En
Coleg Gwent A Level Students

Anelu’n uchel gyda chyrsiau Safon Uwch yn Coleg Gwent


12 Rhagfyr 2022

Mae astudio cyrsiau Safon Uwch yn y coleg yn benderfyniad doeth iawn. Efallai nad yw’r coleg yn ddewis amlwg i’r rhai sy’n dymuno astudio Safon Uwch, ond gyda chyfradd basio o 99%, ynghyd â chanlyniadau sy’n gyson well na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru a’r DU yn ystod y pum mlynedd diwethaf, Coleg Gwent yw’r dewis amlwg!

Cyrsiau Safon Uwch yw’r llwybr mwyaf poblogaidd ar gyfer mynd i’r brifysgol, ond hefyd maent yn gwella eich rhagolygon swyddi ac yn caniatáu ichi ddilyn y pethau rydych yn ymddiddori’n angerddol ynddynt, yn awr neu’n nes ymlaen yn eich bywyd. Felly, pam na wnewch chi anelu’n uchel a mynd â’r maen i’r wal yn Coleg Gwent ac dewch o hyd i’r pynciau Lefel A cywir i’ch cynorthwyo chi i weithio tuag at eich nodau gyrfa gyda digwyddiadau Llwybrau Lefel A Coleg Gwent.

Dilyn eich diddordeb

Gyda 32 o bynciau i ddewis o’u plith yn Coleg Gwent, gallwch siapio eich dyfodol a threiddio’n ddyfnach i’r meysydd sydd wrth eich bodd. Mae rhaglenni Safon Uwch yn para dwy flynedd, ac mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dewis tri neu bedwar pwnc sydd o ddiddordeb iddynt – o Wyddoniaeth a Thechnoleg, i Ieithoedd a Chelf. Ond mae nifer o ddysgwyr yn dod i’r coleg i ddysgu mwy am bynciau unigol hefyd, fel Ffotograffiaeth. Yn wir, gall unrhyw un dros 16 oed ddod i’r coleg i astudio Safon Uwch. Felly, pa un a ydych yn gadael yr ysgol ac yn cynllunio eich dyfodol, neu’n ddysgwr hŷn sy’n awyddus i ddilyn diddordeb angerddol, mae cymwysterau Safon Uwch yn berffaith ichi. Doedd Dylan Bevan ddim yn siŵr pa bwnc i’w astudio yn y brifysgol, ond cynigiodd ei gymwysterau Safon Uwch sylfaen dda iddo. Dewisodd astudio mathemateg, bioleg, cemeg a ffiseg, gan ei alluogi i barhau i astudio’r holl bynciau y cafodd flas arnynt yn yr ysgol yn llawer mwy manwl, ac ymestyn ei wybodaeth. Diolch i’r cymwysterau Safon Uwch a enillodd, mae Dylan bellach yn astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd!

Students walking outside Coleg Gwent campus

Gwella eich rhagolygon swyddi

Caiff cymwysterau Safon Uwch eu cydnabod drwy’r byd ac maent yn agor drysau i yrfaoedd a chyfleoedd i fyw a gweithio yn unrhyw le yn y byd. Felly, peidiwch â chyfyngu ar eich breuddwydion – mae’r byd i gyd o’ch blaen! Gan y byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau, bydd gennych ddigon o gyfle i arallgyfeirio; yn ystod y cyfnod hwn, does dim rhaid ichi gael llwybr pendant ar gyfer eich gyrfa. Felly, pa un a oes gennych lwybr gyrfa dan sylw neu nodau i anelu atynt fel myfyriwr israddedig, bydd cymwysterau Safon Uwch yn cynnig sgiliau academaidd a phroffesiynol a all roi hwb i’ch rhagolygon gyrfa. Byddwch yn dysgu sut i ddadansoddi gwybodaeth, meddwl yn feirniadol, rhoi cyflwyniadau, cyfathrebu’n effeithiol a gwella eich ysgrifennu – sgiliau allweddol ar gyfer llwyddo mewn unrhyw yrfa.

Gwneud cais i brifysgolion uchel eu bri

Mae cymwysterau Safon Uwch yn ffordd o fynd yn eich blaen i’r brifysgol neu astudio Addysg Uwch. Mae cyrsiau Safon Uwch yn cynnig pwyntiau UCAS y byddwch eu hangen ar gyfer eich cais i’r brifysgol, a byddant yn eich galluogi i feithrin y sgiliau angenrheidiol ar gyfer dilyn astudiaeth bellach. Mae gan Goleg Gwent gysylltiadau cadarn â phrifysgolion trwy’r wlad ac mae’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau, fel y digwyddiad ‘Think Big’ yn Coleg yr Iesu Rhydychen, ynghyd ag ymweliadau â Phrifysgolion Caerfaddon a Chaerwysg er mwyn agor eich meddwl, cyfoethogi eich dysgu a meithrin eich hyder a’ch gwytnwch.

University students throwing their graduation caps in the air

Mae 80% o ddysgwyr Safon Uwch Coleg Gwent yn mynd yn eu blaen i ddilyn cyrsiau Addysg Uwch mewn prifysgolion. Yn ôl Sophie Long, “roedd gwneud cais yn gynnar i fynd i Gaergrawnt yn arwydd o ba mor ymroddedig yw’r coleg i lwyddiant ei fyfyrwyr. Gweithiodd fy nhiwtor yn ddiflino gyda mi i lunio datganiad personol a berodd imi deimlo’n hyderus.” Felly, anelwch yn uchel gyda Choleg Gwent a dilynwch eich breuddwydion i astudio yn un o brifysgolion gorau Ymddiriedolaeth Sutton a Grŵp Russell.

Rhoi’r cyfle gorau i chi eich hun

Mae myfyrwyr Coleg Gwent yn cael canlyniadau gwych yn eu cyrsiau Safon Uwch bob blwyddyn. Nid yn unig y mae ein tîm Safon Uwch ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent wedi ennill gwobr efydd yng nghystadleuaeth Tîm AB y flwyddyn yng Ngwobrau Pearson 2021, ond mae canlyniadau ein dysgwyr yn dweud y cyfan, mae canlyniadau’r dysgwyr yn siarad drostynt eu hunain – mae’r graddau’n gyson uwch na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru a’r DU yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac mae’r cyfraddau pasio uwchlaw 98%. Caiff holl ddysgwyr Coleg Gwent gymorth i gyrraedd eu llawn botensial trwy anogaeth tiwtoriaid pwnc a hefyd trwy anogaeth Tiwtor Personol pwrpasol sy’n canolbwyntio ar eu cynnydd ac ar sut y gellir goresgyn rhwystrau. Hefyd, mae yna ofal bugeiliol eang iawn ar gael er mwyn cefnogi lles emosiynol ac iechyd meddwl y dysgwyr. Mae’r coleg hyd yn oed yn arwain Rhwydwaith SEREN er mwyn cefnogi’r myfyrwyr mwyaf deallus a rhoi’r cyfleoedd gorau iddynt anelu’n uchel a mynd ymhell. Ym marn Kian O’Connell, “rhoddodd rhwydwaith SEREN lu o gyfleoedd imi a newidiodd beth roeddwn i eisiau ei wneud yn y dyfodol. Bu’r ysgolion haf o help imi wrth wneud cais i UCAS ac fe wnaeth digwyddiadau’r HWB fy helpu’n fawr i ysgrifennu fy natganiad personol.”

Darganfod dysgu annibynnol

Nid yw coleg yr un fath ag ysgol. Felly, pa un a ydych yn gadael yr ysgol neu’n ddysgwr hŷn sy’n dychwelyd at addysg, bydd y Coleg yn rhoi’r awenau yn eich dwylo chi. Mae’n gyfrwng perffaith rhwng ysgol a gwaith, a bydd yn eich paratoi ar gyfer annibyniaeth, ond gyda digonedd o gymorth wrth law. Gallwch ffarwelio â’ch gwisg ysgol, cewch gyfarch eich tiwtoriaid trwy ddefnyddio’u henwau cyntaf, a chewch fod yn gyfrifol am eich llwyddiant a’ch dysgu annibynnol eich hun. Llwyddodd Alicia Powell i gael lle ym Mhrifysgol Caergrawnt i astudio Llenyddiaeth Saesneg ar ôl cael graddau gwych yn ei holl bynciau. Mae hi’n llawn cyffro ynglŷn â’r hyn sydd o’i blaen: “Y peth gorau ynglŷn â Choleg Gwent fu’r cyfle i ddysgu’n unigol, oherwydd mae hyn wedi fy mharatoi ar gyfer fy ngham nesaf ar ôl y coleg.”

Two students studying in the library

Canfod eich cymuned

Wrth astudio cyrsiau Safon Uwch yn y coleg, byddwch mewn amgylchedd croesawus lle cewch ddigon o gyfleoedd i gyfarfod â phobl newydd a gwneud cyfeillion newydd. Mae Coleg Gwent yn rhywle i bawb – cymuned amrywiol, gynhwysol, aml-ffydd sydd ar agor i bawb. Felly, byddwch yn siŵr o ymgartrefu’n syth. Trwy eich cyrsiau Safon Uwch a’ch gweithgareddau a’ch grwpiau allgwricwlar, bydd modd ichi gyfarfod yn rhwydd â chyfeillion a byddwch yn rhan o rywbeth mwy. I Emily Curtis-Jones, roedd y coleg yn amgylchedd hollol newydd lle ceid pobl newydd a therfynau gwahanol i’w hysgol gyfun. Ond yn ôl Emily, “fe wnes i gyfeillion newydd yn rhwydd, oherwydd rydych chi’n cael cyfle i gyfathrebu gyda phobl sy’n rhan o’ch cwrs/grŵp tiwtor, ac roedd yna fwy o ryddid nag mewn ysgol gyfun.” Ac ar ôl ichi orffen eich cyrsiau Safon Uwch a symud yn eich blaen at eich camau nesaf mewn bywyd, byddwch bob amser yn rhan o gymuned cynfyfyrwyr Coleg Gwent.

Cymorth ar hyd y daith

Er bod y coleg yn rhywle y gallwch fwynhau dysgu’n annibynnol, bydd eich cyfoedion, eich tiwtoriaid a gwasanaethau’r coleg wrth law i gynnig cefnogaeth ichi trwy gydol eich astudiaethau Safon Uwch. Mae gan y coleg gyfradd basio uwchlaw 98%, a chyfradd basio o 100% mewn 30 o bynciau Safon Uwch unigol, ac mae hyn yn dangos sut y gall cefnogaeth gan staff a thiwtoriaid Coleg Gwent eich helpu i lwyddo. A hyd yn oed gyda heriau’r pandemig COVID, mae’r tiwtoriaid wedi mynd y tu hwnt i bob disgwyliad i gynnig gofal rhagorol ac ymgysylltu â’r dysgwyr o bell, gan sicrhau llwyddiant parhaus mewn cyfnod anodd. Llwyddodd Eve Tranter i gael pedair A* mewn Bioleg, Cemeg, Mathemateg a Ffiseg, gan ei galluogi i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Rhydychen. Medd Eve, “roedd fy nhiwtoriaid yn anhygoel. Allen nhw ddim fod wedi gwneud mwy. Roedden nhw ar gael unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos a bu’r cymorth a gefais ganddyn nhw yn wych.”

Students being supported by a tutor in the classroom

Astudio ar garreg eich drws

Weithiau, nid yw darparwyr addysg lleol yn cynnig yr hyn rydych yn chwilio amdano yn agos at eich cartref. Ond gyda phum campws trwy ranbarth Gwent, nid ydych byth ymhell o un o gampysau Coleg Gwent. Mae gan Barth Dysgu Blaenau Gwent, Campws Crosskeys a Pharth Dysgu Torfaen (ein campws newydd sbon) gyfleusterau o’r radd flaenaf, ac maent yn arbenigo mewn astudiaethau Safon Uwch. Ymhellach, mae’r tiwtoriaid yn arbenigwyr yn eu meysydd ac mae ganddynt flynyddoedd o brofiad mewn helpu pobl leol i lwyddo yn eu hastudiaethau Safon Uwch a mynd yn eu blaen i ddilyn eu breuddwydion.

Felly, pam astudio Safon Uwch yn Coleg Gwent?

  • Cyfradd basio o 99% ar gyfer Safon Uwch, gyda’r canlyniadau’n gyson uwch na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru a’r DU
  • 32 o bynciau Safon Uwch i ddewis o’u plith – mae yna rywbeth at ddant pawb
  • Cartref ac arweinydd Rhwydwaith SEREN ar gyfer dysgwyr galluog
  • Cymorth rhagorol yn ymwneud ag UCAS er mwyn eich helpu i gael lle yn eich dewis brifysgol
  • Gofal bugeiliol gwych, felly cewch gefnogaeth ar gyfer eich anghenion emosiynol a’ch anghenion lles
  • Amgylchedd dysgu annibynnol a fydd yn eich paratoi ar gyfer astudiaeth bellach neu waith
  • Lle amrywiol i gyfarfod â phobl newydd a bod yn rhan o gymuned groesawus
  • Staff angerddol sydd eisiau ichi gyrraedd eich gwir botensial
  • Campysau lleol – astudio ar garreg eich drws, ond mynd ymhell!

Darganfyddwch yr ystod o gyrsiau Safon Uwch sydd ar gael yn nigwyddiad Llwybrau Safon Uwch Coleg Gwent a gwnewch gais nawr i gychwyn ar eich taith ym mis Medi!