn amgylchedd ymarferol a thechnegol, gan ganolbwyntio ar hyrwyddo, rheoli ac adeiladau cynnwys i unigolion/tîmau.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Oes gennych ddiddordeb brwd mewn chwarae gemau
... Ydych yn hoff o'r natur dechnegol y tu ôl i gynhyrchu gemau
... Ydych eisiau datblygu sgiliau ymarferol ar gyfer y diwydiant e-chwaraeon

Beth fyddaf yn ei wneud?

Y diwydiant e-chwaraeon yw un o'r diwydiannau gemau fideo sy'n tyfu gyflymaf yn y DU.

Byddwch yn cael y cyfle hefyd i ddatblygu gwybodaeth hanfodol am y diwydiant a'i gefnogwyr, yn ogystal ag archwilio'r gemau a gaiff eu chwarae yn y sector cyffrous a phrysur hwn.

Byddwch yn datblygu'r sgiliau i wneud cynnydd o fewn ystod o bynciau yn ymwneud â'r cyfryngau, yn bennaf rheoli a chynhyrchu e-chwaraeon, dylunio graffeg, cynhyrchu teledu byw, golygu, technegau newyddiaduraeth, chwarae gemau'n broffesiynol a'r cyfryngau cymdeithasol.

Os ydych wrth eich bod yn chwarae gemau a gyda diddordeb mawr yn y diwydiant, yna dyma eich cyfle i ymuno â chwrs gwirioneddol unigryw.

Ynghyd â'r prif gymhwyster, byddwch hefyd yn -

  • Cystadlu mewn twrnameintiau cystadleuol e-chwaraeon, megis Ukie's Digital Schoolhouse a gaiff ei redeg gan PlayStation
  • Mynychu digwyddiadau e-chwaraeon
  • Mynychu cynadleddau gemau
  • Ennill Gwobr Menter iDea
  • Dysgu am faetheg a ffitrwydd e-chwaraeon.

Cewch eich asesu drwy waith cwrs (a gyflwynir drwy gydol y flwyddyn). Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:

Blwyddyn 1

  • Diploma Lefel 3 mewn e-chwaraeon ac amlgyfrwng
  • Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg (Os nad oes gennych chi Radd C neu uwch ar lefel TGAU eisoes, bydd gofyn i chi fynychu gwersi      ychwanageol)

Blwyddyn 2

  • Diploma Estynedig Lefel 3 mewn      e-chwaraeon ac amlgyfrwng
  • Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Saesneg a Mathemateg Mathemateg a Saesneg (Os nad oes gennych chi Radd C neu uwch ar lefel TGAU eisoes, bydd gofyn i chi fynychu gwersi ychwanageol)

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru, mae angen i chi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch. Dylai'r rhain gynnwys Celf/pwnc creadigol/TGCh a naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg. Fel arall, rydym yn derbyn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod, gyda TGAU mewn un ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

 

Byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth, sgiliau a barn i gychwyn a chwblhau tasgau a gweithdrefnau lled-gymhleth (o fewn terfynau). Byddwch yn mynd i'r afael â phroblemau gyda lefel o annibyniaeth, ond byddwch angen bod yn ymwybodol o safbwyntiau a dulliau gwahanol o fewn eich maes astudio neu waith. Bydd cystadleuaeth e-chwaraeon yn cael eu cynnal ochr yn ochr â'r cwricwlwm craidd a mwy na thebyg, ar ôl eich sesiynau addysgu.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd cwblhau Diploma 90 Credyd Blwyddyn 1 yn llwyddiannus yn eich caniatáu i fynd ymlaen i'r ail flwyddyn a chwblhau'r Diploma Estynedig llawn. Wedi hynny, gallwch symud ymlaen i'r canlynol:

Prifysgol: Mae'r cymhwyster hwn yn darparu pwyntiau tariff UCAS ac yn cefnogi eich dilyniant i addysg uwch mewn pwnc sy'n ymwneud â dylunio gemau, megis y Radd Sylfaen mewn Celf a Dylunio Gemau yn Coleg Gwent.

Cyflogaeth: Wedi cwblhau'r cymwysterau hyn, gallech symud ymlaen i swyddi amrywiol, yn dibynnu ar eich llwybr dewisol. Mae dewisiadau gyrfa'n cynnwys Rheolwr Cymunedol, Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus, Newyddiadurwr, Rheolwr Cynnyrch, Hyfforddwr, Sgowt, Gwerthiant, Gemydd Proffesiynol, Person Camera, Golygydd Ffilm, Cynhyrchydd, Sgriptiwr, Criw Ffilm, Technegydd/ Cynhyrchydd Radio, Animeiddiwr neu Gyhoeddi Digidol.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio UAL Diploma mewn Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol (Esports) Lefel 3?

EFBE0002AB
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr