En

Llwyddo i gael gyrfa eich breuddwydion: Stori Charlie


12 Tachwedd 2023

Beth bynnag yw swydd eich breuddwydion, gallwch wireddu hynny yn Coleg Gwent!

Os oes gennych gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol, y coleg yw’r man cychwyn ar gyfer gyrfa gyffrous. Gwyddom fod pawb yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd, ac efallai y byddai cwrs galwedigaethol ymarferol yn fwy addas i chi na rhaglen Safon Uwch academaidd. Dyna pam y mae cannoedd o fyfyrwyr fel chi yn ymuno â ni bob blwyddyn i droedio llwybr gyrfa eu breuddwydion trwy amrywiaeth o gyrsiau llawn amser, rhan-amser ac addysg uwch, yn ogystal â phrentisiaethau. Felly, pam na wnewch chithau hefyd deithio ar hyd llwybr Coleg Gwent er mwyn cyrraedd eich cyrchfan derfynol?

Efallai eich bod yn anelu at fod yn filfeddyg… wel, mae gan Gampws Brynbuga y cwrs perffaith i chi!

Os ydych yn breuddwydio am fod yn gynllunydd ffasiwn o fri… beth am ddilyn un o’n cyrsiau creadigol!

Neu os hoffech fod yn gogydd seren Michelin… mae’r union rysáit gennym yma yn Coleg Gwent!

Gyda chymorth amrywiol i’ch helpu i lwyddo, o fewn dim o dro byddwch yn teithio tuag at yrfa eich breuddwydion. Bydd tîm Uchelgeisiau CG wrth law i’ch arwain a’ch helpu i ddod o hyd i leoliadau a phrofiad yn ystod eich cyfnod yn y coleg, ac fe fyddwch yn gadael gyda’r cymwysterau, y sgiliau a’r profiad gwerthfawr sydd mor bwysig i gyflogwyr. Felly, ni waeth be fo’ch uchelgais, llwyddwch yma yn Coleg Gwent!

Porwch ein cyrsiau llawn amser

Dilyn llwybr peirianneg

Ar ôl mwynhau dosbarthiadau peirianneg yn yr ysgol, dewisodd Charlie ddilyn prentisiaeth ymarferol, gan astudio HNC Peirianneg Electronig a Thrydanol Lefel 4 yng Nghampws Crosskeys tra’n gweithio yn BAE Systems. Beth am weld sut y llwyddodd Coleg Gwent i helpu Charlie i ddilyn ei yrfa ddelfrydol:

“Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn dilyn gyrfa ymarferol. Fe wnaeth y cwrs Peirianneg Electronig yn Coleg Gwent fy ngalluogi i barhau gydag ochr theori fy addysg, ond yr hyn a wnaeth fy nenu ato mewn gwirionedd oedd y cymhwyster ymarferol a’r cyfleusterau nad oedd modd imi gael gafael arnyn nhw yn yr ysgol. Yr hyn a’m perswadiodd i astudio yn Coleg Gwent yn hytrach nag yn y chweched dosbarth neu fynd yn syth i swydd oedd y ffordd mae’r coleg yn paratoi’r dysgwyr ar gyfer eu gyrfaoedd penodol, fel trefnu digwyddiadau a lleoliadau a’m helpodd i gael fy nhroed dros riniog y byd peirianneg!

Dechreuodd siwrnai fy ngyrfa yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn y coleg yn astudio’r cwrs peirianneg uwch. Credaf fod hyn wedi rhoi’r hyder imi ymgeisio’n llwyddiannus am brentisiaeth yn BAE Systems (un o bartneriaid Coleg Gwent), lle’r ydw i’n gweithio ar brosiectau sy’n cysylltu fy mhrentisiaeth â’m gwaith coleg, fel dod o hyd i astudiaethau achos seiliedig ar waith.

Mae pob blwyddyn wedi cynnig cyfleoedd addysgol newydd imi. Rydw i’n wirioneddol fwynhau’r sesiynau ymarferol yn adeiladu cylchedau, yn ogystal â chael amgylchedd braf i ddysgu hanfodion theorïau trydanol. Rydw i wedi cael blas ar egwyddorion trydanol a pheiriannau trydanol gan fod y gwersi mor berthnasol i’r egwyddorion a’r offer trydanol a welaf yn y gwaith.

Fy uchelgais yn y tymor hir yw bod yn drydanwr medrus, uchel ei fri. Mae Coleg Gwent wedi fy mharatoi, ac mae’n parhau i’m paratoi trwy roi imi’r sgiliau trydanol perthnasol i ddod yn drydanwr cwbl gymwysedig a dilyn gyrfa fy mreuddwydion. Y peth gorau imi ei gyflawni hyd yn hyn yw cwblhau blwyddyn gyntaf fy HNC, sef y cymhwyster uchaf imi ei gwblhau hyd yn hyn. Diolch i’m prentisiaeth, rydw i wedi ei chael hi’n fwyfwy hawdd camu ymlaen, ac yn aml rydw i’n dysgu egwyddorion yn y coleg ac yn eu defnyddio yn fy ngwaith. Daw hyn â phleser mawr imi, yn ogystal â dysgu egwyddorion a sgiliau yn y gwaith y gallaf eu trosglwyddo i’m gwaith coleg.

Cyn dechrau yn y coleg, roeddwn i’n berson nerfus iawn ac yn aml roeddwn i’n cael problemau gyda gorbryder a diffyg hyder. Ond rydw i wedi cael cymorth gan y coleg bob cam o’r daith. Mae’r coleg wedi helpu i’m cyflwyno mor ddidrafferth â phosibl i’r diwydiant rydw i’n dymuno gweithio ynddo. Mae lleoliadau a theithiau gyrfaoedd wedi fy helpu i fagu hyder ac ennill sgiliau cyflogadwyedd – sef elfennau a’m helpodd i wneud cais am fy mhrentisiaeth.”

Dilynwch yn ôl troed Charlie a LLWYDDWCH i gael gyrfa eich breuddwydion gyda Coleg Gwent!

Ymunwch â’n digwyddiad agored nesaf er mwyn dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod â’n tiwtoriaid, trafod eich opsiynau, neu gael gwybodaeth am ein gwasanaethau cymorth – ac ymgeisiwch nawr!

Charlie

Dewch o hyd i’r cwrs llawn amser i Lwyddo yn yr yrfa rydych chi’n dyheu amdani!