En
Coleg Gwent Fresher students 2021

Dewch i gwrdd â’r Glasfyfyrwyr a darganfod pam eu bod wedi dewis Coleg Gwent


9 Medi 2021

Mae mis Medi yn nodi dechrau blwyddyn academaidd arall yn Coleg Gwent, ac rydym yn edrych ymlaen at weld wynebau newydd ar y campws wrth i ddysgwyr newydd ymuno â ni i ddechrau eu hastudiaethau llawn amser a rhan amser uwch gyfochr â’r dysgwyr sy’n dod yn ôl atom ni. Mae gennych amser i wneud cais ac ymuno â ni ar gyfer amrywiaeth o gyrsiau diddorol eleni. Wrth i’r tymor fynd yn ei flaen, rydym wedi bod ar y campws yn cwrdd â’n dysgwyr newydd yn ein digwyddiadau glas, i ddeall pam y gwnaethant ddewis Coleg Gwent a beth maen nhw’n edrych ymlaen ato fwyaf.

2021 Fresher Cate DaviesMae Cate Davies o Bonthir yn dechrau ei chwrs Tystysgrif Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mharth Dysgu Torfaen fis Medi, gyda’r bwriad o ddod yn fydwraig yn y dyfodol. Dewisodd Coleg Gwent yn hytrach na cholegau neu ddosbarthiadau chweched eraill oherwydd “enw da’r” coleg fel un o’r colegau sy’n perfformio orau yng Nghymru gyda chyfradd basio 97.7% a’r cyfle i “ddechrau eto” ar ôl gadael yr ysgol.

Mae Cate yn edrych ymlaen at gwblhau profiad gwaith i’w helpu hi wireddu ei breuddwyd o ddod yn fydwraig a magu’r sgiliau mae hi eu hangen ar gyfer ei gyrfa yn y dyfodol. Mae hi eisoes wedi sylweddoli fod yr athrawon yn “hyfryd a chyfeillgar” ac mae’r coleg yn rhoi mwy o “annibyniaeth a chyfleoedd” o gymharu â’r ysgol. Mae hi hefyd wedi sylweddoli fod Coleg Gwent yn “gefnogol iawn” o ran cymryd rhan mewn chwaraeon gyfochr â’i hastudiaethau. Yn wir, rydym yn gefnogwyr chwaraeon brwd yn Coleg Gwent, ac mae llawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau allgyrsiol, o bêl-rwyd a rygbi, i hoci a phêl-droed.

Ben Chorazyczewski - Freshers 2021Mae Ben Chorazyczewski yn un ar bymtheg oed ac yn dod o Gwmbrân. Nid oed yn siŵr pa drywydd i’w ddilyn ar ôl gadael yr ysgol, ond ar ôl dod o hyd i Ddiploma Sylfaenol Cenedlaethol BTEC Lefel 3 mewn Gwasanaethau Amddiffyn mewn Lifrai, penderfynodd roi cynnig arni a gweld lle allai hyn ei arwain. Mae Gwasanaethau Cyhoeddus ac Amddiffyn yn rhaglenni gwych sy’n eich paratoi chi ar gyfer gyrfa werth chweil yn y dyfodol, a swyddi gyda’r heddlu, y gwasanaeth tân, fel parafeddyg neu yn y lluoedd arfog.

Mae’n agor y drws i fyd o gyfleoedd ar gyfer Ben, sy’n edrych ymlaen at ennill “mwy o wybodaeth a hyder” yn ystod ei amser ym Mharth Dysgu Torfaen. Mae “ar bigau i wneud ffrindiau newydd yn y coleg”, felly mae’r ffeiriau glas yn lle gwych i wneud hynny!

 Kaylie Hawker - Freshers 2Cymerodd Kylie Hawker o Gas-gwent flwyddyn i ffwrdd am nad oedd hi’n gwybod beth roedd hi eisiau ei wneud ac yn teimlo y gallai ddewis y pynciau Safon Uwch anghywir. Felly, ar ôl seibiant oddi wrth addysg, mae hi bellach wedi meithrin diddordeb mewn anifeiliaid, ac wedi dewis dilyn gyrfa fel Nyrs Filfeddygol. Mae Kylie yn “edrych ymlaen at ddechrau dysgu ar y cwrs a deall mwy am y pwnc” ac mae’n bwriadu mynd ymlaen o’r cwrs Cynorthwyydd Gofal Milfeddygol Lefel 2 i Lefel 3, fydd yn ei galluogi hi i fod yn nyrs filfeddygol a gweithio gydag anifeiliaid yn y dyfodol.

Hyd yn hyn, byddai’n argymell Coleg Gwent gan fod “rhywun i’ch cefnogi chi bob amser, gant y cant. Mae’r tiwtoriaid wedi bod yn gefnogol iawn, ac rydych yn cael mwy o annibyniaeth ac yn cael eich trin fel oedolyn.” Mae’r coleg yn wahanol i’r ysgol mewn sawl ffordd, felly er eich bod yn cael mwy o annibyniaeth, byddwch hefyd yn cael help ac anogaeth gan wasanaethau cefnogi’r coleg ar hyd y daith.

Mae coleg ar gael i bawb nid y rhai sy’n gadael ysgol yn unig!

Sam Loxton - Freshers 2021Dechreuodd Sam Loxton, pedair ar bymtheg oed o Fargoed, gwrs prifysgol yn astudio Rheoli Prosiectau Adeiladu, ond nid oedd yn ei fwynhau. Felly, ar ôl cael swydd dros dro yn y ffatri Pot Noodle, penderfynodd ei fod angen newid ac roedd eisiau dod o hyd i’r llwybr cywir iddo ef. Penderfynodd Sam edrych ar gyrsiau coleg a dewisodd astudio cwrs Diploma Lefel 2 mewn Gosodiadau Trydanol ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent ym mis Medi ac mae ganddo uchelgeisiau i ddechrau ei gwmni ei hun a bod yn fos arno’i hun ar ôl gorffen yn y coleg.

Mae wedi ei chael hi’n “hawdd iawn cwrdd â phobl yn y coleg”, nid oedd yn adnabod neb cyn dechrau ei gwrs, ond mae “eisoes wedi gwneud ychydig o ffrindiau newydd ac mae’r bobl yn neis iawn!” Esboniodd Sam mai’r prif wahaniaeth rhwng y coleg a’r ysgol i ddysgwr mwy aeddfed yw bod “yr athrawon yn fwy didrafferth yma na’r ysgol. Yn y coleg, rydym yn gyfrifol am ein gwaith ein hunain ac rwy’n hoffi hynny. Mae’n well gennyf y coleg na’r chweched dosbarth yn yr ystyr hwnnw hefyd.”

Teresa Heron Mae Teresa Heron o Goed Duon yn dweud ei bod hi’n “gyfforddus a hapus” yn y coleg fel dysgwr hŷn ac mae hi wedi “gwneud ffrindiau newydd am byth”. Roedd ail-gydio mewn addysg yn ddychrynllyd a chyffrous i Teresa. Roedd hi wedi cael seibiant sylweddoli oddi wrth addysg, ond roedd hi’n edrych ymlaen at wireddu ei breuddwyd ar Gampws Brynbuga, ac mae hi’n ein hatgoffa ni mai “rhif yn unig yw eich oed!”

James AllenDewisodd James Allen, dysgwr oedolyn o Drefgwilym, astudio ei gwrs Lefel 3 mewn Hyfforddiant Perosnol yn Coleg Gwent am ei fod yn gwybod y byddai “mewn gofal da” i fireinio ei sgiliau a chyfoethogi ei wybodaeth yn ystod cyfnod hwn yn ei yrfa. Roedd yn gwybod fod gan ein tiwtoriaid ddiddordeb go iawn yn y pynciau maent yn eu haddysgu ac yn arbenigwyr yn eu meysydd, sy’n gwneud Coleg Gwent “y lle delfrydol ar gyfer iechyd a ffitrwydd!” Sylweddolodd James yn fuan mai rhai o’r elfennau gorau am fywyd yn y coleg oedd “y gefnogaeth gan athrawon a myfyrwyr eraill, a’r holl gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau”

Mae ymuno â Coleg Gwent yn ffordd wych i roi eich troed ar yr ysgol yrfaoedd, a gweithio i gyflawni eich nodau. Pa un ai eich bod yn dechrau eich taith, neu eisiau uwchsgilio a chyrraedd y lefel nesaf, ymgeisiwch nawr i gyflawni eich nodau fis Medi!