
Stori ysbrydoledig am obaith, dynoliaeth, gwytnwch a'r GIG
19 Mehefin 2020
'Parch at Bawb' yw un o brif werthoedd Coleg Gwent, ac mae'n bwysig i ni fod pawb yng nghymuned y coleg yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys, eu parchu, eu cefnogi a'u clywed. Yn fwy na dim, rydyn ni'n goleg cynhwysol ac amrywiol lle mae croeso i bawb.

Gwneud dysgu yn hygyrch i bawb
28 Mai 2020
Wrth i ni ddathlu Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang 2020, mae'n amlwg bod hygyrchedd yn fwy pwysig nag erioed o fewn ein byd digidol. Mae pandemig COVID-19 wedi gwneud technoleg a chyfathrebu digidol yn rhan fwy canolog o'n bywyd bob dydd. Nawr, rydym yn defnyddio technoleg i gadw mewn cysylltiad ag anwyliaid; i addysgu a dysgu o bell; a gweithio ar y cyd ar-lein. Yn Coleg Gwent, rydym wedi gwneud pob ymdrech i ddefnyddio technoleg a hyrwyddo hygyrchedd i bawb.

#ColegYnParhau - Sut Y Gwnaeth Ein Cymuned Wahaniaeth Yn Ystod Y Cyfyngiadau Symud
22 Mai 2020
Rydym yn hynod falch o'n myfyrwyr a staff ysbrydoledig, sydd wedi bod yn gwneud eu gorau glas i gynnig help llaw i'r gymuned leol yn ystod y cyfyngiadau symud yn sgil y Coronafeirws. Felly, beth am roi sylw i rai o'r pethau gwych sydd wedi bod yn mynd ymlaen...

Ein dysgwyr Hyfforddiant Personol yn arwain y ffordd i'ch cadw chi'n actif
14 Mai 2020
Wrth i aros gartref ddod yn 'normal newydd', mae llawer ohonom yn chwilio am ffyrdd i ymarfer corff a chadw'n heini yn ein cartrefi er mwyn rhoi hwb i'n llesiant corfforol a meddyliol. Mae ceisio cynnal ffordd o fyw actif ac iach yn ystod sefyllfa'r Coronafeirws yn bwysig tu hwnt, ond mae cymell eich hun i wneud ymarfer corff gartref yn anodd, hyd yn oed os ydych wedi hen arfer â mynd i'r gampfa neu ymuno â dosbarth ymarfer corff. Ond mae AOC Sport wedi datblygu ffordd arloesol i hwyluso'r broses i ni, ac mae ein cyn-fyfyrwyr Hyfforddiant Personol yn arwain y ffordd, gan gynnal sesiynau ymarfer corff wythnosol ar Facebook.

BBC X-Ray yn Ymweld â'n Hadran Fodurol Flaenllaw
27 Mawrth 2020
Wythnos ddiwethaf, croesawodd Gampws Crosskeys westeion hynod arbennig am y diwrnod - criw ffilmio BBC X-Ray. Dydd Mawrth 17 Mawrth, cafodd staff a dysgwyr adran Fodurol Coleg Gwent ymweliad gan wynebau adnabyddus iawn o'r BBC, a ddaeth i'n gweld i ddefnyddio ein cyfleusterau i adrodd ar brofion MOT a chynnal a chadw cerbydau modurol ar gyfer y rhaglen deledu hawliau defnyddwyr boblogaidd a gafodd ei darlledu am 7:30pm ddydd Iau 26 Mawrth.

Sut ydym yn helpu ffoaduriaid i ailadeiladu eu bywydau gyda'r Prosiect Reach+
20 Mawrth 2020
Mewn partneriaeth arloesol a blaengar gyda Chyngor Dinas Casnewydd, mae Coleg Gwent yn falch o fod yn rhan o gyflwyno'r prosiect Reach+ yn ardal Casnewydd. Mae Reach+ yn gynllun Llywodraeth Cymru sy'n darparu canolfannau cefnogi un stop yng Nghasnewydd, Caerdydd, Abertawe a Wrecsam, gyda'r nod o helpu ffoaduriaid wrth iddynt ailadeiladu eu bywydau ac integreiddio i'w cymunedau lleol.