Sut i wneud cais
Gwneud cais am gwrs gyda Coleg Gwent
Waeth pa gwrs rydych eisiau ei hastudio gyda ni, mae gwneud cais yn hawdd. Mae’r broses yn newid ychydig o gwrs i gwrs, ac o sefyllfa i sefyllfa.
Dyma grynodeb, gyda dolenni i chi fedru dod o hyd i’r manylion llawn.

Cyrsiau llawn amser
Am ragor o wybodaeth neu atebion i unrhyw gwestiynau ynghylch y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, ffoniwch ni ar 01495 333777 – a phan fyddwch yn barod i wneud cais, cliciwch ar y ddolen ar dudalen y cwrs i ddechrau.
Byddwn yn eich gwahodd am gyfweliad i ddod i’ch adnabod yn well ac ichi siarad â ni ynghylch eich cwrs ac opsiynau gyrfa posibl cyn inni gynnig lle ichi, ac ar ôl hynny, byddwn yn anfon yr holl fanylion cofrestru atoch.

Cyrsiau rhan amser
Wedi ichi ddewis eich cwrs rhan amser, mae pedair ffordd syml i wneud cais:
- Ffoniwch 01495 333777 a byddwn yn eich cofrestru dros y ffôn
- Gwneud cais gan ddefnyddio ein ffurflen archebu ar-lein
- E-bostio helo@coleggwent.ac.uk
- Wyneb yn wyneb ar y campws, dydd Llun– dydd Gwener 9am-4pm
Bydd angen ichi ddod â rhai pethau gyda chi pan fyddwch yn cofrestru, fel ID, dull o dalu a’ch rhif Yswiriant Gwladol.

Cyrsiau Addysg Uwch
Os ydych yn penderfynu eich bod eisiau astudio un o’n cyrsiau Addysg Uwch, efallai er mwyn ennill cymhwyster gradd, dewiswch eich cwrs o’n hystod lawn o gyrsiau ac yna gwneud cais :
- Ar-lein ar ein tudalennau Addysg Uwch neu ffurflen gais
- Ffonio 01495 333777
- Wyneb yn wyneb ar unrhyw un o’n pum campws
Byddwn yn eich gwahodd i ddod i gyfarfod ein tiwtoriaid er mwyn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, ac anfon manylion ynghylch sut a phryd i gofrestru.

Prentisiaethau
Os ydych eisoes mewn cyflogaeth neu mewn swydd Prentis, gallwch wneud cais am un o’n nifer o gyrsiau. Dechreuwch drwy lenwi ffurflen gais, sydd ar gael o’r canlynol:
- Ar-lein, gan ddefnyddio’r ddolen ar dudalen gwybodaeth y cwrs
- Ffonio 01495 333 355
- E-bostio apprenticeships@coleggwent.ac.uk
- Wyneb yn wyneb ar unrhyw un o’n pum campws
Byddwn yn trafod eich Prentisiaeth ddewisol gyda chi tra bod gofyn i’ch cyflogwr lofnodi Cytundeb Tair Ffordd a bodloni’r gwiriadau iechyd a diogelwch priodol, ac wedi hynny, byddwn yn anfon manylion ynghylch sut i gofrestru.

Myfyrwyr rhyngwladol
Os ydych yn dod i astudio gyda ni o dramor, byddwn angen Visa Cyffredinol haen 4. I gael gafael ar un, byddwch angen arddangos eich safon Saesneg a dangos bod gennych ddigon o arian i fyw y tu allan i Lundain dros flwyddyn gyntaf eich cwrs (£8000 ar hyn o bryd) yn ogystal â ffioedd y cwrs.
Yna, gallwch gyflwyno ffurflen gais ryngwladol, ynghyd â chopïau electronig o’ch pasbort, tystysgrifau addysg a thystysgrif Prawf iaith Saesneg Diogel (SELT), wedyn, byddwn yn cynnal cyfweliad Skype cyn cynnig lle ichi.