En

Dewch i wneud eich gorau glas yn Coleg Gwent


21 Medi 2022

Rydym yn croesawu carfan newydd sbon o ddysgwyr uchelgeisiol i Coleg Gwent fis Medi. O unigolion sydd wedi gadael yr ysgol i ddysgwyr sy’n oedolion, rydym yn edrych ymlaen at weld cymuned amrywiol yn ymuno â’n coleg i astudio cyrsiau llawn amser a rhan amser, yn ogystal â chyrsiau ar lefel brifysgol. Rydym wedi bod wrthi’n paratoi ein pum campws ar gyfer myfyrwyr newydd, yn barod i’ch croesawu chi yma gyda ni. Felly, ymunwch â ni i gymryd y cam nesaf ar eich taith addysgol!

Mae ein digwyddiadau glasfyfyrwyr yn llawn hwyl, ac maent yn ffordd dda o ymgyfarwyddo â’ch campws newydd, dod i adnabod tiwtoriaid a staff cymorth, a gwneud ffrindiau newydd. Heb sôn am fachu digonedd o nwyddau am ddim a mwynhau lluniaeth hefyd!

Felly, wrth i ni ddechrau ar y tymor newydd, rydym wedi bod ar grwydr, yn cwrdd â’n dysgwyr diweddaraf yn ffeiriau’r glas, er mwyn dysgu pam eu bod wedi dewis Coleg Gwent, pa gyrsiau maent yn eu hastudio, sut beth yw bywyd coleg, a beth yw eu dyheadau gyrfaol.

Cwrdd â glasfyfyrwyr 2022

Tegan in chefs whites
Mae Tegan, dysgwr Coginio Proffesiynol, yn dyheu am agor ei bwyty 50au retro ei hun un diwrnod:

“Rwy’n edrych ymlaen at ennill cymwysterau yn barod ar gyfer y dyfodol, a dysgu sgiliau newydd. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at ddod yn esiampl i fyfyrwyr newydd y flwyddyn nesaf a all fod yn bryderus. Roeddwn i’n teimlo’n bryderus am ddechrau’r coleg, ond fe wnes i ffrindiau’n hawdd ar y diwrnod cyntaf yma, ac rwyf eisiau dangos i’r myfyrwyr newydd bod modd gwneud hynny.”


Ar ôl rhoi cynnig ar Safon Uwch y llynedd, mae Tony bellach yn astudio cwrs Lefel 3 Dylunio Gemau, sydd yn cyd-fynd yn well â’i ddiddordebau.

“Mae’r Coleg yn llai ffurfiol, ac mae’r amserlen yn fwy llac, a’r ffordd o ddysgu yn fwy annibynnol. Mae astudio un pwnc yn unig yn teimlo’n llai ar wasgar na Safon Uwch, a gallaf ganolbwyntio ar yr hyn rwyf yn ei fwynhau.”

Davey outside college
Mae Davey, sy’n frwd dros geir clasurol, yn edrych ymlaen at ennill diploma mewn Cynnal a Chadw Cerbydau. Mae eisoes wedi sylweddoli ar rai gwahaniaethau rhwng y coleg a’r ysgol:

“Yn y coleg, rydym yn cael ein trin fel oedolion, ac yn gallu dewis pa bynciau rydym eisiau eu hastudio. Mae’n llawer brafiach. Gallwch alw eich tiwtoriaid yn ôl eu henwau cyntaf, ac mae gennym garej enfawr gyda llawer o geir a’r offer diweddaraf i’w defnyddio wrth ein gwaith.”

Rhian

Ar ôl treulio 15 mlynedd yn gweithio yn y maes cymorth dysgu, mae Rhian wedi dod yn ôl i’r coleg fel dysgwr sy’n oedolyn i ddilyn gyrfa yn y byd nyrsio drwy ein cwrs Mynediad:

“Mae dod yn ôl i’r coleg fel oedolyn yn frawychus, ond mae’r staff yn gefnogol, ac nid ydych ar eich pen eich hun byth – maent yno i chi, bob cam o’r ffordd. Rwyf wedi synnu faint rwy’n ei wybod eisoes a chymaint rwy’n ei gofio o’r ysgol.”

Amelia
Mae Amelia yn dechrau ar ei chwrs Trin Gwallt fis Medi, ac mae hi wrth ei bodd yn cwrdd â phobl newydd a rhoi cynnig ar rywbeth mae hi’n ei fwynhau yn y coleg:

“Rwyf wedi mwynhau trin gwallt ers i mi fod yn ifanc, ond nid oedd yn opsiwn i mi yn yr ysgol. Felly, rwyf wedi edrych ymlaen at ddod i’r coleg er mwyn magu hyder ac ymgymryd â rhywbeth rwyf wrth fy modd yn ei wneud. Mae’r tiwtoriaid yn garedig, ac maent yn gwrando arnoch chi, felly rydych yn cael eich trin yn fwy fel oedolyn yma.”

Ashley
Mae Ashley, sy’n 27 mlwydd oed, yn ceisio cyd-bwyso ei gwrs Saernïo a Weldio gyda bywyd teuluol. Mae wedi dod yn ôl i’r coleg nawr, gan fod ei blant wedi dechrau yn yr ysgol, ac mae’n gweithio tuag at yrfa wych:

“Mae’r coleg yn amrywiol iawn. Pan ddechreuais, roeddwn yn teimlo fy mod yn rhy hen i’r coleg, ac yn poeni na fyddwn yn gallu siarad ag unrhyw un. Ond mae myfyrwyr hŷn eraill yn rhan o fy ngrŵp, felly nid wyf yn teimlo allan o le.”

Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn gyffrous yn y coleg ac yn gwybod bod ein myfyrwyr yn megis dechrau ar rywbeth anhygoel. Felly, waeth beth yw eich nodau a’ch dyheadau, dewch i lwyddo yn Coleg Gwent.

Ymunwch â ni fis medi – nid yw’n rhy hwyr ichi wneud cais a rhoi hwb i’ch gyrfa hefyd.!