En
Blaenau Gwent Learning Zone A-Level Team

Tîm Safon Uwch PDBG yn Ennill Gwobr Efydd Tîm AB y Flwyddyn Pearson


24 Mehefin 2021

Dydd Mercher 23 Mehefin oedd ‘Diwrnod Cenedlaethol Diolch i Athrawon’, a pha ffordd well o ddathlu na gyda Gwobr Efydd fawreddog i Dîm Safon Uwch Parth Dysgu Blaenau Gwent yng Ngwobrau Addysgu Pearson ar gyfer ‘Tîm AB y Flwyddyn’ 2021! Mae’r wobr yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr sydd wedi’i wneud gan y staff addysgu ymroddedig ar Gampws Glynebwy a’r gwahaniaeth cadarnhaol maent wedi’i wneud i fywydau pobl ifanc yn yr ardal, wedi chwyldroi darpariaeth addysg Safon Uwch yn rhanbarth Blaenau Gwent.

Agorodd Parth Dysgu Blaenau Gwent yn 2013 fel cartref holl addysg Safon Uwch ym Mlaenau Gwent, gyda 27 o arbenigwyr hynod gymwys sy’n addysgu ar draws y cynnig eang o bynciau Safon Uwch. Wedi’i enwebu gan Bennaeth yr Ysgol, Suzanna Thomas, i gydnabod eu cyflawniadau, mae’r tîm yn ymgysylltu, yn cymell ac yn annog dysgwyr i wneud eu gorau, fel eich bod yn medru cymryd eich lle gyda dysgwyr disgleiriaf y brifysgol. Maent yn gweithio’n agos i ganolbwyntio ar wneud eu gorau glas i chi, i’ch gweld chi’n cyflawni ac yn mynd ymlaen i astudio yn eich prifysgol ddewisol, gan weithio’n galed i gynnal eich cymhelliant er gwaethaf amgylchiadau andwyol fel COVID. Mae eu hymrwymiad yn sicrhau bod presenoldeb yn uwch na’r disgwyl gydag ychydig o ddysgwyr yn gadael y cyrsiau. Ond yn fwy na dim, mae’r tîm yn sicrhau eich bod yn gwybod sut i wella a chael y graddau gorau posibl, yn rhagori ar ddisgwyliadau.

Drwy gydol y pandemig, mae dysgwyr wedi elwa o gymorth ychwanegol i’w cadw nhw wedi ymgysylltu ac yn ffynnu yn y coleg. Mae’r cymorth ychwanegol hwn wedi golygu bod yr holl ddysgwyr wedi derbyn eu lle dewis cyntaf yn y brifysgol er bod amhariadau sylweddol wedi bod oherwydd COVID. Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, Suzanna Thomas, “mae ymrwymiad a chefnogaeth y tîm Safon Uwch i sicrhau’r gorau ar gyfer ein dysgwyr yn ystod y cyfnod hwn wedi bod yn rhyfeddol.

Diolch i angerdd y tîm dros addysgu, mae dysgwyr wedi cyflawni graddau Safon Uwch yn llawer uwch na’u rhagfynegiadau gradd targed dros yr 8 mlynedd ddiwethaf, ac maent wedi mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion o’u dewis ledled y DU. Mae canlyniadau wedi gwella’n gynyddol, gyda dysgwyr yn cyrraedd cyfraddau llwyddo uwch na 98% a graddau sy’n uwch na meincnodau cenedlaethol y DU a Chymru. Mae llwyddiant gwerth ychwanegol dysgwyr o fewn y 20% uchaf o 3,000 o sefydliadau sy’n cynnig Safon Uwch ledled y DU, gan wneud Parth Dysgu Blaenau Gwent yn opsiwn addysg bellach gwych i bobl ifanc yn y rhanbarth.

Dywedodd Michael Morpurgo, Pennaeth Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson am y tîm Safon Uwch; “Mae’r gwaith rydych chi’n ei wneud bob dydd, yn gwella bywydau, yn newid bywydau… Rwy’n ysgrifennu atoch i’ch llongyfarch ac i ddiolch i chi. Mae mor bwysig i blentyn gael athro gwych fel chi. Rydych yn agor drysau, yn taflu goleuni. Rydych chi’n treulio eich bywyd gwaith yn trosglwyddo i blant y cyfan rydych chi’n ei wybod ac yn ei garu… Felly, da iawn chi, da iawn!”

Felly llongyfarchiadau a diolch i’r holl dîm Safon Uwch ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent am ennill y wobr Efydd fel ‘Tîm Addysg Bellach y Flwyddyn’ 2021, ac am eich ymrwymiad i’n dysgwyr: Steph Werrett, Dr Shaun Andrews, Ashley Amos, Gemma Starling, Obiajulu Iweka, Laura Phillips, Richard Payne, Lisa Jones, Rhiannon Jenkins, Nicola Gatesman, Nick Thomas, Liane Dent, Steve Duffin, Stacey Whitcombe, Dr Kate Hanford, Stacey Knight, Grace Coomer, Laura Nelmes, Hannah Hughes, Kelly Reed, Karan Sadler, Holly Ellis, Candice Arthur, Fran Atkinson, Professor Russell Deacon, Cath Rogers, Patrick Evans, Dr Adam Rykala, Henry Felek.

Dysgwch fwy am astudio Safon Uwch ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent yn ein Noson Agored Rithiol nesaf neu Wythnos Llwybrau Safon Uwch. Nid yw’n rhy hwyr i wneud cais nawr i ymuno â Coleg Gwent fis Medi.