En

Llwybrau Lefel A

Mae Llwybrau Lefel A wedi’u dylunio i’ch symud gam yn nes at eich nodau yn y dyfodol

Yn Coleg Gwent rydym yn cynnig rhaglenni astudio unigryw sy’n canolbwyntio’n llwyr ar ddarparu’r sgiliau, profiadau a’r cymwysterau diweddaraf i’ch galluogi i ddilyn gyrfa neu radd brifysgol mewn maes diddordeb penodol.

Bydd angen ichi ddewis o leiaf 3 neu 4 pwnc Safon Uwch. Pan fyddwch yn dewis eich pynciau Safon Uwch, mae’n bwysig eich bod yn dewis y pynciau cywir ar gyfer yr yrfa rydych eisiau ei dilyn.

Mae ein pynciau Lefel A wedi’u grwpio gyda’i gilydd yn llwybrau gyrfa sy’n cynnwys pynciau sy’n cyd-fynd i’ch helpu chi i ddewis y cwrs mwyaf addas ar gyfer eich nod gyrfa. Cymerwch gip ar ein taflenni ffeithiau isod.

Dal ddim yn siŵr os yw Lefel A ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau