En
Learners with exam results and balloons

Canlyniadau gorau erioed gradd A*-C yn Coleg Gwent


10 Awst 2021

Unwaith eto eleni, rydym yn dathlu ein dysgwyr sydd ar y brig gyda chanlyniadau Safon Uwch, galwedigaethol a BTEC rhagorol. Rydym ni wedi gweld y canlyniadau gorau erioed gradd A* – C, gyda cynydd o 4.6% a nifer o ddysgwyr yn llwyddo i sicrhau lle ym Mhrifysgol Caergrawnt ym mis Medi!

Derbyniwyd 1,329 o ganlyniadau Safon Uwch yn electronig heddiw, gyda dros 80% o’r rhain yn ennill graddau A*-C. Rydym hefyd yn dathlu cyfradd lwyddo o 100% mewn 57 pwnc Safon Uwch – cynnydd trawiadol o 46 pwnc y llynedd.

College learners celebrating results

Ar draws y coleg, derbyniodd o ddysgwyr BTEC a galwedigaethol Lefel 3 eu graddau heddiw hefyd, gyda chanlyniadau eithriadol. Rydym yn falch iawn o’r gwaith caled, y gwytnwch a’r ymroddiad y mae ein holl ddysgwyr wedi’i ddangos, er gwaethaf yr heriau a wynebir ers i’r pandemig ddechrau.

Dyma’r flwyddyn academaidd gyntaf i gyfleuster radd flaenaf Parth Dysgu Torfaen fod yn agored i ddysgwyr a chymerwyd 1025 Lefel A ac UG trawiadol. Cyflawnodd dysgwyr Lefel A gyfradd basio gyffredinol o 97.3% a chyflawnodd dysgwyr UG blwyddyn gyntaf gyfradd basio gyffredinol o 91%.

Yn y cyfamser, mae dysgwyr ym Mharth Ddysgu Blaenau Gwent wedi elwa ar arbenigedd addysgu eu tîm Safon Uwch a enillodd y wobr Efydd ar gyfer Tîm y Flwyddyn Pearson yn 2021, yn mwynhau cyfradd lwyddo gyffredinol eithriadol o 99.1%. Tra bod dysgwyr a staff ar Gampws Crosskeys hefyd yn dathlu gyda chyfradd lwyddo gyffredinol wych o 97.2%.

Dywedodd y Pennaeth, Guy Lacey:

“Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr ar ganlyniadau ardderchog eto eleni – rydym yn hynod falch o’ch gwaith caled a’ch cyflawniadau! Eleni rydym yn falch o fod yn cyhoeddi canlyniadau i’n grŵp mwyaf newydd o ddysgwyr Safon Uwch ym Mharth Dysgu Torfaen sydd newydd ei agor, yn ogystal â’n dysgwyr o Crosskeys a Pharth Dysgu Blaenau Gwent. Bydd gwaith caled ac ymroddiad dosbarth 2021 yn fantais iddynt ar gyfer eu camau nesaf ar ôl y coleg. Dymunwn bob lwc iddynt ar gyfer y dyfodol.”

Darganfyddwch rai o’n llwyddiannau ysbrydoledig o ddosbarth 2021:

Campws Crosskeys

Lyra JannettaAr ôl gweithio’n eithriadol o galed, cyflawnodd y myfyriwr Safon Uwch Lyra Jannetta o Oakdale ganlyniadau anhygoel gyda phedair gradd A* mewn Ffiseg, Mathemateg, Mathemateg Bellach, Cemeg a Bagloriaeth Cymru, gan gadarnhau ei lle i astudio Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol anrhydeddus Caergrawnt.

Gydag angerdd dros bynciau STEM, mae Lyra yn gobeithio darganfod ei harbenigedd gwyddonol a dilyn PhD. Mae hi wedi bod yn teimlo’n gyffrous ac yn bryderus am ei chanlyniadau, gan ei bod wedi bod yn aros i ddarganfod a oedd hi’n bodloni amodau ei chynnig i astudio yng Nghaergrawnt, ac mae diwrnod y canlyniadau wedi bod yn llwyddiant ysgubol i Lyra!

Hussain Ahmed KhanBydd Hussain Ahmed Khan o Gasnewydd hefyd yn ymuno â Lyra ym Mhrifysgol Caergrawnt ym mis Medi i astudio Peirianneg Awyrofod ar ôl cyflawni 3 A* mewn Mathemateg Safon Uwch, Cemeg a Ffiseg. Eglurodd;

“Roeddwn i’n nerfus iawn i dderbyn fy nghanlyniadau, gan fod y cwrs roeddwn i’n gwneud cais amdano’n gofyn am raddau uchel iawn, ac roeddwn i’n ofnus rhag ofn i mi fethu. Ond roeddwn hefyd yn gyffrous iawn gan fy mod yn gwybod faint o ymdrech roeddwn i a fy athrawon wedi’i wneud. Roeddwn i’n siŵr y byddwn i’n cael y graddau oedd eu hangen arnaf yn y diwedd.”

Cyflawnodd dysgwyr BTEC Gwyddoniaeth Gymhwysol, Abigail George, Hollie Williams, Joel Chick, Tristan Lee, a Shalini Suansing y graddau uchaf – Rhagoriaeth a Theilyngdod – yn eu hastudiaethau galwedigaethol.

Canfu Abigail fod y cwrs BTEC yn “ddewis amgen gwych i Safon Uwch. Roedd yn seiliedig ar waith cwrs yn bennaf ac yn caniatáu i mi gael graddau da o hyd i fynd i brifysgol wych, heb orfod delio â phwysau a straen arholiadau.” Mae hi bellach yn edrych ymlaen at astudio Gwyddor Fiofeddygol ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Medi.

Yn y cyfamser, credai Joel, sy’n dyheu am fod yn Ffisiotherapydd, fod y BTEC yn “ddewis gwych os ydych chi’n chwilio am swydd sy’n ymwneud â gwyddoniaeth, gan ei fod yn rhoi cymaint o ddewisiadau i chi ac rydych yn cael llawer o gefnogaeth gan diwtoriaid.” Mae Joel yn edrych ymlaen at astudio Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Caerdydd.

Megan GraceBydd Megan Grace o Oakdale yn dechrau ei gradd feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Medi ar ôl ennill 4 A*.  Dywedodd;

“Mae fy narlithwyr wedi bod yn hynod gefnogol drwy gydol y broses ymgeisio i ysgolion meddygol. Yn bendant, fyddwn i ddim wedi cael lle heb eu cefnogaeth gyson.”

Sicrhaodd Mason Hook o’r Coed Duon hefyd le yn astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerwysg gyda graddau A*A*A. Dywedodd wrthym;

“Fy nghynnig gan y brifysgol oedd ABB ac nid oeddwn yn credu y byddwn yn gallu cyflawni hyn ar adegau, yn enwedig gan fod Meddygaeth mor gystadleuol. Ond mae Coleg Gwent wedi rhoi’r hyder a’r gred i mi geisio cael lle ar gwrs fel Meddygaeth!”

Kris DayCwblhaodd Kris Day, sy’n ddysgwr hŷn, ei ddiploma Trwsio Beiciau Modur IMI er gwaethaf nifer o heriau yn ystod ei astudiaethau. Dywedodd:

“Mae fy nganlyniadau’n bwysig i mi gan eu bod yn dangos fy mod yn benderfynol i lwyddo a faint rwyf wedi mwynhau fy amser yn y coleg. Rwy’n anabl, gan fod gen i arthritis yn fy nghoesau… felly, roeddwn ond yn gallu dod yn ôl i’r coleg a chwblhau fy nghymhwyster o ganlyniad uniongyrchol i’r help a chefnogaeth a gefais gan diwtoriaid!”

Campws Blaenau Gwent

Sujana and SujinaAr ôl astudio’r un safon Uwch ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent, mae’r efeilliaid unwy, Sujana a Sujina Balendra o Beaufort, wedi profi llwyddiant dwbl ac wedi ennill dau le haeddiannol ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio Gwyddor Fiofeddygol. Dywedodd Sujana;

“Fy nyhead gyrfa yw dod yn feddyg. Rwy’n gwybod fy mod wedi gwneud fy ngorau ym mhob pwnc diolch i’r cymorth a’r gefnogaeth a gefais gan fy athrawon ac rwy’n mynd i astudio gwyddoniaeth fiofeddygol a fydd yn fy helpu i symud ymlaen i astudio meddygaeth ar lefel raddedig!”

Yn y cyfamser, canfu Sujina fod;

“Coleg Gwent wedi rhoi hyder i mi y byddaf yn gallu cyflawni fy nodau a thrwy astudio bioleg a chemeg, mae hyn wedi rhoi sgiliau labordy pwysig i mi y byddaf yn eu defnyddio yn y dyfodol yn fy nghwrs prifysgol.”

Gareth BurchellCyflawnodd Gareth Burchell o Lynebwy A*A*A*A sylweddol, a sicrhaodd le i astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Eglurodd;

“Rhoddodd Coleg Gwent sylfaen helaeth o sgiliau i mi y gallaf adeiladu arnynt ymhellach, a hoffwn nawr ddilyn gyrfa mewn seicoleg!”

Hannah DaviesMae’r dyfodol hefyd yn edrych yn ddisglair i Hannah Davies, dysgwr SEREN o Dredegar, a enillodd 3 gradd A* mewn Addysg Gorfforol, Bioleg a Seicoleg ac mae’n mynd ymlaen i astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Caerfaddon!

Gyda dewis eang o gyrsiau ym Maes Dysgu Blaenau Gwent, mae dysgwyr llwyddiannus yn mynd ymlaen i astudio ystod amrywiol o raddau yn y prifysgolion gorau ledled y DU. Mae Liam Williams o Dredegar yn paratoi i fynd i Brifysgol Lerpwl i astudio Pensaernïaeth gyda graddau Safon Uwch A*AC rhagorol.

Mae Hywel Evans, dysgwr Chwaraeon BTEC o Flaenau, yn gobeithio gweithio yn y diwydiant chwaraeon un diwrnod. Cyflawnodd Ragoriaeth a bydd yn mynd ymlaen i astudio Rheoli Chwaraeon ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Mae Joe Nash o Lynebwy wedi gweithio’n galed i gyflawni AAB mewn Cymraeg, Sbaeneg a Bioleg ac mae bellach yn edrych ymlaen at ymgymryd â gradd mewn Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Abertawe.

Meagan PearsallBydd Prifysgol Caerdydd hefyd yn croesawu Lucy Winstone, Meagan Pearsall a Zach Lloyd o Dredegar. Cyflawnodd Lucy A*AB a’i breuddwyd yw bod yn Gyfreithiwr neu’n Fargyfreithiwr, felly mae hi’n gyffrous i astudio’r Gyfraith ym mis Medi.

Mae Meagan yn gobeithio dod yn Feddyg, ac ar ôl ennill graddau A*AA gwych, mae hi wedi sicrhau lle ar gwrs Meddygaeth cystadleuol Prifysgol Caerdydd.

Ac mae Zach yn dilyn gradd mewn Cyfrifiadureg ac mae ganddo uchelgais o ddod yn rhaglenydd gyda graddau A*AA anhygoel.

Parth Dysgu Torfaen

Ella GrundyRoedd y garfan gyntaf o Ddysgwyr UG ym Mherth Dysgu Torfaen yn cynnwys Ella Grundy, Emily Vale, Jessica Davies a Tegan Davies, sydd i gyd wedi cyflawni canlyniadau rhagorol er iddynt astudio blwyddyn gyntaf eu Safon Uwch yn ystod y pandemig.

Mae Ella yn cymryd camau tuag at wneud cais am Rydgrawnt y flwyddyn nesaf gyda phedair gradd A mewn Mathemateg, Bioleg, Cemeg a Daearyddiaeth, ac mae Emily hefyd yn anelu at astudio yng Nghaergrawnt, wedi cyflawni AAA mewn Mathemateg, Cemeg a Bioleg. Gan weithio tuag at fod yn awdur, mae Tegan wedi ennill AAAA yn ei Lefelau UG, gan ei rhoi mewn sefyllfa wych i wneud cais i Brifysgol Rhydychen i astudio Llenyddiaeth ac Iaith Saesneg, ac eglurodd Jessica, a enillodd BBA mewn Bioleg, Seicoleg a Drama;

“Mae fy mlwyddyn gyntaf wedi bod yn arbennig ac mae athrawon parchus a chymwynasgar wedi fy helpu, a myfyrwyr eraill sy’n gyfeillgar ac yn frwd dros ddysgu!”

Llongyfarchiadau i ddosbarth 2021 sydd wedi rhagori er gwaethaf heriau pandemig byd-eang, a phob lwc ar gyfer y cam nesaf, beth bynnag fo hynny.

Gydag ystod o gyrsiau Addysg Uwch ar gael ar eich stepen ddrws, nid yw’n rhy hwyr i wneud cais nawr ar gyfer mis Medi i ymuno ag un o golegau gorau Cymru.