Coleg Gwent Vocational Courses

Darganfod eich galwedigaeth yn Coleg Gwent


3 Ebrill 2023

Mae cymwysterau galwedigaethol fel cyrsiau BTEC yn gyrsiau sy’n seiliedig ar waith, yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer rôl swydd neu yrfa benodol. Mae’r cyrsiau hyn yn fwy ymarferol na Safon Uwch sy’n seiliedig ar ddamcaniaeth, ond nid yw hynny’n golygu eu bod yn haws.

Gyda chyrsiau BTECs byddwch yn cael profiad ymarferol a byddwch yn cael eich hyfforddi i’r safon uchel y mae cyflogwyr yn ei disgwyl, ac fel coleg sy’n perfformio orau ar y cyd ar gyfer cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru, mae gennym ddetholiad eang o gyrsiau i chi eu harchwilio.

10 budd cymwysterau galwedigaethol:

  1. Cael profiad go iawn yn y maes sydd o ddiddordeb i chi
  2. Dysgu drwy wneud – mae cyrsiau galwedigaethol yn ymgymryd â dull ymarferol
  3. Ennill sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnoch i wneud swydd ac i fod yn barod ar gyfer gwaith pan fyddwch yn gadael y coleg
  4. Dod o hyd i lwybr at gyflogaeth yn eich gyrfa ddewisol a chanolbwyntio ar eich diddordebau
  5. Cymhwyso theori i ymarfer mewn senarios a phrosiectau go iawn
  6. Ennill sgiliau ychwanegol ar gyfer cyflogaeth, fel cyfathrebu a rheoli amser
  7. Cael eich asesu mewn amrywiaeth o ffyrdd, fel gwaith cwrs, aseiniadau ymarferol a phrofion
  8. Mynd i’r brifysgol – Mae cymwysterau galwedigaethol Lefel 3 hefyd yn ennill pwyntiau UCAS
  9. Ennill cymhwyster a gydnabyddir y mae cyflogwyr yn chwilio amdano
  10. Astudio cyrsiau llawn amser a rhan amser uwch AM DDIM!

Felly, os ydych chi’n meddwl y byddai cymhwyster galwedigaethol yn fwy addas ar gyfer eich arddull chi o ddysgu o’i gymharu â chwrs academaidd, byddwch yn dod o hyd i’r cwrs cywir i chi yn Coleg Gwent. Beth sydd gan rhai dysgwyr i’w ddweud:

Iechyd a Gofal

Learner Kayleigh Cake holding two trophiesAstudiodd Kayleigh Cake y Diploma Estynedig mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac enillodd fedal efydd yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru. Mae hi nawr yn bwriadu astudio Bydwreigiaeth yn y brifysgol:

“O fewn yr ychydig ddyddiau cyntaf, roeddwn yn gwybod fy mod wedi gwneud y penderfyniad cywir. Roedd yr holl diwtoriaid yn hynod gefnogol, gofalgar a charedig. Rwyf wedi cael ystod eang o gyfleoedd i ddatblygu fy sgiliau, gwybodaeth, hyder a gallu academaidd, ac rwyf wedi cwblhau 200 awr o brofiad gwaith. Byddwn wir yn argymell astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Coleg Gwent.”

Twristiaeth

View of Madrid skylineMae Rohan Lewis wedi bod â diddordeb mewn teithio a thwristiaeth ers ei gyfnod yn yr ysgol. Roedd eisiau astudio’r Diploma Estynedig mewn Teithio a Thwristiaeth i’w helpu i ddatblygu at yrfa yn y sector yn y dyfodol:

“Rwyf wedi bod ar sawl taith yn ystod y cwrs – yr Alban, Sbaen, Llundain – ac wedi ymgymryd ag unedau diddorol fel busnes, gwahanol rolau swyddi, a gweithrediadau mewnol diwydiant teithio. Roeddwn yn arfer cael trafferth gyda Mathemateg, ond diolch i Coleg Gwent, rwyf wedi medru gwella fy sgiliau ac rwyf wedi penderfynu mynd i’r brifysgol i astudio Rheoli.”

Peirianneg Fecanyddol

Learner Callum Abdie using machineryRoedd Callum Abdie yn bwriadu mynd i’r brifysgol ar ôl cwblhau ei Safon Uwch yn y chweched dosbarth, ond ar ôl gwneud profiad gwaith gyda British Airways, dilynodd Ddiploma Lefel 2 mewn Peirianneg Fecanyddol yn hytrach na hynny:

“Rwyf wir yn hoffi elfen ymarferol y cwrs, cael profiad ymarferol – rydym yn gwneud llawer o waith ymarferol ar hyn o bryd, yn gyffredinol, mae elfennau damcaniaethol ac ymarferol yn rhaniad 70/30. Mae’r tiwtoriaid yn wych hefyd; mae gennych berthynas wahanol gydag athrawon yn yr ysgol, ond yn y coleg, rydych yn dysgu ar eich cyflymder eich hun.”

Chwaraeon

Learner Hywel Evans holding trophyMae chwaraeon yn un o ddiddordebau Hywel Evans, ac mae’n ddiwydiant y byddai’n hoffi gweithio ynddo ac ennill gradd ynddo, felly dewisodd y Diploma Estynedig mewn Datblygiad Chwaraeon, Hyfforddi a Ffitrwydd:

“Rwyf wir wedi mwynhau’r cymysgedd o waith damcaniaethol ac ymarferol, gan ei fod yn gwneud y cwrs yn bleserus. Roedd y modiwlau’n ddiddorol ac roeddem yn medru rhyngweithio yn ystod y gwersi i ennill gwell dealltwriaeth. Mae Coleg Gwent wedi rhoi llawer o gefnogaeth i mi sydd wedi rhoi hyder a hunan-gred i mi.”

Coginio

Learner Morgan Upcott in chef's whites cookingDewisodd Morgan Upcott astudio’r Diploma mewn Coginio Proffesiynol ac mae wedi bod yn hynod lwyddiannus yn cyrraedd rownd derfynol yng nghystadleuaeth Cogydd Crwst Ifanc y Flwyddyn Fforwm y Cogyddion:

“Rwy’n mwynhau elfen ymarferol y cwrs gan fy mod yn medru gadael i fy nghreadigrwydd ddod yn rhydd yn y math o swydd sydd angen i mi fod yn greadigol. Mae Coleg Gwent wedi gwneud gwaith rhagorol o gynnig y cyfleusterau cywir i mi ddatblygu, gyda’r cyfle i fynd â fy sgiliau i amgylchedd cystadleuol.”

Gwasanaethau cyhoeddus

Learner David Parry on army assault courseAstudiodd David Parry’r Diploma Estynedig mewn Gwasanaethau Cyhoeddus ar ôl cwblhau’r chweched dosbarth ac roedd pontio o’r ysgol i’r coleg yn haws na’r disgwyl iddo:

“Roedd y cwrs yn hynod o amrywiol a diddorol. Roedd rhai o’r modiwlau’n ymwneud â deall y rolau, cyfrifoldebau a diogelwch y gwasanaethau mewn lifrau, yn ogystal â gwirfoddoli yn ein cymuned. Aethom ar sawl ymweliad i amrywiaeth o wasanaethau mewn lifrau cyhoeddus, ac rwyf wedi dilyn gyrfa gyda Lluoedd Wrth Gefn y Fyddin, lle rwyf newydd gael dyrchafiad. Ac i’r coleg mae’r diolch am hyn oll!”

Celfyddydau Creadigol

Learner Ayk Perera in art classMynychodd Ayk Perera Barth Dysgu Blaenau Gwent i astudio’r Diploma Estynedig mewn Celf a Dylunio, ar ôl bod â diddordeb mewn lluniadu a chreadigrwydd ers pan oedd yn ifanc.Art and Design, after being interested in drawing and creativity from a young age:

“Bu i mi wneud yn wael yn fy TGAU oherwydd na chefais unrhyw gefnogaeth ond mae cwrs cyflogadwyedd yn Coleg Gwent wedi fy helpu i gyrraedd lle rwyf i nawr. Yn ddiweddar, enillais ragoriaeth ar lefel 2 a bellach rwy’n awyddus i fynd ymlaen i wneud Gradd Sylfaen mewn Dylunio Gemau.”

Cyfrifiadura

Learner Hollie Shakesheff in front of computerHoffai Hollie Shakesheff, dysgwr Diploma Lefel 2 mewn Gwybodaeth a Thechnoleg, ddod yn Ddatblygydd Gemau neu Artist Gemau, ac yn bwriadu cwblhau ei Diploma mewn Dyluniad Gemau ym mis Medi:

“Rydym wedi cael rhai gwersi gwych, fel mynd i’r labordy cyfrifiaduron neu chwarae gemau i’n helpu i ddysgu. Mae’n amgylchedd dysgu hwyliog! Rwyf wedi cael trafferth gyda dyslecsia mewn Mathemateg, ac nid oeddwn yn medru ei ddeall. Ond diolch i gefnogaeth Coleg Gwent, cefais radd uwch nag y cefais yn yr ysgol uwchradd.”

Gwyddoniaeth

Learner Abigail George smilingAstudiodd Abigail George Diploma Estynedig BTEC men Gwyddoniaeth Gymhwysol yn hytrach na mynd ar drywydd Safon Uwch, ac mae’n gobeithio mynd ymlaen i’r brifysgol i astudio Gwyddoniaeth Fiofeddygol:

“Roedd y BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol yn opsiwn amgen gwych i Safon Uwch. Nid oeddwn i eisiau poenau ynghylch arholiadau, ac roedd y cwrs hwn yn fy ngalluogi i ddatblygu fy ngraddau gyda gwaith cwrs, a gwneud aseiniadau ar fy nghyflymder fy hun. Rwy’n gobeithio gweithio yn y sector gofal iechyd ac mae’r coleg wedi rhoi’r sgiliau ar gyfer gyrfa fel hyn i mi.”

Darganfod eich galwedigaeth yn Coleg Gwent. Gwnewch gais nawr i astudio cwrs galwedigaethol a dechreuwch ar eich taith tuag at eich gyrfa ddewisol fis Medi yma gyda’n hystod o gymwysterau llawn amser a rhan amser uwch am ddim.