Chwalu’r mythau ynglŷn â bywyd yn y coleg – dyma’r ffeithiau!
6 Gorffennaf 2023
A ydych yn ystyried dilyn cwrs coleg?
P'un a ydych yn breuddwydio am fynd i Rydychen neu Gaergrawnt, neu â'ch golygon ar yrfa gyffrous, gall eich taith ddechrau yma.
Ond gadewch i ni fod yn onest, mae yna lawer o chwedlau am goleg. Yn barod i ddarganfod sut mae o mewn gwirionedd? Dewch i ni chwalu rhai mythau a darganfod y ffeithiau.
Myth 1: Mae’r coleg yr un fath yn union â’r ysgol

Ffaith: Nid yw’r coleg yr un fath â’r ysgol. Mae’r coleg yn lle ar gyfer twf, datblygiad a dysgu annibynnol, lle cewch eich trin fel oedolyn a lle gallwch ganolbwyntio ar eich gwir ddiddordebau. Yn y Coleg, bydd modd ichi astudio pynciau sydd wrth eich bodd a phynciau yr hoffech ddysgu mwy amdanynt. Gallwch ddewis eich llwybr eich hun! Hefyd, mae’r Coleg yn ddelfrydol i ddysgwyr sydd naill ai’n ymarferol neu’n academaidd, ac mae’n ddewis amgen gwych ar gyfer astudio yn hytrach na mynd i’r chweched dosbarth.
Cafodd Jesse Moody ei addysgu gartref ac roedd yn teimlo’n nerfus ynglŷn â dychwelyd i’r amgylchedd addysg i astudio Peirianneg Fecanyddol. Ond llwyddodd i ymgartrefu ar ei union, a châi ei drin fel oedolyn bob amser. Yn ôl Jesse, “mae yna agwedd wirioneddol dda yn y gweithdai, gan y staff a’r myfyrwyr fel ei gilydd – maen nhw’n eich trin yn gyfartal ac fel oedolion.”
Myth 2: Rhaid imi astudio cyrsiau Safon Uwch os ydw i eisiau mynd i’r brifysgol
Ffaith: Un llwybr yn unig ar gyfer mynd i’r brifysgol yw Safon Uwch. Gwyddom fod gan bawb ei ffordd wahanol ei hun o ddysgu; felly, os nad yw cyrsiau academaidd, fel cyrsiau Safon Uwch, yn iawn i chi, gallwch astudio cwrs galwedigaethol, gan barhau i fod yn gymwys i gael lle mewn prifysgol. Mae ein cyrsiau galwedigaethol ymarferol yn dal i ennill pwyntiau UCAS, yr un fath â chyrsiau Safon Uwch. Yn wir, mae Diploma Lefel 3 yn werth hyd at 420 o bwyntiau UCAS, sy’n cyfateb i 3 A* mewn Safon Uwch. Golyga hyn y gallwch astudio cwrs ymarferol sy’n gweddu i chi, a pharhau i weithio tuag at fynd i’r brifysgol os mai dyna eich dymuniad. Ymhellach, gallwch hyd yn oed ddewis astudio cwrs lefel prifysgol yn y coleg fel y gwnaeth Kieron Cole.
Astudiodd Kieron Radd Atodol BSc (Anrh) mewn Nyrsio Milfeddygol ar ôl treulio chwe blynedd yn astudio gyda Coleg Gwent. Yn ôl Kieron, “heb Campws Brynbuga, fuaswn i ddim yn y sefyllfa yma heddiw nac yn gweithio mewn swydd sydd wirioneddol wrth fy modd.”
Myth 3: Rhywle i bobl na allan nhw ddilyn cyrsiau Safon Uwch yn unig yw’r coleg

Ffaith: Nid ar gyfer dysgwyr galwedigaethol yn unig y mae’r coleg. Er bod Coleg Gwent yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau galwedigaethol mewn pum campws, mae hefyd yn cynnig cyrsiau Safon Uwch yng Campws Crosskeys, Parth Dysgu Torfaen a Parth Dysgu Blaenau Gwent. Mae myfyrwyr yn dewis dod i’r coleg ac yn dewis astudio cyrsiau sydd o wir ddiddordeb iddynt. Mae rhai’n mwynhau arddull academaidd cyrsiau Safon Uwch, tra mae eraill yn dymuno ennill mantais gyda prentisiaeth neu raglen lle byddant yn creu portffolio o waith i’w helpu i gamu ar yr ysgol yrfa. Felly, pa un a ydych yn chwilio am gwrs galwedigaethol neu gyrsiau Safon Uwch i fynd i’r brifysgol, gall Coleg Gwent gynnig y cwbl ichi.
Llwyddodd Alicia Powell, un o ddysgwyr Safon Uwch Parth Dysgu Blaenau Gwent, i gael lle ym Mhrifysgol Caergrawnt i astudio Llenyddiaeth Saesneg ar ôl cael graddau gwych yn ei hastudiaethau Safon Uwch – A* a 3 A. I Alicia, “y peth gorau ynglŷn â Choleg Gwent fu’r cyfle i ddysgu’n unigol, oherwydd mae hyn wedi fy mharatoi ar gyfer fy ngham nesaf ar ôl y coleg.”
Myth 4: Nid yw coleg yn lle i mi
Ffaith: Mae coleg yn lle i bawb. Pa un a ydych yn gadael yr ysgol neu heb fod yn rhan o addysg ers blynyddoedd, byddwch yn siŵr o ddod o hyd i gwrs addas. Mae myfyrwyr a chanddynt amrywiaeth eang o ganlyniadau TGAU o bob cefndir yn dod i Goleg Gwent, ac mae’r coleg yn canolbwyntio ar eich helpu i gyrraedd eich potensial ac ennill y graddau gorau posibl yn eich dewis bwnc. Felly, os nad yw’r ysgol yn addas i chi ac os yw eich graddau’n is nag yr hoffech, os nad ydych wedi rhoi eich troed mewn ystafell ddosbarth ers degawd, neu os ydych yn ddysgwr deallus sydd â diddordeb yn Rhwydwaith Seren, mae croeso i bawb.
Daeth Robin Hammett i Goleg Gwent i astudio Diploma Lefel 3 mewn Hyfforddiant Personol. Roedd yn nerfus cyn dechrau yn y coleg, oherwydd roedd 27 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers iddo adael yr ysgol. Ond fel yr esbonia Robin, “Mae’r coleg mor wahanol i’r ysgol. Mae’n llawn oedolion sydd eisiau cyflawni rhywbeth. Roedd bod yn fyfyriwr hŷn yn brofiad brawychus, ond mae’r tiwtoriaid yn anhygoel ac maen nhw’n mynd y tu hwnt i bob disgwyliad er mwyn bod yno ichi.”
Myth 5: Efallai na allaf ymdopi heb gefnogaeth fy athrawon ysgol
Ffaith: Cewch fwy o ryddid yn y coleg i weithio ac astudio’n annibynnol, ond fyddwch chi byth bythoedd ar eich pen eich hun. Gallwch wastad droi at gymuned ofalgar Coleg Gwent pan fyddwch angen help a chefnogaeth gan eich tiwtoriaid, eich cyfoedion neu eich Tiwtor Personol. Yn wahanol i’r ysgol, yn y Coleg byddwch yn cyfarch eich tiwtoriaid trwy ddefnyddio’u henwau cyntaf, a byddant yno wrth law i arwain a chefnogi eich dysgu. Ochr yn ochr â hyn, mae Coleg Gwent yn cynnig cymorth a gofal bugeiliol rhagorol er mwyn ichi allu cyrraedd eich potensial. Mae pob dysgwr yn cael tiwtor personol i’w helpu i gyrraedd ei nodau unigol yn y coleg.
Llwyddodd Eve o Groespenmaen i ennill pedair A* mewn Bioleg, Cemeg, Mathemateg a Ffiseg, gan ei galluogi i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Rhydychen. Medd Eve, “roedd fy nhiwtoriaid yn anhygoel. Allen nhw ddim fod wedi gwneud mwy. Roedden nhw ar gael unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos a bu’r cymorth a gefais ganddyn nhw yn wych.”
Myth 6: Nid yw myfyrwyr Safon Uwch yn cael cymaint o gyfleoedd neu gymaint o brofiadau â dysgwyr sy’n dilyn cyrsiau galwedigaethol

Ffaith: Yn Coleg Gwent, mae’r cyfleoedd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, ac mae hynny’n wir am gyrsiau o bob math. Mae’r rhaglenni Safon Uwch yn cynnwys teithiau maes yn ymwneud â phynciau penodol er mwyn ategu eich dysgu, fel teithiau Daearyddiaeth i Ogledd Cymru, ymweliadau â Phrifysgolion Caerfaddon a Chaerwysg ar gyfer myfyrwyr Cemeg Safon Uwch, teithiau Ffotograffiaeth i Ganolbarth Cymru, a theithiau Hanes i Auschwitz. Hefyd, cewch gyfleoedd i fynychu digwyddiadau ysbrydoledig yn rhai o’r prifysgolion uchaf eu bri yn y DU, fel y digwyddiad ‘Think Big’ yng Ngholeg yr Iesu, Prifysgol Rhydychen, sy’n annog nodau i ymgyraedd atynt ymhlith pobl ifanc, gan anelu at annog ceisiadau llwyddiannus i brifysgolion gorau’r DU.
Myth 7: Gwastraff amser yw mynd i’r coleg – fe allwn fynd i weithio ar fy union
Ffaith: Mae’r coleg yn ‘bont’ wych rhwng addysg a gwaith. Mae gan Goleg Gwent gysylltiadau agos â chyflogwyr lleol ac arbenigwyr mewn diwydiant, ac mae’r rhain yn siapio’r cwricwlwm i ddiwallu gofynion gweithlu’r dyfodol. Felly, trwy fynd i’r coleg bydd modd ichi sicrhau eich bod yn meddu ar y sgiliau a’r hyder y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, gan eich gwneud yn llawer mwy cymwysedig a phrofiadol pan fyddwch yn troi at y byd gwaith. Hefyd, bydd modd ichi gamu yn eich blaen ynghynt yn eich gyrfa, a bydd ein cyrsiau’n cynnig cymwysterau a phrofiad ymarferol sy’n werthfawr i gyflogwyr, gan sicrhau y byddwch gam o flaen eich cydymgeiswyr.
Myth 8: Nid yw canlyniadau colegau cystal â chanlyniadau dosbarthiadau chwech
Ffaith: Bob blwyddyn, mae dysgwyr Safon Uwch Coleg Gwent yn rhagori ar y disgwyliadau ac yn esgor ar gyfraddau pasio sy’n gyson uwch na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru a’r DU. Gan sicrhau cyfraddau pasio o 97% a mwy, mae nifer o’n myfyrwyr yn mynd yn eu blaen i astudio ym mhrifysgolion gorau Ymddiriedolaeth Sutton a Grŵp Russell yn y DU. Yn ychwanegol at hyn, Coleg Gwent, ar y cyd â choleg arall, yw’r coleg gorau ei berfformiad yng Nghymru ar gyfer dysgu galwedigaethol hefyd, gan esgor ar ganlyniadau gwych i ddysgwyr – canlyniadau y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr lleol.
Llwyddodd Sophie Long o Argoed i gael canlyniadau gwych, sef tair A*, gan ei galluogi i fynd i Brifysgol Caergrawnt. Yn ôl Sophie: “Yn y gobaith o fynd i brifysgol fyd-enwog, mae Coleg Gwent wedi bod yn gam defnyddiol o ran meithrin fy ymdrechion i gyflawni hyn, ac roedd gwneud cais yn gynnar i fynd i Gaergrawnt yn arwydd o ba mor ymroddedig yw’r coleg i lwyddiant ei fyfyrwyr.”
P'un a ydych chi'n targedu prifysgol benodol neu'n barod i gychwyn ar eich gyrfa, nid oes amser gwell i gymryd y cam nesaf. Gwnewch gais nawr am gyrsiau sy'n dechrau fis Medi hwn a throi eich ambellion yn realiti.