En
Melika Ghorbankhani and Coleg Gwent's Newport Campus

Cwrdd â'r Dysgwr: Llwyddiant PhD i Melika Ghorbankhani


15 Hydref 2020

Cwrdd â'r Dysgwr

Enw: Melika Ghorbankhani
Cartref: Casnewydd
Cwrs: ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) Mynediad 3
Campws: Campws Dinas Casnewydd

Breuddwyd Melika oedd bod yn feddyg, ac felly roedd yn rhaid i’r dysgwr Iranaidd wella ei sgiliau Saesneg a chyflawni sgôr IELTS o 6.5 i gael ei derbyn yn y brifysgol. Er mwyn gwireddu ei huchelgais, dewisodd gwrs ESOL Coleg Gwent, a llwyddodd Melika i fynd â’i hastudiaethau ymhellach na’r disgwyl gyda’r sgiliau y dysgodd hi, a bellach mae’n dilyn PhD!

Pam y dewisoch chi Coleg Gwent?

“Ac eithrio fy mod yn byw yng Nghasnewydd, roeddwn wedi clywed llawer o bethau da am Coleg Gwent. Roedd hyn yn cynnwys y cyrsiau a gynigwyd, bywyd cymdeithasol, a chyfleusterau. Argymhellodd fy ffrind i mi fynd i astudio i’r coleg ar ôl cael profiadau da yno, ac o fy safbwynt i, roedd astudio yn Coleg Gwent yn gychwyn da i bobl sy’n bwriadu mynd i’r brifysgol neu gychwyn swydd newydd yn y DU.”

Beth oeddech chi’n ei hoffi fwyaf am eich cwrs?

“Derbyniais y cymorth gorau i wella fy Saesneg yn Coleg Gwent. Roeddwn yn hoff iawn o fy nhiwtor personol, Geraldine French. Mae hi wedi bod un o’r tiwtoriaid gorau a gefais erioed ac mae hi’n broffesiynol iawn yn ei maes. Roedd hi’n amyneddgar, cydymdeimladol, cwrtais ac yn barod i helpu a thrafod y materion o’n blaenau wrth astudio. Roeddwn yn hoff o’i harddull addysgu, ac roedd hi’n ein helpu ni i ddeall pynciau cyn gadael y dosbarth.

Roedd staff Coleg Gwent hefyd yn ddefnyddiol a chefnogol. Roeddent yn treulio amser yn ateb ein cwestiynau ac yn ein harwain pan roeddem eu hangen nhw, ac roedd yn hapus gyda chyfleusterau’r dosbarth, cyfleusterau addysgu, etc.

Mae gennyf atgofion hapus iawn o Coleg Gwent. Cefais fynd ar ddwy daith wych i Lundain a Chaerfaddon gyda fy nhiwtor a chyd-fyfyrwyr, a chawsom ddathlu digwyddiadau arbennig fel y Nadolig a Blwyddyn Newydd yn y coleg a chreu nifer o atgofion melys – cawsom lawer o hwyl!”

Melika Ghorbankhani enjoying Newport and the surrounding areas

Beth ydych chi’n ei wneud nawr a beth yw eich amcanion gyrfaol hir dymor?

“Ar hyn o bryd, rwy’n paratoi ar gyfer fy PhD. Gorffennais fy nghwrs Meistr mewn Diogelwch, Iechyd a Llesiant Galwedigaethol gydag anrhydedd ym Mehefin 2020. Derbyniais ganlyniad gwych ar gyfer thesis fy nghwrs Meistr, ac roedd hyn y gwneud i mi deimlo’n fwy hyderus i ddilyn fy PhD.

Rwyf wedi cael fy nerbyn ar gwrs PhD yn cychwyn fis Medi 2020, a byddaf yn parhau gyda fy astudiaethau yn y pwnc y mae gennyf ddiddordeb ynddo, gan amcanu i ddatblygu fy ymchwil ar y pwnc ‘Supporting the development of a psychological safety culture in the NHS workplace’.

Y peth mwyaf a gyflawnais drwy astudio yn Coleg Gwent oedd y cymorth a dderbyniais i wella fy sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig yn Saesneg. Teimlais fy mod yn barod ac yn ddigon hyderus i fynd i’r brifysgol yn fuan ar ôl i mi orffen fy astudiaethau yn y coleg.”

Hyd yn hyn beth yw eich llwyddiant mwyaf?

“Fy llwyddiant mwyaf tra’n astudio yn Coleg Gwent oedd cyflawni sgôr 7 yn IELTS. Astudiais yn galed iawn i gael marc uwch na 6.5, oedd yn ofynnol ar gyfer cael mynediad i brifysgol ac astudio ar lefel Meistr. Yn ffodus, llwyddais i sgorio 7 a chefais fy nerbyn i Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Yn ogystal, derbyniais wobr am fy mhresenoldeb da a’m lefel perfformio yn y dosbarth tra’n astudio yn y coleg.”

Y peth gorau am astudio yn Coleg Gwent?

“O fy safbwynt i, roedd cael ffrindiau o’m cwmpas yn y coleg yn beth da, yn enwedig y rhai o’r un wlad â mi – Iran. Roeddem yn treulio egwyliau gyda’n gilydd yn aml. Y pwynt diddorol yw bod y coleg yn cynnwys pobl o ddiwylliannau a chefndiroedd gwahanol. Gall pobl gwrdd â’i gilydd yno, dod i adnabod ei gilydd, a dysgu am ffordd o fyw a diwylliannau’r naill a’r llall.

O ran cymorth, mae’n rhaid i mi ddweud fod pobl yn dod yn fwy cyfforddus i ddysgu a chymryd y risg i drafod eu heriau personol pan maen nhw’n sylwi eu bod nhw ymhlith pobl gydymdeimladol a chefnogol, a bod pobl yn gwrando arnyn nhw. Un o’r pethau gorau i mi ei brofi yn y coleg oedd bod gennyf gyfle i rannu fy syniadau a theimladau bob amser. Roeddwn wastad yn gallu mynd i swyddfa’r tiwtor i drafod fy heriau a phrofiadau da ar y cwrs. Roeddynt yn rhoi amser i gwrdd a gwrando ar bob myfyriwr. Roeddem yn gallu siarad â nhw’n rhwydd, ac roeddent wastad yn ymdrechu i gynorthwyo a’n harwain ni.

Hyd heddiw, rwyf mewn cysylltiad â fy nhiwtor personol, Geraldine, gan ei bod hi’n athrawes arbennig yn ogystal â ffrind a gwrandäwr da. Ar ôl bob cyflawniad yn y coleg, rwy’n anfon e-bost ati i rannu fy llwyddiant gyda hi, am ei bod hi wedi fy helpu llawer i wella fy Saesneg. Mae hi bob amser yn bositif a gobeithiol, a chreodd hi lawer o atgofion gwych i ni. Rwyf wastad yn colli ein dosbarth a Geraldine. Roedd creu’r profiadau positif ac emosiynol hyn yn amhrisiadwy.”

Melika Ghorbankhani sitting in a local park

A oedd gennych unrhyw heriau cyn mynychu Coleg Gwent? Os felly, sut wnaeth y coleg eich cefnogi?

“Roeddwn yn teimlo straen o orfod bod mewn amgylchedd newydd a chyfarfod pobl newydd cyn cychwyn yn y coleg, ond cefais groeso cynnes ac roeddwn wedi setlo gyda Geraldine a’m cyd-fyfyrwyr ar ôl ychydig oriau.

Ar y dechrau, roeddwn yn cael cryn drafferth ag ysgrifennu a siarad Saesneg yn dda. Er bod fy sgiliau ysgrifennu wedi gwella’n sylweddol yn y brifysgol, rhoddodd y coleg y sail i mi wella fy sgiliau ysgrifennu a siarad. Dysgais am ramadeg a phynciau eraill yn dda yn y coleg, a rhoddodd hyn yr hwb i mi fod yn hyderus i wella fy sgiliau darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando.”

A oes gennych gyngor i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio yn Coleg Gwent?

“O fy mhrofiad fy hun, Coleg Gwent yw’r lle gorau i astudio i bobl sydd eisiau mynd i’r brifysgol a dysgu set newydd o sgiliau er mwyn cychwyn swydd newydd. Mae cymaint o ddigwyddiadau agored yn y coleg, ac mae’r staff yn gefnogol a chyfeillgar tu hwnt. Mae Coleg Gwent yn lle croesawgar a chyfforddus i astudio ar gyfer pobl o wledydd a chefndiroedd gwahanol, fel fi.”

Coleg Gwent oedd y garreg gamu roedd Melika ei hangen i barhau â’i hastudiaethau a mynd i’r Brifysgol. Os oes gennych chi freuddwydion a chynlluniau mawr hefyd, cychwynnwch eich taith yn Coleg Gwent ac ymgeisiwch nawr i astudio ESOL neu un o’n nifer o gyrsiau llawn amser a rhan amser.