En
Learners performing on stage

Cwrdd â'r Dysgwr: Sbotolau ar y Myfyriwr Theatr Gerddorol Emily Hawkins


7 Hydref 2020

Cwrdd â'r Dysgwr

Emily HawkinsEnw: Emily Hawkins
Cartref: Casnewydd
Cwrs: Theatr Gerddorol Lefel 3 (2018-2020)
Campws: Crosskeys

Astudiodd Emily gwrs Theatr Gerddorol Lefel 3 ar gampws Crosskeys dan lygaid craff y tiwtor Cheryl Harper, a helpodd i gadarnhau ei hangerdd am berfformio. Ar ôl mwynhau canu a theatr erioed, gwnaeth Emily gais i astudio’r cwrs i droi ei hangerdd yn llwybr gyrfa, ac roedd yn agoriad llygaid iddi, a arweiniodd at le yn Ysgol Actio fawreddog Guildford!

Pam y dewisoch chi Coleg Gwent?

“Triais saith cwrs arall cyn ymrwymo fy hun yn llwyr i Theatr Gerddorol, oherwydd roeddwn yn argyhoeddedig na fyddwn byth yn gallu gwneud gyrfa allan o berfformio, felly meddyliais pam hyd yn oed trafferthu? Wrth gwrs, erbyn hyn rwy’n gwybod nad yw hynny’n wir.

Roeddwn i’n gwybod mai Crosskeys oedd y lle i astudio yn hytrach na cholegau eraill, gan fy mod i eisoes wedi gwneud blwyddyn o astudiaethau Safon Uwch yno ac roeddwn i’n gyfarwydd â’r amgylchedd a’r gefnogaeth sydd  ar gael. Cefais amser gwych yn ystod fy wythnosau cyntaf, yn cael fy nghyflwyno’n gynnes i fformat y cwrs a fy nheulu Theatr Gerddorol.”

Beth oeddech chi’n ei hoffi fwyaf am eich cwrs?

“Cafodd amlinelliad y cwrs ei egluro’n glir i ddechrau o ran faint o’r gwaith sy’n ymarferol a faint sy’n waith ysgrifennu, a’r math o waith ac ymroddiad oedd yn ddisgwyliedig. Roedd hyn i gyd yn cyd-fynd â’r gofal a’r sylw a roddwyd i ni newydd-ddyfodiaid gan y tiwtoriaid a’r undod a wnaethom ni, fel dosbarth, ei ffurfio’n gynnar iawn.

Roedd y mis cyntaf yn ddwys iawn ac yn llawn dop o ddosbarthiadau dawns y byddaf yn ddiolchgar amdanynt am byth, o ystyried fy niffyg profiad o ddawns a fy ffitrwydd cyffredinol. Mae’r gwaith yn wych oherwydd os nad ydych chi’n gweld eich hun fel rhywun sy’n gallu dadansoddi pentwr o waith ysgrifenedig, ni waeth faint o ysgrifennu rydych chi’n ei wneud, mae bob amser yn cael ei ddigolledu gyda gwaith ymarferol ar ffurf dosbarthiadau dawns, dosbarthiadau canu, gwaith grŵp ac amser ymarfer.

Roedd yr athrawon yn gyfeillgar, yn hynod wybodus a bod amser yn hapus i wylio cynnydd y myfyrwyr. Roedd yna lawer o gyfleoedd i ni gymryd rhan mewn gweithdai gydag ymarferwyr allanol a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, gan gynnwys Julian Woolford a Mitchell Harper, a wnaeth ein harwain ar weithdy gan Ysgol Actio Guildford. Cawsom ein hannog hefyd i fynd ar deithiau i wylio amryw o sioeau cerdd gan gynnwys Heathers a Waitress yn Llundain, a gwnaethom hyd yn oed godi arian i gefnogi ein perfformiadau chwe-misol.”

A wnaethoch chi wynebu unrhyw heriau yn ystod eich astudiaethau? Sut gwnaethoch oresgyn yr heriau hyn?

“Roeddwn yn poeni ar y dechrau am ymrwymo fy hun i Theatr Gerddorol ac a oedd yn mynd i fod o fudd i mi yn y tymor hir, ond gwnaeth cwrdd â Cheryl a Nick wneud i mi deimlo’n gartrefol ar unwaith. Fe wnaethant roi llu o gyfleoedd i ni fondio gyda’n gilydd a chyda myfyrwyr yr ail flwyddyn, y gwnaethom berfformio ein sioe gerdd ddiwedd blwyddyn, Mary Poppins gyda nhw.

Cynigiwyd digon o gefnogaeth i fyfyrwyr wrth iddynt ymdrechu i gwblhau gwaith ysgrifenedig yn yr adran a’r tu allan iddi. Gwnaeth hynny atgyfnerthu’r profiad dysgu gwych oedd yn cael ei gynnig gan y coleg. Roedd y cyfleusterau llyfrgell yn wych ar gyfer ymchwilio a chwblhau gwaith ac roedd y staff bob amser yn hynod gyfeillgar ac yn hapus i archebu llyfrau neu ddramâu yr oedd eu hangen ar fyfyrwyr. Felly os oes yna ddrama rydych yn dyheu i’w darllen, peidiwch â bod ofn gofyn!”

Beth yw eich cyflawniad mwyaf hyd yn hyn?

“Rwy’n credu mai fy nghyflawniad mwyaf oedd cael fy nerbyn i astudio yn ysgol ddrama fy mreuddwydion, Ysgol Actio Guildford, na feddyliais erioed y byddwn yn cael y  cyfle i ymgeisio, heb sôn am gael lle!

Unwaith y cefais fy nerbyn, cefais gyfle i wneud cais am y nifer o ysgoloriaethau a oedd ar gael ac, er mawr syndod i mi, dyfarnwyd Ysgoloriaeth Sefydliad Andrew Lloyd Webber i mi, sy’n cynnig benthyciad hael iawn sy’n talu am gostau ffioedd dysgu.

Digwyddodd hyn i gyd yng nghanol y cyfnod clo, felly roedd yn anhygoel gweld faint y gallwn ei gyflawni wrth eistedd o flaen fy ngliniadur. Mae wedi fy nysgu ei bod hi bob amser yn werth cymryd unrhyw gyfle sydd ar gael a dod i delerau â chael rheolaeth dros eich dyfodol.”

Beth yw eich nodau tymor hir?

“Wel mae’r posibiliadau’n ddi-ben-draw, er y bydd yr effaith y mae coronafeirws wedi’i chael ar ddiwydiant y celfyddydau perfformio wrth gwrs yn cymryd llawer o amser ac ymdrech i wyrdroi, ond rwy’n benderfynol o gyrraedd y prif lwyfan. Byddwn i wrth fy modd gallu cyflawni o leiaf rai o rannau fy mreuddwydion a pharhau i ddilyn ôl troed y bobl sydd wedi fy ysbrydoli fwyaf, gan olygu os aiff popeth yn iawn, y byddwch yn gallu dod i fy ngweld yn chwarae rhan Effie yn Dreamgirls!

Mae Coleg Gwent wedi cryfhau fy ngwybodaeth am wneud eich hun yn ddigon cyflogadwy i deimlo’n hyderus y gallaf gefnogi’r llwybr gyrfa hwn. Cefais gyfle hefyd i gwblhau fy Mathemateg TGAU nad oeddwn wedi gallu ei ennill cyn y cwrs, felly mae’n dda bod myfyrwyr yn gallu ail-sefyll arholiadau.”

A oes gennych gyngor i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio yng Ngholeg Gwent yn y dyfodol?

“Byddwn yn cynghori unrhyw un, p’un a ydynt wedi penderfynu ar lwybr gyrfa ai peidio, i fynd i noson agored coleg a pheidio â setlo oherwydd lleoliad neu gost; campws Crosskeys yw’r unig gampws sy’n cynnig yr hyfforddiant celfyddydau perfformio perthnasol yr oeddwn i a fy nghyd-fyfyrwyr ei angen, felly roedd yn werth y siwrnai i gyrraedd yno gan wybod y byddai’r gwersi o fudd i mi.

Peidiwch â bod ofn bachu ar gyfleoedd wrth iddynt ddod, oherwydd byddwch chi’n cael eich hun yn profi pethau nad oeddech chi hyd yn oed yn eu hystyried yn bosibl ac mae’n debyg y byddwch chi’n cael hwyl yn eu gwneud. Synnwch eich hun! Beth yw’r peth gwaethaf all ddigwydd?”

Mae Emily bellach wedi dechrau ei hastudiaethau yn Ysgol Actio Guildford a dymunwn bob llwyddiant iddi yn y dyfodol. Ni allwn aros i’w gweld hi ar y llwyfan mawr, ac os ydych chi’n breuddwydio am serennu ar y llwyfan, ymunwch â ni nawr!